Penderfyniadau

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

03/03/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.39

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd am 15.53 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.14.

Cafodd y trafodion eu hatal dros dro am yr eildro am 16.23 am 30 munud oherwydd ail doriad trydan. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.55.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

31

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gychwyn a chyflwyno cynllun ar gyfer cynnydd sylweddol yn nifer y meddygon fel y gellir darparu gwasanaethau yn lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.

3. Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


25/02/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5976 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol;

2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth, atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu drwy:

(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;

(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; ac

(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn credu bod cynigion Plaid Cymru ar gyfer ymgysylltu lleol, a nodir yn y papur ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn darparu sail gadarnhaol i gyrraedd y nod o rymuso unigolion yn y Cynulliad nesaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

40

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

8

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:

cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn fwy atebol i'w hetholwyr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


28/01/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5934 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17;

2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor;

3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol 2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a

4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd setliadau Llywodraeth Cymru  yn cael effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair blynedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


21/01/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:

a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;

b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;

c) darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a

d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

13

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

13

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ar ddechrau is-bwynt 3c), mewnosoder:

'adolygu'r dystiolaeth ar gyfer'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

Hyrwyddo cynlluniau i liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a

3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.

4. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:

a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;

b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;

c) adolygu'r dystiolaeth ar gyfer darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a

d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.

e) hyrwyddo cynlluniau i liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

13

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


21/01/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

36

53

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:

'fel drwy gyflwyno grant cymorth byw i fyfyrwyr.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn condemnio'r toriad difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru  yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;

2. Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau;

3. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


03/12/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5898 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr hydref Llywodraeth y DU;

2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr; a

3. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn codi dros £900 miliwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

34

45

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

'ac yn nodi'r angen i gael cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei barhad'

Cefnogwyd gan:

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu tro pedol Llywodraeth y DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd incwm isel erbyn 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at yr oedi o ran trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas Caerdydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith yr hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y toriad o 22 y cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd Gwelliant 6.

Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y toriad o £1.7 miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 7.

Gwelliant 8 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

11

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 8.

Gwelliant 9 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith na fydd Cymru – yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon – yn cael cyllid canlyniadol Barnett llawn o ganlyniad i brosiect cyflymder uchel 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

34

45

 Gwrthodwyd Gwelliant 9.

Gwelliant 10 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynnydd o tua £945 miliwn yng nghyfran ganlyniadol Cymru o'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd yn Lloegr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo'r swm hwn ar gyfer cyllidebau iechyd a gofal yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

15

23

45

Gwrthodwyd Gwelliant 10.

Gwelliant 11 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gael gwared ar fwrsariaethau nyrsio yn Lloegr a'r ffaith eu bod yn cael eu disodli gan fenthyciadau, a fydd yn cael effaith negyddol ar gynllunio gweithlu yn y dyfodol a recriwtio yn y GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a fydd cyllid ar gyfer astudiaethau nyrsio yng Nghymru yn parhau.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

11

23

45

Gwrthodwyd Gwelliant 11.

Gwelliant 12 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gapio budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a gefnogir yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

11

0

45

Derbyniwyd Gwelliant 12.

Gan fod gwelliant 7 wedi’i gynnig, cafodd gwelliant 13 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5898 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr hydref Llywodraeth y DU;

2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr ac yn nodi'r angen i gael cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei barhad.

3. Yn croesawu tro pedol Llywodraeth DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd incwm isel erbyn 2020.

4. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn codi dros £900 miliwn.

5. Yn gresynu at yr oedi o ran trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.

6. Yn gresynu at y diffyg eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas Caerdydd.

7. Yn gresynu at y ffaith yr hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref.

8. Yn gresynu at y toriad o 22 y cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru.

9. Yn gresynu at y toriad o £1.7 miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'.

10. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg.

11. Yn gresynu at gapio budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a gefnogir yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


03/12/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5896 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod busnesau bach yn rhan annatod o economïau cenedlaethol a chymunedol Cymru;

2. Yn croesawu'r rôl y mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn ei chwarae o ran hyrwyddo busnesau bach Cymru;

3. Yn cydnabod y cyfraniad y mae busnesau bach yn ei wneud tuag at sicrhau hunaniaeth cymunedau lleol a hyrwyddo eu diwylliant a'u treftadaeth unigryw;

4. Yn cydnabod bod busnesau bach, lleol yn darparu porth i gyflogaeth i lawer o bobl ifanc; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnig pecyn cymorth gwell i fusnesau bach i wella eu cyfraniad i fywyd economaidd-gymdeithasol Cymru;

b) datblygu seilwaith ledled Cymru i wasanaethu rhagolygon twf busnesau bach yng Nghymru yn well.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

7

45

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


26/11/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5888 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod lefelau sbwriel, cŵn yn baeddu, tipio anghyfreithlon a graffiti yn parhau i fod yn bla ar lawer o gymunedau lleol ledled Cymru;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar gynyddu cosbau ar gyfer troseddau amgylcheddol; a

3. Yn cydnabod y rôl y gall ailgylchu ei chwarae yn y broses o leihau gwastraff a sicrhau cymunedau glanach ledled Cymru ac yn annog Llywodraeth Cymru i edrych ar atebion arloesol i hybu ailgylchu ymhellach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

15

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


19/11/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5875 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w galluogi i aros yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl; a

