Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach

Ar 11 Mehefin 2024, trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Mark Drakeford AS, Adam Price AS, Jane Dodds AS a Paul Davies AS a oedd yn cynnwys cynnig i dreialu fformat achlysurol newydd ar gyfer dadleuon yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher sy’n canolbwyntio ar ‘ddewisiadau gwleidyddol allweddol’.

 

Ym mis Hydref 2024, trafododd y Pwyllgor opsiynau ynghylch amserlennu, natur a strwythur treial posibl o ddadl ffurf hirach achlysurol yn ystod 2025.

 

Ymgynghorodd y Pwyllgor Busnes â grwpiau’r pleidiau ac Aelodau o’r Senedd a oedd wedi gwneud y cynnig gwreiddiol ar ei ddull arfaethedig o ymdrin â’r treial.

 

Trafododd yr ymatebion a gafwyd ym mis Rhagfyr 2024 a chytunodd i amserlennu tair ‘dadl agored’ ar sail treial yn ystod 2025.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes ganllawiau i’r aelodau, a chytuno arnynt, yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror cyn y ddadl gyntaf, sydd i’w chynnal ar 19 Mawrth 2025.

 

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/01/2025