Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Senedd
Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Senedd
Mae Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol ac nid oes
ganddo bwerau gweithredol. Cytunwyd ar ei Gylch Gorchwyl (o dan deitl blaenorol
y Pwyllgor, sef y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol) gan y Comisiwn ar 20
Mehefin 2007. Mae’r cylch gorchwyl yn cyd-fynd â chanllawiau’r Trysorlys a
chaiff ei adolygu gan y Pwyllgor o bryd i’w gilydd.
Mae cylch gorchwyl y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn datgan:
Rôl y Pwyllgor yw cynnig
cyngor a chefnogaeth i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ac i’w herio mewn
perthynas â’i chyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu, yn ogystal â rhoi sicrwydd
i’r Comisiwn. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys dyletswydd i sicrhau bod arian
cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd cyson a phriodol gan sicrhau gwerth am
arian wrth ddefnyddio adnoddau.
Mae’n ddyletswydd ar y
Swyddog Cyfrifyddu hefyd i sicrhau bod trefniadau llywodraethu corfforaethol
cadarn ar waith a bod rheolaethau mewnol effeithiol ar gael i sicrhau bod
risgiau’n cael eu nodi a’u rheoli’n briodol.
Math o fusnes:
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2017