3. Yn credu y gallai cyflwyno'r opsiwn o asesiad 'aros yn y cartref' yng Nghymru ar gyfer pawb sy'n cyrraedd oedran ymddeol fod yn fesur ymyrraeth cynnar allweddol a allai atal pobl rhag mynd i'r ysbyty ac atal oedi wrth drosglwyddo gofal ar ôl gadael yr ysbyty.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

39

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod cynifer o welyau â phosibl ar gael yn GIG Cymru, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5875 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r effaith negyddol y gall oedi wrth drosglwyddo gofal ei chael ar y GIG yng Nghymru ac ansawdd bywyd yr unigolyn; ac

2. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w galluogi i aros yn eu cartref eu hunain cyhyd â phosibl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


12/11/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;

2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru;

3. Yn gresynu nad yw pobl hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at yr un lefel o gymorth â phobl iau;

4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

37

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith yr amcangyfrifir bod nifer y bobl 50 oed a throsodd nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) tair gwaith cymaint â nifer y bobl NEET o dan 25 oed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddylunio a gweithredu rhaglen benodol i wella sgiliau a rhagolygon cyflogadwyedd pobl dros 50 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant .

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5869 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gwerthfawrogi'r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru;

2. Yn gwrthod pob math o ragfarn tuag at bobl hŷn yng Nghymru;

3. Yn cydnabod bod gan weithwyr iau a gweithwyr hŷn sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu anghenion gwahanol o ran cymorth cyflogaeth ac y dylai rhaglenni cyflogaeth gael eu cynllunio yn unol â hynny.

4. Yn gresynu y gall diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus rwystro pobl hŷn rhag cael mynediad at gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd; a

5. Yn gresynu at ffaith y gallai toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol leihau'r lefel o wasanaethau sydd ar gael i helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt gyfrannu at fywyd cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio


12/11/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid;

2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru;

3. Yn credu y byddai sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn sicrhau gwasanaethau a chanlyniadau gwell i gymuned y Lluoedd Arfog;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu cerdyn cyn-filwyr, yn cynnig cyfres o fuddion i bersonél y gwasanaethau a chyn-filwyr i gydnabod eu gwasanaeth;

b) gweithredu asesiad o anghenion cyn-filwyr fel sail ar gyfer cyflenwi gwasanaethau; ac

c) diogelu cyn-filwyr a anafwyd cyn mis Ebrill 2005 drwy sicrhau nad yw eu Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei gymryd oddi wrthynt pan fyddant yn cael gofal cymdeithasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

37

47

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pob dim ar ôl pwynt 2 a rhoi yn eu lle:

3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog;

4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru;

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

9

14

47

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Derbyniwyd gwelliant 1, felly cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5871 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cofio ac yn anrhydeddu'r rhai sydd wedi aberthu eu hunain i sicrhau a diogelu ein rhyddid;

2. Yn talu teyrnged i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn nodi'r rhwymedigaeth foesol sy'n ddyledus iddynt gan bobl ledled Cymru;

3. Yn croesawu'r ffaith fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi penodi Hyrwyddwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog;

4. Yn croesawu llwyddiant y Cerdyn Braint Amddiffyn yng Nghymru;

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r pecyn cymorth ar gyfer y Lluoedd Arfog.

6. Yn croesawu cynlluniau megis Newid Cam, sy'n cynnig cyngor a mentora gan gyfoedion i gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

9

10

46

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio


05/11/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5862 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gwerth cyfleoedd prentisiaeth amrywiol i Gymru.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cynlluniau lleoliad gwaith ar gael i bobl ar draws cymdeithas yng Nghymru i gynorthwyo ailhyfforddi a chaniatáu ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy a blaengar.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio rhwng pob sector o'r system addysg a busnesau yng Nghymru i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

5

43

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.


22/10/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;

3. Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:

a) dychwelyd Maes Awyr Caerdydd i berchnogaeth breifat; a

b) rhannu'r enillion o'i werthu rhwng buddsoddi mewn seilwaith a dychwelyd y buddsoddiad gwreiddiol i drethdalwyr Cymru.

4. Yn cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi;

5. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a

6. Yn cydnabod ymhellach y rôl y gall rheilffordd Calon Cymru ei chwarae fel coridor trafnidiaeth ar gyfer canolbarth Cymru, a'i rôl bosibl o ran gyrru cysylltedd Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bwriad datganedig Llywodraeth Cymru o ganfod gweithredwr sector preifat ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar adeg ei brynu ac yn galw am ddiweddariad ysgrifenedig ar gynnydd yn hynny o beth.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

43

49

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:

a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a

b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a Manceinion.  

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Tynnwyd Gwelliant 3 yn ôl

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:

a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;

b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;

c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a

d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bylchau sylweddol o ran prosiectau trydaneiddio rheilffyrdd yng nghynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys trydaneiddio llinellau Glyn Ebwy, Ynys y Barri, Bro Morgannwg, Penarth a Maesteg.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd Gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5854 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r rôl hanfodol y mae cysylltedd rhyngwladol yn ei chwarae o ran cynnal twf economaidd drwy fewnfuddsoddi, masnach a thwristiaeth;

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun clir i wella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru;

3. Yn nodi'r cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy:

a) cefnogi twf Maes Awyr Caerdydd fel pwynt mynediad i Gymru; a

b) cefnogi cysylltedd rhwng Cymru a meysydd awyr canolog allweddol fel Heathrow a Manceinion.  

