Penderfyniadau

Swyddfa Archwilio Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/12/2015 - Wales Audit Office: Fee Scheme for 2016-17

6.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun ffioedd.


19/11/2015 - Wales Audit Office: Consideration of draft report

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


29/07/2015 - Swyddfa Archwilio Cymru

9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chynllun Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2015-16.

 

9.2 Nododd yr Aelodau hefyd y diweddariad a ddarparwyd ar yr Adroddiad Fflyd.

 


09/02/2012 - Cynnig i benodi archwilwyr ar gyfer cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.09.

 

NDM4910 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 14(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn penodi RSM Tenon yn archwilwyr cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol 2011-2012; 2012-2013; a 2013-2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.