Argyfyngau Sifil yng Nghymru
Argyfyngau Sifil yng Nghymru
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru
ei adroddiad ar Argyfyngau Sifil yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2012. Canfu’r
adroddiad fod trefniadau sifil wrth gefn wedi gweithio’n foddhaol yng Nghymru
hyd yn hyn pan fu’n rhaid galw arnynt. Mae hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru
wedi cefnogi ymateb effeithiol a medrus iawn gan y bartneriaeth o sefydliadau
sy’n ymateb i achosion difrifol.
Cafodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sesiwn
friffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar 15 Ionawr 2013 a chynhaliodd
ymchwiliad ar sail y materion a godwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Yn ystod yr ymchwiliad, edrychodd y
Pwyllgor ar y materion canlynol:
- rôl Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU o ran cefnogi sefydliadau sy’n ymwneud â rheoli
argyfyngau sifil posibl;
- golwg
gyffredinol ar yr heriau ariannol y mae sefydliadau’n eu hwynebu o ran
rheoli argyfyngau sifil posibl;
- a’r heriau
penodol y mae pob sefydliad yn eu hwynebu o ran datblygu a gweithredu
cynlluniau argyfwng.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013
Dogfennau