Penderfyniadau
Dadl Fer - y Pedwerydd Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
17/03/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.55
NDM6008 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Caerfyrddin 1966 a 2016: 50 mlynedd sydd wedi newid
Cymru
Hanes datganoli ers 1966 a'r potensial i greu
llywodraeth ddatganoledig yn y dyfodol a fydd yn darparu gwasanaethau
ardderchog.
10/03/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.19
NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cadw
llywodraeth leol yn lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau
uno Llywodraeth Cymru.
03/03/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM5982 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd)
Bwyd da i bawb: cyflawni'r nod arlwyo 'Bwyd am Oes'
yn ysgolion Cymru.
25/02/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.38
NDM5975 Russell George (Sir
Drefaldwyn)
Darparu ar gyfer canolbarth Cymru - pam fod angen
signal ffonau symudol cyffredinol i drawsnewid economi canolbarth Cymru.
11/02/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
18.08
NDM5953
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Pwysigrwydd
ysgolion gwledig: Y modd y mae ysgolion yn enaid cymunedau gwledig.
04/02/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd
yr eitem am 17.56
NDM5944 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru)
Cartref pêl-droed: y ddadl o blaid sefydlu
amgueddfa genedlaethol bêl-droed yn Wrecsam.
28/01/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.11
NDM5936 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru.
Yr angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau
cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o fuddsoddiad ynddynt.
21/01/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen)
Strategaeth genedlaethol ar
ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser.
14/01/2016 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 19.11
NDM5917 William Powell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cenedl sy'n cynnig lloches? Y rôl y gall Cymru ei
chwarae yn yr argyfwng ffoaduriaid.
10/12/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5907 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion
diodydd: mae'n amser i ystyried y syniad hwn unwaith eto.
03/12/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM5897 Christine Chapman (Cwm
Cynon)
Gwastraffu ein talent? Menywod a'r economi yng
Nghymru.
26/11/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.45
NDM5887 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pentecostiaeth yng
Nghymru: Pam ddylai Cymru wneud mwy i ddathlu ei threftadaeth gyfoethog
Pentecostaidd.
19/11/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM5876 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):
Y
frwydr yn erbyn gwastraff bwyd: rhoi'r gorau i wastraffu bwyd da yng Nghymru
12/11/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.49
Dadl Fer - Altaf Hussain
(Gorllewin De Cymru)
Heintiau sy'n cael eu dal mewn ysbytai: yr heriau
a'r atebion
05/11/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.41
NDM5863 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Cartrefi'r 21ain Ganrif: yr achos dros dai di-garbon yn awr
22/10/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5853 Lynne Neagle (Torfaen)
Mynd
i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc - rhoi terfyn ar ddefnyddio llety
gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru.
15/10/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.42
NDM5844 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Diogelu cleifion yn Sir
Benfro - pam mae angen gwasanaethau hanfodol yn Ysbyty Llwynhelyg.
08/10/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5837 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Dyfodol adeiladau capeli yng Nghymru
01/10/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM5829 Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal lliniarol yng Nghymru: edrych y tu hwnt i 2016.
24/09/2015 - Dadl Fer - Tynnwyd yn ôl
NDM5824 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Gwneud yn iawn am
anghyfiawnder hanesyddol: achos Linda Lewis
17/09/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.50
NDM5819 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ffracio:
Gweithredu moratoriwm ar gyfer Cymru
16/07/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.16
NDM5816
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal
pobl rhag bod yn destun sgamiau.
09/07/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
16.35
NDM5811
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Y
rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru.
08/07/2015 - Short Debate - postponed from 24 June
Dechreuodd yr eitem am
18.21
NDM5793
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Hofrennydd
heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y
cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
02/07/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM5794 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Y bygythiad o radicaleiddio Islamaidd: Sut y gallwn
fynd i'r afael ag eithafiaeth drwy gydweithio.
25/06/2015 - Short Debate - Postponed
NDM5793 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys: pam mae'r X99 yn
darparu cefnogaeth hanfodol i ddiogelwch y cyhoedd yng Nghanolbarth a Gorllewin
Cymru.
