Penderfyniadau

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/03/2016 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio

Dechreuodd yr eitem am 16.02

NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.