Penderfyniadau

Cyflwyniad, Ymddiheuriadau a Dirprwyon - Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

28/08/2019 - Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1              Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2              Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones. Mynychodd Caroline Jones fel dirprwy.

1.3              Cyhoeddodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd y Grŵp Cynghori Ewropeaidd, yn Gadeirydd Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol Cymru, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru.