Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Cyflwynwyd y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
(y Bil) yn Nhŷ'r
Arglwyddi ar 18 Mai 2021.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau gwella
sgiliau lleol; gwneud darpariaeth ar gyfer addysg bellach; gwneud darpariaeth
ar gyfer swyddogaethau’r Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol ac yn
gysylltiedig â chymwysterau addysg dechnegol; gwneud darpariaeth ar gyfer
cyllid a ffioedd myfyrwyr; gwneud darpariaeth ar gyfer ariannu rhai darparwyr
addysg neu hyfforddiant ôl-16 penodol; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 yn y
Cyfarfod Llawn ar 11 Ionawr 2022.
Daeth Bil Sgiliau
ac Addysg Ôl-16 yn Ddeddf ar 28 Ebrill 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2021
Ar 10 Rhagfyr
2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 123KB).
Cytunodd (PDF
42.4KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 11 Ionawr 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
239KB) ar 10 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF
336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Hydref 2021
Ar 29 Hydref
2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 92.7 KB).
Cytunodd (PDF
42.3KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 16 Rhagfyr 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
283KB) ar 24 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF
336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Gorffennaf 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 88.9KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9
Gorffennaf 2021.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi
cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 21 Hydref 2021. (PDF 45.9KB)
Ar 19 Hydref 2021, cytunodd (PDF 44.5KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn
y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 11 Tachwedd 2021.
Ar 4 Tachwedd
2021, cytunodd
(PDF 46.1KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad
i 16 Rhagfyr 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
283KB) ar 24 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF
336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.
Gwnaeth Y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg osod ei adroddiad (PDF
830KB) ar 16 Rhagfyr 2021.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021
Dogfennau
- Ymateb Llywodreath Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - 18 Ionawr 2022
- Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Gwir Anrhydeddus Nadhim Zahawi AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg - 13 Rhagfyr 2021
PDF 403 KB - Llythyr gan y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg - 25 Tachwedd 2021
PDF 319 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 19 Tachwedd 2021
PDF 132 KB - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig - 12 Tachwedd 2021
PDF 297 KB - Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 18 Hydref 2021
PDF 128 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes – 29 Hydref 2021
PDF 115 KB - Llythyr gan y Weinidog y Gymraeg ac Addysg i'r Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - 1 Hydref 2021
PDF 341 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - 24 Medi 2021
PDF 142 KB - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 - 24 Medi 2021
PDF 160 KB