Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tai a Chynllunio
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
16/03/2016 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Housing and Planning Bill relating to Compulsory Purchase Provisions Etc.
Dechreuodd yr
eitem am 15.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5995 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â phrynu gorfodol, i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
0 |
0 |
52 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig.
24/02/2016 - Legislative Consent Motion on the Housing and Planning Bill relating to Enfranchisement and extension of long leaseholds
Dechreuodd yr eitem am 15.14
NDM5968 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac
estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y
Deyrnas Unedig.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.