4. Yn cydnabod y cyfleoedd i hybu cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru drwy gefnogi'r rôl bwysig y mae porthladdoedd Cymru yn ei chwarae o ran sicrhau twf a chreu swyddi;

5. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau clir i wella'r A40 i Abergwaun a'r A55 i Gaergybi er mwyn gwella cysylltedd rhyngwladol yng Nghymru; a

6. Yn cydnabod ymhellach rôl rheilffyrdd Cymru o ran sicrhau cysylltedd mewnol ac allanol, ac yn cefnogi:

a) datblygu rheilffordd Calon Cymru;

b) trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru;

c) trydaneiddio prif reilffordd y Great Western a rheilffyrdd y Cymoedd; a

d) trydaneiddio rheiffordd y Gororau.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailosod cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r rhwydwaith sydd eisoes yn bodoli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


15/10/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.43

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5843 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru yn ddiweddar.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod brys gyda banciau manwerthu mawr i annog cefnogaeth ar gyfer model bancio cymunedol a sicrhau presenoldeb bancio lleol cynaliadwy mewn cymunedau gwledig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am gynllun o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n cynnig cyllid mwy hygyrch ar raddfa fach i wella gwydnwch ac effeithlonrwydd ffermydd Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd Gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am ddileu'r rheol chwe diwrnod ar wahardd symud yn gynnar.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd Gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio

 

NDM5843 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i ddiwallu anghenion penodol cymunedau gwledig Cymru.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod rownd arall o fanciau wedi'u cau yng nghefn gwlad Cymru yn ddiweddar.

 

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i dalu rhan sylweddol o'r taliad sylfaenol i gymaint o ffermwyr â phosibl ar y cyfle cyntaf o fewn cyfnod talu'r Cynllun Taliad Sylfaenol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


01/10/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.05

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;

 

2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

29

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 3:

 

'a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.'


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5830 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi na chyrhaeddwyd y targedau ar gyfer amser atgyfeirio am driniaeth GIG Cymru ers 2010;

 

2. Yn gresynu at effaith andwyol bosibl amseroedd aros hir yn y GIG ar ganlyniadau cleifion a'u hansawdd bywyd; a

 

3. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau diagnosis cyflymach i leihau amseroedd aros.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu cynllun ac amserlen ar gyfer cyrraedd ei thargedau amser atgyfeirio am driniaeth a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld mewn modd amserol drwy gydol eu gofal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


01/10/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.12

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yn barhaus i ddarparu cymorth i awdurdodau lleol er mwyn atal cynnydd mewn biliau treth gyngor;

 

3. Yn nodi mai'r band treth gyngor D cyfartalog yng Nghymru ar gyfer 2015-16 yw £1,328 a bod teuluoedd ar eu colled o £546 yn ystod y pedwerydd Cynulliad o ganlyniad i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod rhewi'r dreth gyngor;

 

4. Yn credu y bydd pobl yng Nghymru yn amau'r gwerth am arian a ddarperir gan lawer o wasanaethau awdurdodau lleol yn dilyn y cynnydd hwn yn y dreth gyngor; a

 

5. Yn credu ymhellach bod angen gwneud mwy yng Nghymru i fanteisio ar y rôl y gall mudiadau trydydd sector ei chwarae yn y broses o ddarparu gwasanaethau lleol yn effeithiol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.

 

Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5831 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r rhan bwysig y mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn profiadau unigolion o wasanaethau cyhoeddus.

 

2. Yn gresynu at y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol yn y dyfodol os bydd Llywodraeth y DU yn parhau i fynd ar drywydd polisïau llymder.

 

3. Yn credu y dylai awdurdodau lleol a chymunedau gael y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain i godi cyllid, er mwyn amddiffyn gwasanaethau a swyddi lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

11

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


24/09/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5825 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod ystadegau diweddar y Local Data Company yn nodi bod 15.6 y cant o siopau yn wag yn nhrefi Cymru, sef y gyfradd uchaf yn y DU o bell ffordd;

 

2. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo strydoedd mawr a chanol trefi, helpu busnesau bach a sicrhau bod swyddi'n cael eu creu; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried o ddifrif y cynigion a amlinellir yn nogfennau'r Ceidwadwyr Cymreig, ‘A Vision for the Welsh High Street' ac 'Invest Wales', a fyddai'n helpu busnesau bach a chanolig ac yn adfywio ein strydoedd mawr. 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio'r stryd fawr drwy sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltiadau trafnidiaeth llesol yn wirioneddol hygyrch; cymhwyso ardrethi busnes i feysydd parcio mewn unedau adwerthu ar gyrion trefi; ac annog awdurdodau lleol i dreialu parcio am ddim cyfyngedig i gefnogi strydoedd mawr sy'n cael trafferthion.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i weithio ar arallgyfeirio eu strydoedd mawr er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n eu defnyddio.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)


Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ystod eang o fesurau i helpu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd ar y stryd fawr, a fydd yn hwyluso mynediad at gyllid ac yn ymestyn rhyddhad ardrethi busnes.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5825 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at y ffaith bod ystadegau diweddar y Local Data Company yn nodi bod 15.6 y cant o siopau yn wag yn nhrefi Cymru, sef y gyfradd uchaf yn y DU o bell ffordd;

2. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i hyrwyddo strydoedd mawr a chanol trefi, helpu busnesau bach a sicrhau bod swyddi'n cael eu creu; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried o ddifrif y cynigion a amlinellir yn nogfennau'r Ceidwadwyr Cymreig, ‘A Vision for the Welsh High Street' ac 'Invest Wales', a fyddai'n helpu busnesau bach a chanolig ac yn adfywio ein strydoedd mawr. 

