Penderfyniadau

SL(5)037 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

14/12/2016 - The Non-Domestic Rating (Chargeable Amounts) (Wales) Regulations 2016

Dechreuodd yr eitem am 17.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6187 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Tachwedd 2016.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

27

0

52

Derbyniwyd y cynnig.