P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo
P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Bryony Davies, ar ôl casglu 10,867 lofnodion ar lein a 7,016
lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 17,883 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae ymgynghoriad Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar wasanaethau strôc llawn o
Ysbyty Bronglais, gan orfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i
wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd.
Rydym yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith, gan fynnu bod
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn asesu'r effeithiau hyn yn llawn ac yn
ymrwymo i gynnal Bronglais fel uned adsefydlu strôc, gan amddiffyn gwasanaethau
iechyd hanfodol yng Nghanolbarth Cymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae'r
ymgynghoriad yn cynnig israddio uned strôc Bronglais i fodel 'Trin a
Throsglwyddo', a fyddai’n gorfodi cleifion ar daith anniogel o 90 munud hyd at
ddwy awr i Lanelli neu Hwlffordd.
*Nid oes
tystiolaeth sy’n rhoi sylw i risgiau'r trosglwyddiadau hyn o ystyried
daearyddiaeth wledig, poblogaethau sy'n heneiddio a thrafnidiaeth wael.
*Bydd cefnogaeth
deuluol, sy'n hanfodol ar gyfer adferiad, yn amhosibl oherwydd pellteroedd, gan
niweidio canlyniadau.
*Mae Bronglais yn
gyson yn sgorio'n uwch mewn archwiliadau strôc na'i gymheiriaid ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda.
*Mae Bwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda yn derbyn bod prinder staff sylweddol a chyllid ansicr,
sy’n golygu bod y newidiadau hyn yn anniogel ac yn afrealistig.
*Bronglais yw'r
unig Ysbyty Cyffredinol Dosbarth mewn radiws o 60–100 milltir (ar ffyrdd nad
ydynt yn draffyrdd) sy'n gwasanaethu ardaloedd ymhell y tu hwnt i ffiniau
ffurfiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i Dde Meirionnydd a Phowys.
Mae'r cynlluniau
yn yr ymgynghoriad yn tanseilio egwyddorion mynediad teg at ofal iechyd, gan
roi trigolion Canolbarth Cymru o dan anfantais anghymesur.
Rydym am i'r
Senedd sicrhau gwasanaethau strôc teg a lleol yng Nghanolbarth Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 02/03/2026 penderfynodd
y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/10/2025.
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/10/2025