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i weithio ar arallgyfeirio eu strydoedd mawr er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n eu defnyddio.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ystod eang o fesurau i helpu busnesau bach, gan gynnwys y rhai sydd ar y stryd fawr, a fydd yn hwyluso mynediad at gyllid ac yn ymestyn rhyddhad ardrethi busnes.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.



17/09/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.

 

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus.

 

3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu targedau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor ar ei methiant parhaus.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

10

31

52

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:

 

'gan gynnwys sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill'

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:


NDM5821 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i gyrraedd ei thargedau allweddol ei hun sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol; a'r canlyniadau niweidiol a gaiff hyn ar bobl Cymru.

 

2. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos tryloywder llwyr o ran mesur perfformiad gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys sicrhau bod data yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi mewn modd sy'n sicrhau y gellir cymharu perfformiad â chenhedloedd eraill.

 

3. Yn ofni bod symud, ailddiffinio neu addasu targedau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhwystro pobl Cymru rhag dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ddigonol, ac yn ystumio'r craffu hir-dymor ar ei methiant parhaus.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


17/09/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5820 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant parhaus Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth digonol i fusnesau Cymru.

 

2. Yn mynegi pryder dwfn dros golli swyddi mewn busnesau sy'n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

3. Yn credu bod y broses o ddiwydrwydd dyladwy a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru cyn darparu cymorth grant ar gyfer busnesau wedi bod yn annigonol.

 

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i wario arian cyhoeddus yn effeithiol i gefnogi busnesau Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i methiannau o ran cymorth busnes, gan gynnwys ail-flaenoriaethu er mwyn darparu mwy o gefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

41

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pob dim ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi anghenion ariannu busnesau Cymru drwy sefydlu banc datblygu busnes i Gymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â baich ardrethi busnes drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfleoedd masnach newydd i fusnesau yng Nghymru drwy weithredu menter masnach tramor Plaid Cymru.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 5:

 

', gwell mynediad at gyllid a galluogi cymorth a chyngor busnes o ansawdd uchel'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


09/07/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr tro cyntaf; a

 

2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

7

29

46

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd cyfredol.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

10

46

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am fodel tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi tenantiaid i adeiladu cyfran ym mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

18

23

46

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod rôl tai cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

10

0

46

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd cyfredol.

 

2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.

 

3. Yn cydnabod rôl tai cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

10

0

46

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


02/07/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd safon uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;

 

2. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion yng Nghymru;

 

3. Yn credu nad yw consortia rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella ysgolion; a

 

4. Yn credu bod polisi ieithoedd tramor modern Llywodraeth Cymru o greu canolfannau rhagoriaeth yn annigonol i fynd i'r afael â'r angen i godi safon y ddarpariaeth ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â gwella ysgolion wedi bod yn gymysglyd, gan arwain at oedi ac anghysondeb.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn gynharach'.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Derbyniwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3  ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5801 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd safon uchel o addysg ar gyfer disgyblion yng Nghymru er mwyn cynyddu eu gallu i gystadlu yn genedlaethol ac yn fyd-eang;

 

2. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd gormod o amser i ddatblygu mesurau i godi safonau ysgolion yng Nghymru;

3. Yn credu nad yw consortia rhanbarthol mor effeithiol ag y mae angen iddynt fod o ran helpu i wella ysgolion; a

 

4. Yn nodi'r canfyddiad gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad y bydd 'y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn cael ei hybu drwy ddatblygu'r Gymraeg yn gynharach'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


18/06/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.57

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol fel ffordd o gyflawni hyn yn mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynrychiolaeth a etholir yn ddemocrataidd ar fyrddau iechyd fel ffordd o gyflawni hyn.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

43

48

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

9

48

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Cynigiwyd gwelliant 2, felly cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5787 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraethu da ac arweinyddiaeth effeithiol yn y GIG yng Nghymru a'r angen am atebolrwydd i'r cyhoedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

9

48

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


18/06/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

 

2. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

39

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

1

48

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5785 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ac y rhagwelir y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu 31 y cant erbyn 2021.

 

2. Yn cydnabod y cyllid newydd o ychydig dros £5.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

 

3. Yn cydnabod mesurau a weithredwyd gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gofal dementia a'i wella.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i feysydd o arfer gorau o ran gofal dementia o bob rhan o'r DU a thu hwnt er mwyn gwella cyfraddau diagnosis dementia a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth briodol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ystâd y GIG mor gyfeillgar â phosibl i bobl sydd â dementia ac i'w gwneud yn ofynnol bod pob gweithiwr iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol mewn ymwybyddiaeth dementia a gofal dementia.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelod o staff yn y GIG yn cael hyfforddiant priodol mewn gofal i gleifion â dementia.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


11/06/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

10

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

10

0

48

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5780 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynlluniau’r Ceidwadwyr Cymreig i wella dealltwriaeth pobl sy'n talu'r dreth gyngor o sut y mae eu treth gyngor yn cael ei gwario.