18/06/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.59
NDM5783
Nick Ramsay (Mynwy)
Clefydau'r croen: Blaenoriaethu anghenion pobl yng
Nghymru sydd â chlefydau sy'n effeithio ar y croen.
11/06/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.34
NDM5782 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Gastroenteroleg
- gwella ymwybyddiaeth a thriniaeth yng Nghymru
04/06/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.58
NDM5771
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Môn Mam Cymru: ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd
01/06/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM5758
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Addysg heblaw yn yr ysgol
21/05/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem
am 16.50
NDM5766 Keith Davies (Llanelli)
Ysgogi'r economi
yng ngorllewin Cymru.
Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf.
07/05/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.41
NDM5749 Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Wynebu her tlodi tanwydd
23/04/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.19
NDM3740 Russell George (Sir
Drefaldwyn)
Gofal Iechyd yng nghanolbarth Cymru
Yr heriau sydd ynghlwm â darparu gofal iechyd yng nghefn gwlad canolbarth Cymru
mewn cyd-destun trawsffiniol a materion sy'n ymwneud ag Astudiaeth Gofal Iechyd
Canolbarth Cymru.
23/04/2015 - Short Debate - Withdrawn
NDM5726 Leanne Wood (Canol De Cymru)
Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan
Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o ddatganoli i
wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt.
26/03/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5734
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cadw lonydd gwyrdd yn wyrdd: gweithio i annog pobl i
beidio â gyrru oddi ar y ffordd yng ngogledd Cymru
Bydd y ddadl hon yn ymdrin â'r effaith y mae'r weithgaredd
hamdden newydd a phoblogaidd o yrru ar lonydd gwyrdd yn ei chael ar gefn gwlad
gogledd Cymru.
19/03/2015 - Short Debate - Postponed
12/03/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.29
NDM5714 Russell George (Sir
Drefaldwyn)
Gweithgareddau'r Grid Cenedlaethol yng nghanolbarth
Cymru.
Atal Sir Drefaldwyn rhag cael ei diwydiannu a'i
dinistrio.
05/03/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.43
NDM5708 Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe):
Cyfeillio - atal unigrwydd
Defnyddio cyfeillio i atal pobl rhag bod yn unig ac yn ynysig.
26/02/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.51
NDM5703 Andrew RT
Davies (Canol De Cymru)
Adnabod eich prostad!
Canser y prostad yng Nghymru - yr afiechyd cudd.
12/02/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM5688 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Ail-agor Twnnel y Rhondda
Mae cynigion i ail-agor y
twnnel rheilffordd segur rhwng Blaengwynfi a Blaencwm yn rhoi cyfle mawr ar gyfer
adfywio a arweinir gan bobl yn y Cymoedd ac mae hwn yn fan cychwyn ar gyfer
gwelliannau ehangach wedi'u harwain gan y cymunedau hynny.
05/02/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd
yr eitem am 18.01
NDM5685 Peter Black
(Gorllewin De Cymru)
Cynlluniau
pensiynau diffoddwyr tân: sicrhau chwarae teg
Sicrhau
nad yw cyn-ddiffoddwyr tân ar eu colled o ganlyniad i'r cynllun pensiwn
diffoddwyr tân newydd.
29/01/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.55
NDM5679
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cefnogi sefydlu Rhwydwaith Cydgynhyrchu i Gymru
Adeiladu ar ein traddodiadau gorau o gydweithredu a
chymuned, i drawsnewid Cymru yn gymdeithas sy'n rhoi egwyddorion cydgynhyrchu yn
ganolog i'w gwasanaethau cyhoeddus, ei chymunedau a bywydau ei dinasyddion.
22/01/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.19
NDM5669 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Dangos y faner goch i Gylchffordd Cymru –
amlinellu'r pryderon am brosiect Cylchffordd Cymru.
15/01/2015 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.33
11/12/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.05
NDM5647 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Sicrhau dyfodol ffermio yng
Nghymru
Yr hyn y gall Cymru ei ddysgu
wrth ei phartneriaid yn yr UE i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn
gallu cael mynediad i dir, adeiladu eu busnesau a manteisio'n llawn ar
gronfeydd datblygu Ewropeaidd.
