Recriwtio'r Comisiynydd Safonau
Recriwtio'r Comisiynydd Safonau
Mae Mesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn galluogi Senedd Cymru i benodi Comisiynydd
Safonau, sy’n berson annibynnol, i roi cyngor a chymorth ynghylch unrhyw
faterion o egwyddor yn ymwneud ag ymddygiad Aelodau o’r Senedd.
Tymor gwasanaeth y Comisiynydd yw chwe blynedd fan bellaf. Mae’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar hyn o
bryd wrthi’n recriwtio Comisiynydd newydd.
Mae'r Senedd wedi
penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd Safonau'r Senedd – 17 Mawrth 2021.
Bydd y penodiad
yn dechrau ar 1 Ebrill 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am y Comisiynydd Safonau
ar ei wefan.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2020
Dogfennau