Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU
Ystyried Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU
Gwaith
craffu gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ymateb
Llywodraeth Cymru i Fodiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wrthi’n trafod Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19
y DU, a oedd yn canolbwyntio ar wydnwch pedair gwlad y Deyrnas Unedig a’u
paratoadau ar gyfer argyfyngau posibl. Bydd ein gwaith yn archwilio i ba raddau
y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ganfyddiadau ac argymhellion Modiwl 1,
digonolrwydd y newidiadau a wnaed i'w dull o gynllunio ar gyfer argyfyngau
sifil, a'i pharatoadau ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol.
Cynhaliodd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sesiynau tystiolaeth
lafar gyda rhanddeiliaid allweddol yn ei gyfarfodydd ar 12
Tachwedd 2025, 27
Tachwedd 2025 a 10
Rhagfyr 2025.
Cwblhawyd y
Pwyllgor y broses o gasglu tystiolaeth drwy glywed gan y Gwir Anrhydeddus
Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru yn ei gyfarfod 15
Ionawr 2026.
Bydd y Pwyllgor
yn cyflwyno adroddiad cyn i’r Senedd bresennol gael ei diddymu ar 8 Ebrill
2026.
Cefndir
Ar 6 Mehefin 2025, ysgrifennodd
y Pwyllgor Busnes
at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ofyn a oedd gan y
Pwyllgor gapasiti i arwain y gwaith craffu ar y bylchau a nodwyd gan Bwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru (y Pwyllgor Dibenion Arbennig)
mewn perthynas â Modiwl
1 Ymchwiliad COVID-19 y DU.
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes hefyd a oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus yn rhagweld y byddai ganddo'r capasiti i arwain y gwaith craffu ar
adroddiad Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU, gan gynnwys is-adran 2B fel y
mae'n ymwneud â Chymru.
Cytunodd
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i ymgymryd â'r gwaith
hwn ar y sail y byddai ei gapasiti i wneud hynny yn gyfyngedig, o ystyried ei
raglen waith lawn a'r amser sy'n weddill o dymor y Senedd hon.
Pwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru
Cafodd Pwyllgor
Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru ei sefydlu ar 16 Mai 2023. Roedd cylch
gorchwyl y Pwyllgor fel a ganlyn:
- Trafod yr adroddiadau ar bob cam unigol o
Ymchwiliad COVID-19 y DU, ac yng nghyd-destun cylch gorchwyl ac amserlen
Ymchwiliad COVID-19 y DU, cynnig i’r Senedd, drwy gynnig, unrhyw fylchau a
nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus
eraill Cymru yn ystod y pandemig COVID-19 y dylid eu harchwilio ymhellach;
- yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, cynnal
adolygiad o’r meysydd hynny a nodwyd ar gyfer archwilio pellach; a
- chyhoeddi adroddiadau a gwneud argymhellion
yn unol â hynny.
Ar 18 Gorffennaf 2024,
cafodd adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU, Cadernid
a pharodrwydd y Deyrnas Unedig, ei gyhoeddi. Mae'r adroddiad yn gwneud 10
argymhelliad i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig.
Ar 14
Hydref 2024, cytunodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar ddull ar gyfer ei waith
craffu i nodi unrhyw fylchau, fel y nodir yn ei gylch gwaith, yn adroddiad
Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU. Fel rhan o’r gwaith
o gasglu tystiolaeth, gwnaeth y Pwyllgor:
- gomisiynu adroddiad
dadansoddi bylchau gan academyddion sydd ag arbenigedd mewn argyfyngau
sifil ym Mhrifysgol Nottingham Trent;
- cyhoeddi ymgynghoriad
cyhoeddus; a
- chynnal digwyddiad
i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar 2 Rhagfyr 2024. Cafodd dogfen
grynodeb o'r drafodaeth ei chyhoeddi yn dilyn y digwyddiad.
Ar 26 Mawrth
2025, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ar y bylchau a nodwyd ym mharodrwydd ac ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff
cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID-19 y dylid edrych arnynt
ymhellach: Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU.
Cynhaliwyd dadl
ar adroddiad y Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2025.
Nododd y Senedd y bylchau a amlygwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig a chytunodd
drwy gynnig i:
a.
adolygu’r
model gwytnwch a pharodrwydd mwyaf effeithiol i Gymru;
b.
dysgu’n
effeithiol gan Fforymau Lleol Cymru Gydnerth a’r rhai sydd â diddordeb arbennig
mewn grym gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag argyfyngau sifil posibl yng
Nghymru ar sut y gellir egluro rolau a chyfrifoldebau yn well a gwella
atebolrwydd;
c.
adolygu'r
ffyrdd y cafwyd mynediad at ddata a sut y rhannwyd data yng Nghymru yn fertigol
ac yn llorweddol yn ystod argyfyngau;
d.
