Cofrestr Buddiannau

Peredur Owen Griffiths AS

Cofrestr o fuddiannau, a chofnod o aelodaeth o gymdeithasau ac aelodau o’r teulu a gyflogir

Cofrestr o fuddiannau ariannol a buddiannau eraill

1. Categori 1: Swyddi Cyfarwyddwr
Cofnod ynghylch Enw’r cwmni a natur y busnes
DimDim
2. Categori 2: Cyflogaeth, Swydd, Proffesiwn, ayb Am Dâl
Cofnod ynghylch Enw’r cwmni, natur y swydd a’r busnes
Priod Swyddog Cyfathrebu, Plaid Cymru
Aelod Wedi derbyn £75 am un sesiwn recordio raglenni Dechrau Canu Dechrau Canmol ar gyfer S4C fel aelod o gôr. Nid yw hwn yn waith parhaol - roedd yn un sesiwn o tua 5 awr (RhS 4.3 - Band 1 - Llai na 5 awr yr wythnos)
Aelod Wedi derbyn £55 gan Tinopolis i dalu costau teithio ac am ymddangos ar Pawb a'i Farn yn Llanelli ar 1 Rhagfyr 2022 (RhS 4.3 - Band 1 - Llai na 5 awr yr wythnos)
3. Categori 3: Enwau’r cleientiaid
Cofnod ynghylch Enw’r cleient a natur busnes y cleient
DimDim
4. Categori 4: Rhoddion, lletygarwch, buddion materol neu fantais faterol
Cofnod ynghylch Disgrifiad o’r rhodd ac enw’r person neu’r sefydliad
Aelod Tocyn i Gem Rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc er mwyn gallu canu yr anthem ar y cae cyn y gem gyda fy nghôr CF1 ar y 11 Mawrth 2022 gan Undeb Rygbi Cymru drwy law Côr CF1.
Aelod Dau docyn a lletygarwch i Dreigiau yn erbyn Caerloyw ar 9 Ebrill 2022 gan BT - staff cymorth yr Aelod oedd y gwestai.
Aelod Tocynnau ar gyfer Bafta Cymru i'r Aelod a'i wraig - tocynnau i'r digwyddiad a'r parti ar ôl y sioe.
Aelod Tocynnau i'r Aelod a'i wraig ar gyfer recordiad sioe Nadolig Luke Evans yn ICC Wales gan BBC Cymru (gan gynnwys derbyniad diodydd cyn recordio) ar 10 Tachwedd 2022.
Aelod a'i bartner Tocynnau i BBC Canwr y Byd Caerdydd
Aelod Cymryd rhan yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Lincoln, Nebraska ar 29 Awst – 4 Medi 2023, a drefnwyd gan Gymdeithas Cymry Gogledd America. Wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a rhoi dwy seminar. Aeth ei wraig gyda'r aelod i'r ŵyl. Roedd lletygarwch yn cynnwys gwesty yn y Marriott Cornhusker ($798.54), tocynnau penwythnos i'r ŵyl ($160), tocynnau i’r cyngerdd agoriadol ($50), tocynnau i'r wledd fawreddog ($140), a thocynnau i'r gyngerdd mawreddog ($80). Cyfanswm gwerth y lletygarwch oedd $1228.54 (£986.03).
Aelod a'i bartner Tocynnau i dderbyniad a chyngerdd gan Catrin Finch ac Aoife Ni Bhriain ar 10 Tachwedd 2023 yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama a ddarparwyd gan Gonswl Iwerddon, gwerth £22 yr un.
5. Categori 5: Tâl neu fuddion materol eraill
Cofnod ynghylch Taliad neu fudd a’r sefydliad perthnasol
DimDim
6. Categori 6: Nawdd Ariannol
Nawdd fel ymgeisydd neu Aelod, a’r swm Noddwr a natur y busnes os yw’n gwmni
Ymgeisydd Talwyd am 100 y cant o gostau etholiad 2021 gan Blaid Cymru.
7. Categori 7: Ymweliadau Tramor
Cofnod ynghylch Dyddiad(au), cyrchfan, diben a phwy a dalodd y costau
Aelod 26 Mai 2022 - Valencia, Sbaen - I gymryd rhan mewn uwchgynhadledd ar wythnos waith pedwar diwrnod gyda gwleidyddion eraill ac arbenigwyr - Talwyd am hyn gan Is-weinyddiaeth Cyflogaeth Llywodraeth Valencia.
8. Categori 8: Tir ac Eiddo
Cofnod ynghylch Natur yr eiddo a’r maes cyffredinol
DimDim
9. Categori 9: Cyfranddaliadau
Cofnod ynghylch Enw’r cwmni neu’r corff, a natur y busnes
DimDim
10. Categori 10: Aelodaeth/Cadeiryddiaeth cyrff sy’n derbyn arian gan y Senedd
Cofnod ynghylch Enw’r sefydliad a’r swydd a ddelir
Aelod Cynghorydd ac Aelod - Cynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd, Penyrheol ac Energlyn (yn bwriadu sefyll i lawr yn yr etholiad nesaf ac nid yw wedi derbyn unrhyw fudd o fod yn gynghorydd ers dod yn Aelod o’r Senedd) (wedi dod i ben ym mis Mai 2022).
Aelod Llywodraethwr ar Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon

Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau

11. Cofnod o Aelodaeth o Gymdeithasau
Enw’r clwb neu’r gymdeithas
Dim

Cofnod o gyflogaeth o aelodau’r teulu gyda chymorth arian y comisiwn

12. Cofnodi Cyflogaeth Aelodau’r Teulu
Enw’r cyflogai a’i berthynas â’r AS Swydd, dyddiadau’r gyflogaeth a’r oriau ar y contract
DimDim