Penderfyniadau

NDM6048 - Dadl y Llywodraeth

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

06/07/2016 - Dadl: Ail enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 18.05

Tynnwyd gwelliannau 1 a 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddiwedd y ddadl.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6055 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.