27/11/2014 - Short Debate - Postponed from 19 November 2014
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM5629
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn
yn y gweithlu ledled Cymru.
27/11/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.47
NDM5635 Nick Ramsay (Mynwy)
Cŵn Tywys Cymru: rhyddid
i symud i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru.
I godi ymwybyddiaeth ynghylch
gwasanaethau Cŵn Tywys Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru
ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg.
20/11/2014 - Short Debate - Postponed
06/11/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.24.
NDM5612 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Gwella bywydau pobl hŷn
Pum ffordd syml a rhad o wella
bywydau pobl hŷn.
23/10/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.36
NDM5607 Lynne Neagle (Torfaen)
Ffrindiau Dementia - Gweithio
tuag at gymunedau sy'n ystyriol o ddementia ledled Cymru
22/10/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM5602
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r
ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru.
Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd
seilag a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn
ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.
09/10/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.24
NDM5594 Keith Davies
(Llanelli)
Adfywio Trefol 2.0 - Creu cymunedau trefol a chanol trefi cynaliadwy.
02/10/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.25
NDM5586 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru)
Cyfranogiad etholwyr a sut y gallwn gael pethau'n iawn mewn perthynas â
democratiaeth.
Yn dilyn y refferendwm yn yr Alban, sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol
gynyddu nifer yr etholwyr sy'n cyfranogi, ac a oes angen edrych ar ffyrdd
newydd o gael pobl i bleidleisio?
25/09/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.59
18/09/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:47
NDM5564 Suzy Davies (Gorllewin
De Cymru)
Gohebiaeth ar bapur: hawl y defnyddiwr i ddewis
17/07/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.25
NDM5559 Eluned Parrott (Canol De Cymru): Chwarae teg? Amser i ymgynghori ar daliadau comisiwn tecach wrth werthu
cartrefi mewn parciau.
Bydd y ddadl yn canolbwyntio ar y taliadau
comisiwn sy’n daladwy i berchnogion safleoedd pan fo perchnogion cartrefi mewn
parciau yn gwerthu eu heiddo.
10/07/2014 - Dadl Fer - gohiriwyd o 18 Mehefin 2014
Dechreuodd yr
eitem am 18.11
NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)
Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda
Chlefyd Niwronau Motor yng Nghymru.
10/07/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.53
NDM5553 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Y daith at ddysg: y ddarpariaeth o drafnidiaeth i ysgolion a cholegau yng
Nghymru
03/07/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.03
NDM5543 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Gweinyddu
cynllun y bathodyn glas gan gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru.
26/06/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.57
NDM5532
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
UEFA 2020 – Caerdydd, y ddinas berffaith i gynnal y
bencampwriaeth
Mae cais Caerdydd i gynnal gemau allweddol ym
Mhencampwriaethau Ewrop UEFA yn 2020 yn gyfle i atgyfnerthu lle Cymru ar lwyfan
chwaraeon y byd.
19/06/2014 - Short Debate - Postponed
NDM5528 Nick Ramsay (Mynwy)
Llais - Siarad ar ran pobl sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau
Motor yng Nghymru.
12/06/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.15
NDM5523 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Datganoli: Ysgogwr Arloesedd
Sut y mae datganoli wedi rhoi'r cyfle i ddatblygu mesurau arloesol yng
Nghymru a sut y mae elfennau arloesol o'r fath wedi dylanwadu ar weddill y DU.
05/06/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.32
NDM5517 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Atebolrwydd rheolwyr GIG Cymru
Archwilio rôl a chyfrifoldeb byrddau a swyddogion y GIG o ran cyflenwi
gofal diogel ac effeithiol yng Nghymru.
22/05/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.49
NDM5513 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru
Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng
Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio
plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
15/05/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.30
NDM5503 William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Parciau Cenedlaethol Cymru: Dychwelyd i'w
gwreiddiau i gynllunio ar gyfer dyfodol cryfach
Bydd ailystyried y cymhelliant ar gyfer dynodi tri Pharc Cenedlaethol
Cymru yn ein galluogi i asesu eu perthnasedd i Gymru yn yr unfed ganrif ar
hugain. Bydd cydbwyso'r buddiant lleol a'r arwyddocâd cenedlaethol yn hanfodol
i'w dyfodol.
