Penderfyniadau

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/07/2013 - P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei farn am y ddeiseb;

·         ysgfrifennu at bob Bwrdd Iechyd Lleol yn holi am wybodaeth ychwanegol ynghylch darparu gwasanaethau; a

·         gwneud cais am bapur briffio gan y gwasanaeth ymchwil.