Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen
Cyhoeddwyd
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu
hen Westy River Lodge, Llangollen ym mis
Mehefin 2012. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gwnaeth Llywodraeth Cymru
benderfyniadau gwallus i brynu hen Westy River Lodge yn 20017 am £1.6 miliwn a
llofnodi cytundeb prydles yn 2009 gyda chorff o’r enw Powys Fadog, ac nad oedd
y penderfyniadau hyn yn cynnig gwerth da am arian. Yng ngoleuni hyn, a’r
tebygolrwydd cynyddol na fyddai Powys Fadog yn gallu cyflawni amodau’r cytundeb
prydles, nododd yr adroddiad fod penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2010 i
werthuso’r opsiynau ar gyfer gwaredu’r eiddo yn ddarbodus ac yn angenrheidiol.
Hefyd, canfu’r adroddiad y bu Llywodraeth Cymru yn araf o ran ymateb i bryderon
mewnol allanol ynghylch uniondeb a gwerth am arian ei benderfyniadau blaenorol.
Nid oedd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn
cynnwys unrhyw argymhellion penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn pryderu’n fawr am ei ganfyddiadau a
chytunodd i gynnal ymchwiliad i’r materion y cododd yr adroddiad, gan roi
ystyriaeth benodol i benderfynu pa wersi y gallai Llywodraeth Cymru eu dysgu
o’r bennod.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2013
Dogfennau
- Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Mehefin 2013
- Ymateb Llywodraeth Cymru - Awst 2013
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Amanda Brewer PDF 63 MB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Karen Sinclair PDF 67 MB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan POl Wong PDF 4 MB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Llywodraeth Cymru PDF 4 MB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Andrew Davies PDF 10 KB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Mark Isherwood AM PDF 5 KB
- Datganiad o ddiddordebt, Mike Hedges AM PDF 167 KB
- Tystiolaeth Ysgrifenedig gan y Swyddfa Archwilio Cymru PDF 106 KB