08/05/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.10
NDM5496 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Cost bod yn dlawd
Sut y mae benthycwyr llog uchel a darparwyr eraill yn gwneud i bobl dlawd
dalu mwy.
01/05/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.46
NDM5488 Christine Chapman (Cwm Cynon)
200,000 o blant tawel?
Ystyried anghenion plant sy’n dioddef gan fod eu rhieni wedi’u carcharu.
03/04/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM5483 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau
Rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru
Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r ganolfan HS2
yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac Arfordir
Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion.
27/03/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.12
NDM5476 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Denu Merched i Wyddoniaeth – yr achos dros
fanteisio i'r eithaf ar botensial gwyddoniaeth yng Nghymru
20/03/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.53
NDM5466 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Achub ein Gwasanaethau – Ymgyrch
pobl Sir Benfro i gadw gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg.
12/03/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.50
NDM5447 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Adeiladwch hi ac mi ddôn nhw?
Yr achos dros reilffordd rhwng Caerfyrddin ac
Aberystwyth.
05/03/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am
17.50
NDM5445 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Llong Ganoloesol Casnewydd – Wedi'i suddo ym 1469
ac yn 2014?
Cynyddu ymwybyddiaeth ac arwyddocâd hanesyddol
unigryw'r llong hon i sicrhau ei chadwraeth a'i harddangos yng Nghasnewydd
19/02/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.54
NDM5431 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru)
Agor y Porth i Gymru
Sut i adfywio economi de-ddwyrain Cymru.
12/02/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.52
NDM5419 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rheoli diwygio lles
Sut y mae cynghorau
lleol yn defnyddio taliadau tai yn ôl disgresiwn i liniaru effaith newidiadau i
fudd-dal tai.
06/02/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.15
NDM5388
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Pobl hyn, twyll a throseddau ar garreg y drws
30/01/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.50
NDM5413
Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Cyflogaeth i Raddedigion - Atal y Draen Dawn i Loegr
Creu swyddi a chyfleoedd yng Nghymru i'r graddedigion gorau a
mwyaf deallus o Brifysgolion Cymru
23/01/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.49
NDM5406
Leanne Wood (Canol De Cymru):
Y dechrau gorau mewn bywyd: Dyhead gwirioneddol i bawb?
Yr angen i sicrhau cyfle cyfartal i deuluoedd difreintiedig
fanteisio ar ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg cyfrwng Cymraeg.
16/01/2014 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.08
NDM5391
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pam mae undebaeth lafur yn dal yn bwysig yng Nghymru
Archwilio sut y mae undebau llafur wedi esblygu yng Nghymru
wrth iddynt barhau i gynrychioli buddiannau a phryderon eu haelodau, yn enwedig
yn yr hinsawdd o gyni sydd ohoni.
12/12/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.02
NDM5384 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd): E-sigaréts:
Faint o reoleiddio sydd ei angen arnom?
05/12/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.55
NDM5378 Simon Thomas (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): Yr “hun-lun”
cenedlaethol: pam mae geiriadur cenedlaethol Cymraeg yn helpu i ddiffinio’r
genedl
28/11/2013 - Short Debate - Re-scheduled from 25 September
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM5305
Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision
Canmlwyddiant Dylan Thomas i Gymru
28/11/2013 - Dadl Fer
Ni
chyflwynwyd testun.
21/11/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.18
NDM5360 Keith Davies
(Llanelli): Rheoleiddio gorfodol
gan y wladwriaeth ar gyfer y diwydiant
trin gwallt yng Nghymru: pryder
iechyd cyhoeddus
ehangach.
14/11/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.53
NDM5352 Kirsty Williams (Brycheiniog a
Sir Faesyfed): Anghyfleusterau Cyhoeddus
- Pam y mae Toiledau Cyhoeddus yn bwysig
07/11/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.26
NDM5347
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin
Cymru):
Diogelwch Plant Ar-lein
Datblygu gwybodaeth a chadernid drwy addysg.
