Penderfyniadau

NDM6252 - Dadl Plaid Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

09/03/2017 - Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.58

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6252 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri cyllid Cronfa'r Teulu, a naill ai gwyrdroi'r toriadau i Gronfa'r Teulu, neu sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael.

b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.

c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016.

2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.

3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu ddifrifol wael.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

27

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i Gronfa'r Teulu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

27

1

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6252 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael.

b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.

c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2016.

2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael, sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.

3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu ddifrifol wael."

4. Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i Gronfa'r Teulu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

17

10

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.