Penderfyniadau

P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i rhoi wybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/07/2013 - P-04-482 Hysbysfyrddau cyhoeddus ar draws Cymru i roi gwybod i’r cyhoedd pwy yw eu cynrychiolwyr gwleidyddol

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;

o   ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu barn am y mater:
CLlLC;

o   Un Llais Cymru;

o   Y Comisiwn Etholiadol;

o   Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol; a

o   cheisio cael eglurder ynghylch a fyddai Comisiwn y Cynulliad yn gallu gwneud sylw ac, os felly, beth yw ei farn.