24/10/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.08
NDM5338
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Bae
Abertawe Dinas Diwylliant – cyfle creadigol i'r economi.
Cais Rhanbarth Bae Abertawe ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017 a'r manteision i economi Cymru yn sgîl cais llwyddiannus.
17/10/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM5330 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Awtistiaeth: Yr
angen am ddiagnosis amserol yng Nghymru
10/10/2013 - Short Debate - Re-scheduled from 2 October 2013
Dechreuodd yr eitem
am 17.49
NDM5322
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gwasanaethau Bws
Gwledig yng Nghymru – Ar y Ffordd i Nunlle
10/10/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem
am 17.31
NDM5320
Eluned Parrott (Canol De
Cymru): Dewisiadau Cadarnhaol
– rhoi'r sgiliau
a'r profiad i bobl ifanc ddatblygu
gyrfa.
11/07/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5291
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Buddsoddi yn
ein dyfodol
Rôl bwysig Undebau Credyd i greu cymunedau
cynaliadwy.
04/07/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 16.58
NDM5281
Nick Ramsay (Mynwy): Y Llinyn
o Undod: Cynorthwyo Dioddefwyr Strôc yng Nghymru
Tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio i oresgyn strôc drwy amrywiaeth
o therapïau a thriniaethau.
27/06/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.30
NDM5273
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):
Y Fagl i Rieni: Mae gofal plant rhy ddrud yn atal
teuluoedd rhag gweithio
20/06/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM5267
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r
Parth Clustogi glo brig yn addas
at y diben?
Dadl sy'n
trafod y problemau sydd wedi codi
ers i'r parth
clustogi gael
ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw
mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch
i gymunedau sy'n byw gyda chloddio
glo brig.
13/06/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.00
NDM5266
Leanne Wood (Canol De Cymru):
GIG sy'n addas i bawb
– tuag at ddewis arall yn lle
canoli.
12/06/2013 - Short Debate - postponed from 8 May 2013
Dechreuodd yr eitem am 16.44
NDM5234
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru) Gwybod am y Gwenyn: Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod
iechyd gwenyn fel peillwyr.
06/06/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem
am 17.01
NDM5255
Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw'r
ateb wir yn chwythu yn
y gwynt? Y cymysgedd o ynni adnewyddadwy a'r galw cynyddol am ynni dwr.
Dadl sy'n
cwestiynu a oes gan Lywodraeth
Cymru y strategaeth ynni adnewyddadwy gywir o ran rhoi gormod o bwyslais ar gynhyrchu ynni
drwy wynt ar y tir.
23/05/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.17
NDM5244
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):
Pa mor Ddiogel yw
Diogel?: Goblygiadau
i'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr
o ystyried y Bil Teithio Llesol
Dadl i drafod beth yw
taith gerdded neu feicio ddiogel
i'r ysgol.
16/05/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM5238
Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
Niwroffisiotherapi yng
Nghymru
Dadl ar ddarparu ffisiotherapi i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol.
09/05/2013 - Dadl Fer
NDM5234
Antoinette Sandbach (Gogledd
Cymru): Gwybod am y Gwenyn
Rôl gwyddoniaeth
o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr.
02/05/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM5215
Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Adeiladu Rhwydwaith Ffyrdd Gwledig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain: Yr achos dros wneud gwaith deuoli ar yr A40 yn Sir Benfro
25/04/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.59
NDM5210 Eluned Parrott (Canol De Cymru):
Cefnu ar
ein Brodyr - Asesu cefnogaeth i Anhwylder Straen Wedi Trawma yng
Nghymru.
Dadl am Bersonél
Arfog ac Argyfwng yng Nghymru sy'n
dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma
a'r ffyrdd y gall Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Sector Gwirfoddol helpu.
24/04/2013 - Short Debate - postponed from 20 March 2013
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM5208
Ken Skates (De Clwyd): Y tu hwnt i Fae Caerdydd – Rôl newidiol cyfryngau lleol a
rhanbarthol ledled Cymru.