ystyried
effeithiolrwydd eglurder, amseroldeb, cydgysylltiad, ac integreiddio cyfleu
polisi a chanllawiau sy’n ymwneud â’r negeseuon cyhoeddus am y pandemig a sut y
gellir gwella hyn yn y dyfodol;
e.
adolygu'r
angen i egluro'n well y rhyngweithio rhwng argyfyngau sifil posibl sy’n croesi
ffiniau a lle mae cyfrifoldebau’n cael eu rhannu, yn aneglur neu'n gymhleth;
f.
adolygu
sut y gellir rhannu arferion a phrosesau gwytnwch blaenllaw ar draws
sefydliadau perthnasol yng Nghymru;
g.
adolygu
sut y gellid ymgorffori’n well anghydraddoldebau cymdeithasol yng nghyd-destun
Cymru yn y prosesau a'r strwythurau parodrwydd a gwytnwch;
h.
adolygu
manteision dull gweithredu sy’n benodol i Gymru sy’n ymgorffori’r hyn a
ddysgwyd gan gymunedau ac arbenigwyr gwytnwch, er mwyn cryfhau systemau a
strwythurau gwytnwch Cymru; ac
i.
ystyried
y ffordd fwyaf effeithiol i Gymru fynd ati i weithredu argymhellion adroddiad
Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU, gan gynnwys:
i.
a oes
adnoddau digonol i weithredu argymhellion megis ymarferion ymateb i argyfwng a
phandemig; a
ii.
sut y
caiff y broses o weithredu’r argymhellion ei monitro’n effeithiol yng Nghymru.
Ar ôl i’r Pwyllgor Diben Arbennig gael ei
ddiddymu ar 8 Hydref 2025, cytunodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus y byddem yn bwrw ymlaen â gwaith y Pwyllgor Diben
Arbennig ar Fodiwl 1. Mae'r bylchau a nodwyd gan y Pwyllgor Diben Arbennig a
amlinellwyd uchod wedi helpu i lywio cwmpas y gwaith hwn.
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/10/2024
Dogfennau
- Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
- Datganiad ysgrifenedig gan Long Covid Support - Ionawr 2026 (Saesneg yn unig)
PDF 168 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - Ionawr 2026
PDF 159 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Anna-Louise Marsh-Rees - Rhagfyr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 204 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) - Rhagfyr 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 28 KB Gweld fel HTML (5) 14 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Saesneg yn unig) - Rhagfyr 2025
PDF 460 KB - Datganiad ysgrifenedig gan Covid Bereaved Families for Justice Cymru (Saesneg yn unig) - Rhagfyr 2025
PDF 311 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru - Tachwedd 2025 (Saesneg yn unig)
PDF 543 KB - Tystiolaeth ysgrifenedig - atodiad 1 (Saesneg ynn unig)
PDF 4 MB - Tystiolaeth ysgrifenedig - atodiad 2 (Saesneg ynn unig)
PDF 15 MB - Tystiolaeth ysgrifenedig - atodiad 3 (Saesneg ynn unig)
PDF 12 MB - Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Busnes - 14 Gorffennaf 2025
PDF 80 KB - Llythyr gan y Pwyllgor Busnes at y Cadeirydd - 6 Mehefin 2025
PDF 81 KB - Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru
- Prifysgol Nottingham Trent - Adroddiad Dadansoddiad o fylchau Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19
PDF 765 KB - Llythyr gan Gyd-gadeiryddion y Pwyllgor at y Pwyllgor Deisebau - Deisebau P-06-1450 a P-06-1488 - 11 Mawrth 2025
PDF 186 KB Gweld fel HTML (16) 41 KB - Llythyr gan y Prif Weinidog at Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor - 10 Mawrth 2025
PDF 143 KB - Llythyr gan Ymchwiliad Covid-19 y DU i Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru (Saesneg un unig) – 25 Chwefror 2025
PDF 336 KB - Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Gyd-Gadeiryddion y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru - Deiseb P-06-1450 – 18 Chwefror 2025
PDF 114 KB - Llythyr gan Gyd-gadeiryddion y Pwyllgor at y Prif Weinidog – 31 Ionawr 2025
PDF 92 KB - Llythyr gan Gyd-gadeiryddion y Pwyllgor at Ymchwiliad Covid-19 y DU – 30 Ionawr 2025
PDF 91 KB - Dogfen Cryno – Digwyddiad i Randdeiliaid 2 Rhagfyr 2024
PDF 2 MB - Llythyr wrth Cyd-Gadeirdyddion y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru at y Grŵp Arsylwi Pwyllgor Covid - 21 Hydref 2024
PDF 95 KB - Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Deiseb P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy’r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd - 10 Hydref 2024
PDF 104 KB - Llythyr gan Grŵp Arsylwi Pwyllgor Covid at Cyd-Gadeirdyddion y Pwyllgor (Saesneg yn unig) - 19 Medi 2024
PDF 491 KB - Amserlen Modiwl 1 y Pwyllgor
PDF 140 KB
Ymgynghoriadau
- Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 y DU (Wedi ei gyflawni)