 

2. Yn nodi bod y dreth gyngor yn cynrychioli dim ond oddeutu 14 y cant o wariant cynghorau yng Nghymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynghorau i wella atebolrwydd o ran gwariant treth gyngor.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella tryloywder mewn gwariant llywodraeth leol ledled Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system drethiant leol gyfiawn sy'n deg, yn fforddiadwy ac sy'n lleihau'r baich ar y rhai sy'n ei chael hi'n anoddaf i dalu.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

10

38

48

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


04/06/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.02

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf; a

 

b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi.

 

2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

30

40

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi'r feirniadaeth ynghylch strategaeth mewnfuddsoddi Llywodraeth Cymru yn adroddiad Prifysgol Caerdydd 'Selling Wales: The Role of Agencies in Attracting Inward Investment'.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

'datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru.'


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.


Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

0

39

Derbyniwyd Gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

30

0

40

Derbyniwyd Gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5773 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) diffinio ei strategaeth i gynyddu mewnfuddsoddiad i Gymru dros y pum mlynedd nesaf;

 

b) cydweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cystadleuol a deniadol ar gyfer mewnfuddsoddi;

 

c) datblygu cysylltiadau trawsffiniol effeithiol i gynyddu buddsoddiad o'r tu allan yn ogystal â gwella potensial allforio Cymru; a

 

d) sicrhau bod gwaith holl adrannau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gwerthu Cymru dramor yn cael ei gydlynu a sicrhau bod y neges yn gyson.

 

2. Yn cydnabod bod gostyngiad Llywodraeth y DU yn y dreth gorfforaeth wedi gwneud Cymru a'r DU ymhlith y mannau mwyaf deniadol i fuddsoddi ynddynt ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru osod cyfradd y dreth gorfforaeth yng Nghymru.


O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

10

20

39

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

 


01/06/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.21

 

NDM5755 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod manteision digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n weithredol i wneud cais ar gyfer Gemau'r Gymanwlad; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gwneir y gorau o fanteision i iechyd y cyhoedd, twristiaeth a'r economi yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

 

Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


21/05/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;

2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

39

48

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

TYNNWYD YN ÔL

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

9

48

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

9

48

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i:

a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth;

b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi; ac

c) ariannu prosiectau seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd Gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu yn llawn anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

4

48

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio


07/05/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5752 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

23

33

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

6

33

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5752 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Cymru wedi elwa o'r cynllun economaidd hirdymor a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ac yn cydnabod bod dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn dibynnu ar barhad y cynllun hwnnw.

Yn credu y byddai dyfodol economaidd a chymdeithasol Cymru yn cael budd o Lywodraeth y DU sy'n cydbwyso'r gyllideb mewn ffordd deg, drwy sicrhau bod y bobl fwyaf cyfoethog yn talu eu cyfran ac yn mynd i'r afael ag osgoi trethi, gan ein galluogi ni i fenthyca ar gyfer buddsoddi yn ein heconomi a'n seilwaith, yn hytrach na pheryglu sefydlogrwydd economaidd drwy fenthyca neu dorri gormod.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

23

33

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


07/05/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5750 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

23

33

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd y Cynnig:

'ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu proses gynllunio genedlaethol ar gyfer darparu ysbytai dosbarth ac arbenigol yng Nghymru'

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

17

33

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

14

0

33

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn galw am ailfywiogi ysbytai cymunedol a gwasanaethau yn y gymuned.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

17

33

Gwrthodwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddyg ymgynghorol, gynaecoleg, a llawfeddygaeth y fron yn y tri ysbyty yng ngogledd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

17

33

Gwrthodwyd Gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5750 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â diogelu ysbytai rhag cael eu cau a'u hisraddio.

2. Yn croesawu'r cyllid o £5.3 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Ysbyty Coffa Llandrindod yn y cytundeb cyllideb diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

8

17

33

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


30/04/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.37

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;

2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;

3. Yn galw am roi mesurau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Lleoliaeth 2011 ar waith yn llawn yng Nghymru fel y gall cymunedau wneud cais am asedau lleol, fel swyddfeydd post a thafarndai, sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu cau;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n  effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a

5. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

32

41

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 3 a rhoi'r canlynol yn ei le:

Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

20

41

Derbyniwyd Gwelliant 4.

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5747 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi pwysigrwydd cefn gwlad Cymru i economi Cymru;

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2015 i ymestyn y cyfnod y gall ffermwyr hunangyflogedig nodi eu helw fel cyfartaledd o ddwy flynedd i bum mlynedd at ddibenion treth incwm, gan helpu dros 3,000 o ffermwyr unigol yng Nghymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

3. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol yng Nghymru;

4. Yn croesawu'r ffaith bod cyllid ar gyfer Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael ei adfer ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r CFfI i sicrhau ateb cynaliadwy hir dymor.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu ardaloedd gwledig i ffynnu drwy hyrwyddo ffermio cyfran a chynllunio olyniaeth.