18/04/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.17
NDM5203
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru):
‘Why not Dilnot?’ Talu am ofal cymdeithasol i’r henoed yng Nghymru.
14/03/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.17
NDM5183
Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar gyfer Sir Benfro – gwasanaethau diogel a chynaliadwy?
07/03/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem
am 17.42
NDM5175
William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru):
Cefnogi’r economi wledig.
Mae’r ddadl yn ymwneud
â datblygu rhwydwaith bancio gwledig.
28/02/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.39
NDM5173 Llyr Huws Gruffydd
(Gogledd Cymru):
Sgan mewn pryd – Sgan MRI o’r fron ar gyfer merched ifanc risg uchel
21/02/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.38
NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen):
Lleddfu’r Ergyd
Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru
07/02/2013 - Short Debate - postponed from 23 January
Dechreuodd yr eitem am 17.43
NDM5145 Kirsty Williams (Brycheiniog a
Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw
ac mewn Argyfwng - Y bygythiadau i ddiwydiant Cig Oen Cymru a’r
angen i weithredu
07/02/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5160 Nick Ramsay (Mynwy):
Cyfrifiadura Perfformiad
Uchel – Pweru arloesedd er lles
economi Cymru
31/01/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.04
NDM5158 Leanne Wood (Canol De Cymru):
Cymunedau Cymraeg
– y dyfodol
Sicrhau parhad yr iaith Gymraeg.
24/01/2013 - Dadl Fer
NDM5145 Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Arbennig, Unigryw
ac mewn Argyfwng
Y
bygythiadau i ddiwydiant
Cig Oen Cymru a’r angen i weithredu.
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio yn gynharach yn nhrafodion y dydd.
17/01/2013 - Short Debate - postponed from 5 December
Dechreuodd yr eitem am 18.23
NDM5113 Ken Skates (De
Clwyd):
Y
Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd
a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd
maethol Cymru
17/01/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.59
NDM5135 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):
Pwysigrwydd cynnal
gofal newyddenedigol lefel 3 yng Ngogledd
Cymru
Dadl yn
tynnu sylw at y bygythiad i wasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 i rieni yng Ngogledd Cymru, a’r effaith bosibl
ar deuluoedd a phlant yng Ngogledd
Cymru.
10/01/2013 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.47
NDM5128 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):
‘Sut y mae mynd
â Busnes Cymru yn Rhyngwladol’
Yr angen
am Gyngor Menter i Gymru.
09/01/2013 - Short Debate - postponed from 21 November 2012
Dechreuodd yr eitem
am 17.43
NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
A yw Cynlluniau
Datblygu Lleol yn addas i’r diben?
Mae angen diwygio'r
system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer
cynllunio a datblygu yng Nghymru.
06/12/2012 - Dadl Fer
NDM5113 Ken Skates
(De Clwyd):
Y Dirwasgiad Maethol – Effaith cynnydd mewn prisiau bwyd a gostyngiad mewn cyllidebau ar iechyd maethol Cymru
29/11/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5103 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Rail Cymru – Rheilffordd y Bobl i Gymru
Yr achos o blaid
math newydd o gwmni rheilffordd, y byddai ei brif ymrwymiad
i bobl Cymru a’r gororau, nid i grŵp
o gyfranddalwyr.
28/11/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:01
NDM5083
Nick Ramsay (Mynwy):
Asbestos mewn ysgolion: Datgelu’r wybodaeth yn hytrach nag atal hawl rhieni i gael gwybod amdani.
22/11/2012 - Dadl Fer
NDM5100 Andrew RT
Davies (Canol De Caerdydd):
A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?
Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau
canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd.
21/11/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 17.13
NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen): Y
Storm Berffaith
Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru.
15/11/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.58 NDM5093 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Bondiau Effaith
Gymdeithasol a Phlant sy’n Derbyn Gofal
yng Nghymru Archwilio ffordd
newydd o ddarparu gwasanaethau sy’n gallu lleihau nifer y plant a dderbynnir i ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. |
25/10/2012 - Dadl Fer
NDM5075 Lynne Neagle (Tor-faen):
Y Storm Berffaith
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd.
