Penderfyniadau
Enwebu Llywydd
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
12/05/2016 - Ethol Llywydd o dan Reol Sefydlog 6
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwahoddodd y Llywydd (Y Fonesig Rosemary Butler)
enwebiadau yn unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Cafodd Elin Jones ei henwebu gan Dai Lloyd.
Eiliodd Jane Hutt yr enwebiad.
Cafodd Dafydd Elis-Thomas ei enwebu gan Adam
Price.
Eiliodd Neil Hamilton yr enwebiad.
Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y
Cynulliad.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd
yn unol â Rheol Sefydlog 6.8.
Canlyniad y bleidlais gudd oedd:
Elin Jones |
Dafydd Elis-Thomas |
Ymatal |
Cyfanswm |
34 |
25 |
1 |
60 |
Cyhoeddodd y Llywydd fod Elin Jones wedi’i
hethol yn Llywydd.
Daeth Elin Jones i’r Gadair ac annerch y
Cynulliad.