Penderfyniadau

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

23/01/2013 - Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the Food Hygiene Rating (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 17.20

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


23/01/2013 - Stage 3 Standing Order 26.44 debate on the Food Hygiene Rating (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1.Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a'u cyhoeddi

12, 1, 13, 2, 14, 3

2.Cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar ddeunydd hyrwyddo

9, 21, 22, 10, 23, 11, 25, 5, 8

3. Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd lluosog

4, 7

4. Troseddau

24, 26, 27

5. Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

15, 16, 17, 18, 19

6. Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig

6

7.Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau

20

 

Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Tynnwyd gwelliant 12 yn ôl.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 13.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, methodd gwelliant 14.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

For

Abstain

Against

Total

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 10 ac 11.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 21:

For

Abstain

Against

Total

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 21.

Gan fod gwelliant 21 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 22, 23 a 25.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 24:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 24.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 26:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 26.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 27:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 27.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

For

Abstain

Against

Total

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Tynnwyd gwelliant 15 yn ôl.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 20:

For

Abstain

Against

Total

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


24/10/2012 - Financial Resolution in relation to the Food Hygiene Rating (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.49

NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


17/10/2012 - Motion to approve the General Principles of the Food Hygiene Rating (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16.13


NDM5063 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol  Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 4 Hydref 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


30/05/2012 - Statement by the Minister for Health and Social Services: Introduction of the Food Hygiene Rating (Wales) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16:00