6. Yn cydnabod yr angen i ddatblygu dull penodol i Gymru o ymdrin ag asedau cymunedol, sy'n adlewyrchu anghenion Cymru ac sy'n seiliedig ar ymgynghori eang yng Nghymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu amserlen ar gyfer cyflwyno gweddill prosiect Cyflymu Cymru, sy'n  effeithio ar fusnesau a thrigolion mewn cymunedau gwledig; a

8. Yn gresynu at gau banciau'r stryd fawr yng nghefn gwlad Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hwyluso trafodaethau ar fodel bancio cymunedol i sicrhau bod gwasanaethau dros y cownter yn parhau i fod yn hyfyw yng nghefn gwlad Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


23/04/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.12

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y bu polisïau Llywodraeth y DU ers 2010 yn hanfodol yn y gwaith o adfer economïau'r DU a Chymru;

 

2. Yn cydnabod ymhellach fod economi gynyddol gryf y DU wedi tanategu twf yn y sector preifat a chreu dros 2 filiwn o swyddi; a

 

3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

37

46

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd Gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd Gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r ffaith mai economi'r DU yw'r economi sy'n tyfu'n gyflymaf o blith gwledydd y G7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y Gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r ffaith bod treth incwm 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael ei dorri o £800, diolch i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU yn cynyddu'r trothwy lwfans personol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

9

32

46

Gwrthodwyd Gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod yn rhaid inni fantoli'r cyfrifon yn deg, gyda buddsoddiad mewn sgiliau uchel, economi carbon isel, dileu'r diffyg yn y gyllideb strwythurol erbyn 2017-18, sicrhau bod y bobl gyfoethocaf yn talu cyfran deg drwy gyflwyno treth plasty, ac amddiffyn y mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

41

46

Gwrthodwyd Gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5742 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod rhaglen galedi Llywodraeth y DU wedi methu yn erbyn ei thelerau ei hun ac yn gresynu at effeithiau economaidd a chymdeithasol y toriad diangen o 10% yng nghyllideb Cymru ers 2010.;

 

2. Yn croesawu cyfleoedd gwaith newydd ond yn gresynu at y ffaith bod 17,000 o'r swyddi newydd a grëwyd yng Nghymru ers 2010 wedi bod yn rhan-amser. 

3. Yn cydnabod mai sector preifat ffyniannus yw'r sylfaen ar gyfer cynnal ein gwasanaethau cyhoeddus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.


26/03/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5735 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;

 

2. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:

 

(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a

 

(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;

 

b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol; ac

 

c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

28

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu isbwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC, C4, ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5735 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn nodi pwysigrwydd a photensial y diwydiannau creadigol i'n bywyd diwylliannol ac economi Cymru;

 

2.Yn croesawu pwysigrwydd datblygiadau fel Stiwdios y Bae yn Abertawe a datblygiad S4C yng Nghaerfyrddin i'r economïau lleol.

 

3. Yn gresynu at y diffyg eglurder y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig mewn perthynas â:

 

(a) dyfodol y Panel Diwydiannau Creadigol; a

 

(b) y camau nesaf o ran cyflawni'r blaenoriaethau sydd wedi eu nodi ar gyfer y sector yn Nghynllun Cyflenwi'r Sectorau.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am unrhyw gynnydd yn y maes hwn yn dilyn Adroddiad Hargreaves;

 

b) amlinellu unrhyw ymchwil newydd sydd wedi cael ei gomisiynu mewn perthynas â'i strategaeth ar gyfer y sector diwydiannau creadigol;

 

c) esbonio sut y mae targedau ar gyfer buddsoddiad stiwdio Pinewood a'r gyllideb buddsoddi yn y cyfryngau yn eu cyfanrwydd wedi cael eu gosod, a nodi manylion ynghylch pa mor llwyddiannus y mae'r buddsoddiadau hyn wedi bod yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol; a

 

d) gweithio gyda darlledwyr a rhwydweithiau fel y BBC, C4, ITV ac S4C er mwyn cynyddu cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


19/03/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5728

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r penderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i atal gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod yn Ysbyty Glan Clwyd; a

2. Yn galw ar y bwrdd iechyd i sicrhau parhad gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod ym mhob un o'r tri o ysbytai cyffredinol dosbarth yng ngogledd Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

25

0

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


12/03/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

2. Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r potensial ar gyfer mwy o dwf; a

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy: 

a) gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;

b) gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;

c) gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru; a

d) cynyddu'r gyfradd eithrio ar gyfer pob eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn is-bwynt 3c), ar ôl 'yng Nghymru', mewnosod 'drwy greu Banc Datblygu Cymru i weithredu fel 'siop un stop' ar gyfer cyngor busnes a mynediad at gyllid a man galw cyntaf ar gyfer busnesau'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

9

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:

galluogi cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

20

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cefnogi trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r seilwaith sylfaenol o'u cwmpas.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

9

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5717 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru o ran gwella'r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

2. Yn cydnabod cyfraniad sylweddol busnesau gwledig i economi Cymru, ond yn nodi'r potensial ar gyfer mwy o dwf; a

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ledled Cymru drwy: 

a) gwella isadeiledd, cysylltedd a sgiliau ledled Cymru;

b) gwella rôl awdurdodau lleol o ran eu cyfraniad at dwf economaidd;

c) gwella mynediad at gyllid i bob busnes yng Nghymru;  

d) galluogi cadw trethi busnes yn lleol er mwyn cymell twf economaidd lleol;

e) cefnogi trefi marchnad Cymru, canolfannau traddodiadol ein cymunedau, a'r seilwaith sylfaenol o'u cwmpas;

f) cynyddu'r gyfran o gontractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymreig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/03/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

 

2. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

35

44

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

12

44

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

12

44

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, ar ôl '2014' ychwanegu ', er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

9

0

44

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i godi'r trothwy treth incwm i £10,500 yn ei chael ar economi Cymru, gan arwain at doriad o £800 yn nhreth incwm 1.2 miliwn o weithwyr yng Nghymru, gan arbed 153,000 o bobl rhag talu treth incwm yn gyfan gwbl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

9

23

44

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru er mwyn adeiladu economi cryfach a thecach i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

32

44

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl 'ffyniant' ychwanegu 'a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

12

9

44

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5711 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu â chyflawni ei hamcanion o ddileu'r diffyg yng nghyllideb y DU erbyn 2015 a chynnal ei statws credyd AAA.

