Penderfyniadau
Papurau i'w nodi - Y Pwyllgor Menter a Busnes
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
09/05/2014 - Papurau i'w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:
EBC(4)-11-14 (p.1) - Perfformiad Banc Buddsoddi Ewrop yng Nghymru
EBC(4)-11-14 (p.2) - Gwybodaeth am gyfranogiad Cymru yn y rhaglen MEDIA
2007
EBC(4)-11-14 (p.3) - Nodyn ar waith Tasglu'r Gweinidog ar gyfer Trafnidiaeth
Gogledd Cymru
EBC(4)-11-14 (p.4) - Gwybodaeth ychwanegol am hyrwyddo masnach a
mewnfuddsoddiad
EBC(4)-11-14 (p.5) - Adroddiad cryno ar y prif bwyntiau sy'n ymwneud â
cham cyntaf yr Arolwg Hydredol o Ardaloedd Menter
6.2 O ran Papur 3 o'r papurau i'w nodi, cytunodd y Pwyllgor i dderbyn
rhagor o dystiolaeth lafar gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth ynghylch trydaneiddio’r rheilffyrdd.
28/11/2013 - Scoping paper on the Trade and Inward Investment inquiry (10.10-10.30)
27/09/2011 - Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ganlynol:
· Gohebiaeth gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011
· Gohebiaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011