18/10/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18:07
NDM5067 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Gwella Gofal Dementia – datblygu gwasanaethau di-dor
Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o ddementia yn golygu ei bod yn hollbwysig ailfeddwl am wasanaethau yn ogystal ag agweddau. Gall gwneud diagnosis ac asesiadau yn gynharach gadw pobl allan o’r ysbyty ac mae hynny’n eu galluogi i lunio’r trefniadau ar gyfer eu gofal hirdymor. Mae ar bobl angen gwasanaethau amlddisgyblaethol, hyblyg a chosteffeithiol i’w cefnogi wrth i’w hanghenion newid.
11/10/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem
am 17:30
NDM5056 Mick
Antoniw (Pontypridd)
Yr achos dros gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnig diddymu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar amaethyddiaeth yng Nghymru ac yn cyfrannu at dlodi yng nghefn gwlad. Dylem gadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yng Nghymru.
04/10/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18:06
NDM5052 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Cefnogi buddsoddiad yn
Ysbyty Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod
Cefnogi
cynlluniau Bwrdd Iechyd Lleol Powys i fuddsoddi yn Ysbyty
Coffa Rhyfel Sirol Llandrindod.
27/09/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:10
NDM5051 Rebecca Evans (Canolbarth
a Gorllewin Cymru):
Lles anifeiliaid adeg eu lladd
Archwilio cyfleoedd i hybu arfer da a safonau uchel o les anifeiliaid adeg eu lladd.
19/07/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.06
NDM5044 Aled Roberts (Gogledd Cymru): Dyslecsia ac Ysgolion: Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth.
Mae angen cefnogaeth ar holl ddisgyblion Cymru i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia yn gallu cael yr asesiadau, yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol priodol y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio eu sgiliau, eu dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn.
12/07/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM5034 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro): Anrhydeddu
ein Harwyr – Gwarchod Cofebau Rhyfel yng Nghymru
11/07/2012 - Short Debate postponed from 27 June 2012
Dechreuodd yr eitem am 17.32
NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol
05/07/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.15
NDM5029 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Clefydau Anghyffredin
Archwilio’r cyfleoedd i roi sylw i’r problemau cyffredin a wynebir gan bobl gyda chlefydau anghyffredin.
21/06/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.31.
NDM5017 Lynne Neagle
(Tor-faen):
Effaith diwygio lles ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
14/06/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:27.
NDM5004 Sandy Mewies
(Delyn): Treftadaeth – ein gorffennol a’n dyfodol
Sicrhau bod cymunedau lleol yng Nghymru yn gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddiogelu eu treftadaeth nawr ac yn y dyfodol.
31/05/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18:03
NDM4999 Keith Davies
(Llanelli)
Blaenoriaeth i Blismona
Trafod dyfodol Plismona yng Nghymru.
24/05/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:39.
NDM4993 Mick Antoniw
(Pontypridd)
Plant sy’n Ceisio Lloches a sut y cânt eu hamddiffyn yng Nghymru
Mae Llywodraeth y DU yn llesteirio gallu Llywodraeth Cymru o ran plant sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Mae diogelu plant yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ond mae’r graddau y mae Llywodraeth y DU wedi dehongli ei chymhwysedd a gadwyd ar fewnfudo, sef trin unrhyw fater sy’n ymwneud â cheiswyr lloches, plant sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid fel mater a gadwyd yn ôl, yn cynnwys y meysydd hynny sy’n gymwyseddau a ddatganolwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynd yn groes, mewn sawl achos, i amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer dinasyddion Cymru: o ran hawliau plant, cydraddoldeb a gweithio tuag at gymdeithas deg a chynhwysol.
23/05/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:25
NDM4889 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
Cyfranogaeth a grymuso yn nyfodol
Gwasanaethau Gofal yng Nghymru – Mentrau
Cydweithredol, Cwmnïau Cydfuddiannol a thaliadau uniongyrchol.
