Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE
Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE
Mae'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i rôl
Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.
Diben yr ymchwiliad yw
ystyried safle cyfansoddiadol Cymru yn yr UE, ac yn benodol, sut y caiff Cymru
ei chynnwys yn y drefn o wneud penderfyniadau ar lefel yr UE, yn hytrach na
chynnal trafodaeth fwy cyffredinol ynghylch manteision ac anfanteision
aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r UE, a gwneud argymhellion yn hyn o beth.
Mae cylch gorchwyl yr
ymchwiliad fel a ganlyn:
- Clywed tystiolaeth arbenigol ar sut y caiff
buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu cynrychioli ar hyn o
bryd yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE;
- Ystyried a yw'r trefniadau presennol yn galluogi
Cymru i gael digon o lais yn yr UE;
- Ystyried sut y caiff buddiannau Cymru eu hymgorffori
yn yr 'Adolygiad o’r Cydbwysedd o ran Cymhwysedd rhwng y DU a’r Undeb
Ewropeaidd' a gaiff ei gynnal ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU; a
- Gwneud argymhellion, os yn briodol, ynghylch sut y
caiff buddiannau Cymru o ran y meysydd datganoledig, eu hystyried yn yr
UE.
Mae'r Pwyllgor yn
ymgynghori â rhanddeiliaid a sefydliadau allweddol, a bydd yn clywed
tystiolaeth lafar yn yr haf.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2013
Dogfennau
- Ymchwiliad i rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE: Adroddiad - Mawrth 2014
- Ymateb y Llywodraeth (Saesneg yn Unig) PDF 141 KB
- Llythyr ymgynghori PDF 230 KB
- Ymatabion i'r Ymgynghoriad
- EU 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 295 KB
- EU 2 - Cymdeithas y Cyfreithwyr (Saesneg yn Unig) PDF 87 KB
- EU 3 - Einion Dafydd, Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth (Saesneg yn Unig) PDF 157 KB
- EU 4 - Yr Athro Michael Keating, Prifysgol Aberdeen, yr Alban (Saesneg yn Unig) PDF 138 KB
- EU 5 - Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (Saesneg yn Unig) PDF 237 KB
- EU 6 - Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru (Saesneg yn Unig) PDF 134 KB
- EU 7 - Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop PDF 214 KB
- EU 8 - Fiona Hyslop ASE, Llywodraeth yr Alban (Saesneg yn Unig) PDF 232 KB