2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi haneru'r diffyg ariannol fel cyfran o gynnyrch domestig gros;

 

3. Yn gresynu at y ffaith bod mesurau llymder Llywodraeth y DU wedi arwain at doriad 10% mewn termau real i gyllideb Cymru ers 2010; a'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar gymunedau a theuluoedd yng Nghymru sy'n deillio o hynny.

4. Yn cydnabod bod 41,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru o'i gymharu â 2010 ac mai'r DU oedd y wlad a oedd yn tyfu'n gyflymaf yn y G7 yn 2014, er bod pryderon o hyd ynglŷn â lefel diweithdra ieuenctid ac effaith contractau dim oriau ar  dlodi ymysg pobl sydd mewn gwaith;

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn seilwaith a chreu'r amodau ar gyfer twf yn y sector preifat i greu swyddi a ffyniant a nodi bod Llywodraeth Cymru, er gwaethaf toriadau o tua 30% yn y Gyllideb Gyfalaf, wedi parhau i wneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol ledled Cymru i gefnogi'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

12

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/02/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5701 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau bod targedau'r GIG yng Nghymru yn cael eu cwrdd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

10

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


12/02/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.52

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5687 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 138,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.

 

2. Yn gresynu at:

 

a) bwriad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael yng Nghymru;

 

b) y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni cyflenwad priodol o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru; ac

 

c) y ffaith bod nifer yr unedau tai cymdeithasol wedi gostwng ers i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am dai.

 

3. Yn galw am raglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad tai a lleddfu problemau o ran fforddiadwyedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod gan gynghorau lleol eisoes yr opsiwn o wneud cais i Lywodraeth Cymru atal yr hawl i brynu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

1

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 2a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atal yr hawl i brynu ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd gan gadw hawliau ar gyfer tenantiaid presennol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

10

10

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy y dylid eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod tymor Cynulliad o fewn chwe mis i etholiad Cynulliad a dylid adrodd arnynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

9

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5687 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod dros 138,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael.

 

2. Yn nodi bod gan gynghorau lleol eisoes yr opsiwn o wneud cais i Lywodraeth Cymru atal yr hawl i brynu.

 

3. Yn gresynu at:

 

a) y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflawni cyflenwad priodol o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru; a

 

b) y ffaith bod nifer yr unedau tai cymdeithasol wedi gostwng ers i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am dai.

 

4. Yn galw am raglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad tai a lleddfu problemau o ran fforddiadwyedd.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atal yr hawl i brynu ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir o'r newydd gan gadw hawliau ar gyfer tenantiaid presennol.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy y dylid eu hadeiladu yng Nghymru yn ystod tymor Cynulliad o fewn chwe mis i etholiad Cynulliad a dylid adrodd arnynt i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob blwyddyn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

10

34

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/02/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5681 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;

 

2. Yn nodi ymhellach y byddai teuluoedd sy'n talu band D y dreth gyngor yng Nghymru £149.31 y flwyddyn yn gyfoethocach pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i rewi'r dreth gyngor ym mhob blwyddyn ers 2010; 

 

3. Yn gresynu at y ffaith bod biliau treth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau gormodol ar aelwydydd sydd o dan bwysau; a

 

4. Yn credu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a phwyll, er mwyn sicrhau bod cyfraddau treth gyngor yn cael eu gosod mor isel â phosibl i breswylwyr a bod cyfraddau treth gyngor yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

42

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5681 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio symiau canlyniadol Barnett blaenorol gan Lywodraeth y DU i roi'r gallu i awdurdodau lleol rewi'r dreth gyngor i breswylwyr yng Nghymru;

 

2. Yn nodi'r sefyllfa ariannol anodd sy'n wynebu llywodraeth leol ac effaith mesurau llymder Llywodraeth y DU ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.