I drafod profiadau o ran taliadau uniongyrchol yn ogystal â modelau cydfuddiannol a chydweithredol ar gyfer gwasanaethau gofal yn dilyn adroddiad Scope “Unigoliaeth neu Gyfunoliaeth ym Maes Gofal: A all taliadau uniongyrchol helpu i greu cymunedau cryfach?”
17/05/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:37.
NDM4987 Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Tîm Prydain Fawr: Cyfle Euraid.
Â’r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal ar yr ynysoedd hyn dros yr haf, mae’r ddadl fer hon yn ceisio cyflwyno’r ddadl chwaraeon, economaidd a diwylliannol o blaid caniatáu i bêl-droedwyr o Gymru gael bod yn rhan o Garfan Bêl-droed Tîm Prydain Fawr am y tro hwn yn unig.
03/05/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17:37.
NDM4968 Mark
Isherwood (Gogledd Cymru): Gofal
Hosbis a Gofal Lliniarol yng Nghymru
Wrth i’r boblogaeth heneiddio ac wrth i bobl ddynesu at ddiwedd eu hoes gydag anghenion gofal mwy cymhleth drwy’r amser, nodir bod hwyluso mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy'n gost effeithiol ac o ansawdd uchel yn mynd i ddod yn fwyfwy pwysig.
26/04/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.16.
NDM4961 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro)
Troi Cefn neu Wthio i’r Cyrion: Beth sy’n digwydd i’r Pedwerydd Ystâd yng Nghymru?
Dadl ar rôl y cyfryngau yng Nghymru.
29/03/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.01.
NDM4951 Sandy Mewies
(Delyn):
Cyrsiau Adsefydlu Yfed/Gyrru.
Yr angen parhaus i sicrhau bod y cyrsiau hyn yn cael eu darparu yng Nghymru yn dilyn llwyddiant cyrsiau blaenorol i leihau cyfraddau aildroseddu.
22/03/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.38.
NDM4944 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin
Cymru):
Rhagdalu’r pris am drydan a nwy.
A ddylai cwmnïau ynni sicrhau bod y cartrefi tlotaf ar y tariffau isaf sydd ar gael?
15/03/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.59.
NDM4936 Mike Hedges (Gorllewin Abertawe):
Sut y Dylid Ariannu Cymru?
Bydd pwnc y ddadl hon yn canolbwyntio ar y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa drethi y dylid eu datganoli i Gymru, yn ogystal â pha drethi sy’n diwallu’r meini prawf hynny.
08/03/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM4929 Aled Roberts
(Gogledd Cymru):
“Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol sydd â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio gwrando ar eu hathro mewn ystafell ddosbarth sydd ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd.
29/02/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.13.
NDM4923 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Cuts Watch Cymru
Bydd y ddadl hon yn tynnu sylw
at waith Cuts Watch Cymru, sef
rhwydwaith o nifer o fudiadau trydydd sector yng Nghymru, sy’n
dilyn ac yn olrhain effaith toriadau i fudd-daliadau lles yng Nghymru.
23/02/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.51
NDM4917 Nick Ramsay (Mynwy):
Dŵr
– Adfywiad
Adnodd.
O gamlesi i’r
arfordir, o ynni gwyrdd i gronfeydd dŵr
- bydd y Ddadl Fer yn tynnu
sylw at rôl bwysig Dŵr
ym mywyd Cymru a sut y gallwn ei
reoli’n
well.
09/02/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.01.
02/02/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd
yr eitem am
17.58.
02/02/2012 - Dadl fer a ohiriwyd ers 25 Ionawr 2012
Dechreuodd
yr eitem am
17.30.
19/01/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.00
12/01/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr
eitem am 18.02
NDM4884 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro):
Chwythu’r Chwiban:
A oes cyfrifoldeb
moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r
chwiban ym mhob agwedd ar
fywyd?
11/01/2012 - Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM4883 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Gwneud trafnidiaeth gynaliadwy’n haws ar gyfer cymunedau
gwledig
13/10/2011 - Dadl Fer
NDM4823 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Busnesau Bach, Effaith Fawr
06/10/2011 - Dadl Fer
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd.