Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid (Rhif 2)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid (Rhif 2)
Cyflwynwyd y Bil Cyllid (Rhif 2) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 2 Rhagfyr 2025.
Mae enw hir y Bil
yn nodi ei fod yn Fil i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â chyllid.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pryd mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd
Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror 2026.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 113KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 16
Rhagfyr 2025.
Ar 16 Rhagfyr
2025, cytunodd y Pwyllgor Busnes i wahodd y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol gyflwyno adroddiad i’r Senedd erbyn 30 Ionawr 2026
(PDF 77KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 200KB) ar 29 Ionawr 2026.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2025
Dogfennau
- Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid (Rhif 2) - 17 Chwefror 2026
- Llythyr at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid (Rhif 2) - 26 Ionawr 2026
PDF 95 KB