Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau.

 

Cynhaliwyd yr adolygiad mawr diwethaf o'r gyfundrefn cofrestru a datgan buddiannau yn 2014. Argymhellodd yr adolygiad hwnnw y dylid cyflwyno system o ddatgan buddiannau perthnasol er mwyn gwella tryloywder, yn ogystal â gwneud rhai newidiadau i gategorïau fel ymddiriedolaethau dall a rhanddaliadau.

 

Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i adolygu a yw'r trefniadau ar gyfer cofrestru a datgan buddiannau yn parhau'n addas i'r diben ar draws Busnes y Senedd.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad o ddydd Llun, 6 Mawrth 2023 i ddydd Llun, 24 Ebrill 2023. Cytunodd y Pwyllgor i ymdrin â chofrestru buddiannau’r Aelodau yn gyntaf.

 

¬¬¬ Cofrestru Buddiannau Aelodau

 

Inquiry4

 

Datblygodd y Pwyllgor gynigion ar gyfer newid a rannwyd â rhanddeiliaid allweddol. Yn dilyn sesiynau galw heibio gydag Aelodau a chymariaethau ag arferion mewn mannau eraill, cafodd cynigion manwl eu datblygu a’u cytuno gan y Pwyllgor. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau: Cofrestru Buddiannau, ar 15 Gorffennaf 2025 ac ysgrifennodd at y Pwyllgor Busnes ar 16 Gorffennaf 2025 i dynnu sylw at y newidiadau a argymhellwyd i'r Rheol Sefydlog.

 

zzz

¬¬¬ Datgan Buddiannau Aelodau

 

Inquiry3

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad, ystyriodd y Pwyllgor gynigion ar gyfer newid ac mae'r rhain wedi'u rhannu â rhanddeiliaid allweddol.

 

zzz

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau