Penderfyniadau

Bil Cymru Drafft

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

14/01/2016 - Bil Cymru Drafft

Dechreuodd yr eitem am 14.59

NDM5911 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fil Cymru drafft.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5912 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, os bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r amserlen bresennol ar gyfer Bil Cymru drafft, y dylai ymrwymo i gydgrynhoi cyfraith gyfansoddiadol Cymru yn ddwyieithog yn ystod y Senedd bresennol.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5913 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gael gwared â'r prawf angenrheidrwydd neu osod prawf yn seiliedig ar briodoldeb yn ei le.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5914 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys system i ofyn am gydsyniadau Gweinidog y Goron sy'n adlewyrchu'r model yn Neddf yr Alban 1998.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5915 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i leihau'n sylweddol nifer y cymalau cadw a'r cyfyngiadau penodol mewn ffordd sy'n cyd-fynd â deddfwrfa aeddfed, effeithiol ac atebol a fydd yn cael pwerau treth incwm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM5916 David Melding (Canol De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi barn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid diwygio Bil Cymru drafft i gynnwys awdurdodaeth benodol fel bod Deddfau Cymru yn berthnasol i Gymru yn unig ac yn addasu cyfraith Cymru a Lloegr fel sy'n briodol i'w gorfodi o fewn rheswm.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


13/11/2015 - Bil Cymru Drafft

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft.

 


11/11/2015 - Bil Cymru Drafft

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 


09/11/2015 - Consideration of Draft Wales Bill

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor oblygiadau’r Bil Cymru Drafft ar gylch gwaith y Pwyllgor.

9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i ofyn am eglurhad ar rannau o’r Bil Cymru Drafft.


04/11/2015 - Debate on the Draft Wales Bill

Dechreuodd yr eitem am 14.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

0

52

Derbyniwyd y Cynnig.

 


25/09/2015 - Bil Cymru Drafft

10.1 Cytunodd y Pwyllgor i ailystyried ei ran yn y gwaith o graffu ar Fil drafft Cymru yn nes ymlaen.