3. Yn credu mai dyletswydd gyntaf awdurdodau lleol yn sgil y toriad 3.4% ar gyfartaledd yn y setliad refeniw llywodraeth leol yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

43

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/02/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5684 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi na fu unrhyw welliant sylweddol yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru gymryd perchnogaeth o'r maes awyr.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo nwyddau;

 

b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd; ac

 

c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

42

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

16

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dod yn berchennog ar Faes Awyr Caerdydd heb baratoi achos busnes llawn dros wneud hynny yn gyntaf.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi strategaeth twf clir a chynhwysfawr, gan gynnwys cynigion ar gyfer llwybrau pell;

 

b) archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys modelau buddsoddi cyhoeddus a phreifat; ac

 

c) sicrhau datganoli toll teithwyr awyr er mwyn cynhyrchu llwybrau ychwanegol, cynyddu nifer y teithwyr a rhoi hwb i economi Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5684 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi y bydd gwelliant yn nifer y teithwyr sy'n teithio drwy Faes Awyr Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth llywodraeth a rheolaeth fasnachol gadarn.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda'i gilydd i ddatganoli toll teithiau awyr pell i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran datblygu llwybrau newydd o'r maes awyr a chynyddu gweithrediadau cludo nwyddau;

 

b) cyhoeddi prisiad marchnad cyfredol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd; ac

 

c) cyhoeddi strategaeth glir a chynhwysfawr er budd teithwyr, busnesau a threthdalwyr sy'n cynnwys cynigion ar gyfer llwybrau hir ac yn archwilio pob opsiwn ar gyfer dyfodol Maes Awyr Caerdydd, gan gynnwys dychwelyd y maes awyr i berchnogaeth breifat.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


29/01/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.51

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r cytundeb diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4.

 

2. Yn credu bod angen prosiect trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er budd modurwyr a busnesau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y cyd i gynnal Astudiaeth fanwl o'r Effaith Amgylcheddol ar lwybr dewisol Llywodraeth Cymru, ac na fydd gwaith adeiladu'n dechrau ar ffordd liniaru'r M4 cyn etholiad nesaf y Cynulliad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn a chyfartal i'r llwybr glas wrth iddi barhau i ddatblygu ei chynigion ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

43

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd fynediad gwaith dur yr A4810 ger gwaith dur Llanwern yng Nghasnewydd, fel rhan o strategaeth drafnidiaeth integredig ar gyfer de-ddwyrain Cymru yn cynnwys buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, seilwaith cludo nwyddau ar drenau a gwella llwybrau strategol lleol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

47

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5675 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r cytundeb diweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar drydaneiddio rheilffyrdd, a allai leihau lefelau traffig ar yr M4.

 

2. Yn credu bod angen prosiect trafnidiaeth effeithlon, ystyriol a strwythuredig sy'n rhoi gwerth am arian i economi Cymru a bod yn rhaid iddo gael ei roi ar waith ar y cyfle cyntaf er mwyn lleddfu tagfeydd cronig ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad llawn a chyflym o'r holl opsiynau, gan gynnwys rhoi ystyriaeth gyfartal i'r llwybr glas, gyda'r prif nod o wella capasiti'r M4 er budd modurwyr a busnesau.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gwariant ehangach ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn arwain at fuddsoddiad ac adnoddau'n cael eu dosbarthu'n deg ar hyd a lled y wlad, nid dim ond o amgylch yr M4 yng Nghasnewydd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

 


15/01/2015 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.35

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5665 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi busnesau bach tan fis Mawrth 2015;

 

b) bod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi yn natganiad yr Hydref ar 3 Rhagfyr 2014 y bydd gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros ardrethi busnes ym mis Mawrth 2015.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cymorth ardrethi busnes i fusnesau bach.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau addysg uwch a'r gymuned fusnes i greu economi fwy dynamig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


11/12/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn; a

 

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd targedau ei Lywodraeth o ran:

 

a) perfformiad y GIG;

 

b) perfformiad addysgol Cymru yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac

 

c) gwelliant mewn perfformiad economaidd ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer yr economi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5654 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi, o dan y Rhaglen Lywodraethu bresennol, fod Llywodraeth Cymru wedi methu o ran ei hamcanion allweddol i gyflawni dros bobl Cymru.

 

2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyhoeddi amserlen gyflawn ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar ddechrau'r Cynulliad hwn;

 

 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod gan Gymru set lawn o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyfredol ar gyfer yr economi; a

 

4. Yn galw ar y Prif Weinidog i nodi ei bumed flwyddyn yn y swydd drwy gyhoeddi amserlen ar gyfer cyrraedd targedau ei Lywodraeth o ran:

 

a) perfformiad y GIG;

 

b) perfformiad addysgol Cymru yn erbyn safonau rhyngwladol megis PISA; ac

 

c) gwelliant mewn perfformiad economaidd ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y  cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


27/11/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.46

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5638 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth genedlaethol Cymru.

 

2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran denu ymwelwyr i Gymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

4

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


20/11/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.14

 

NDM5624 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae pobl hŷn yn ei wneud i les cymdeithasol ac economaidd Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

 

2. Yn nodi cyhoeddi'r ddogfen 'Lle i'w Alw'n Gartref', adolygiad gan y Comisiynydd Pobl Hŷn o ofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i fwrw ymlaen â'r argymhellion yn yr adolygiad.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu a nodi gofynion hyfforddiant sylfaenol ar gyfer gweithwyr cartref gofal sy'n ymgorffori egwyddorion urddas a pharch.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


13/11/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.38

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

NDM5614 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swydd Comisiynydd y Lluoedd Arfog.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

34

44

Gwrthodwyd y cynnig.

 


13/11/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.18

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

NDM5616 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod gan Gymru gyfoeth o adnoddau naturiol.

 

2. Yn nodi'r rôl bwysig y mae dŵr yn ei chwarae o ran cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru ar hyn o bryd ac at y dyfodol.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o fanteisio ar botensial dŵr i economi Cymru.

 

4. Yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgysylltu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod pwysigrwydd adnoddau dŵr i gymunedau yn cael ei nodi a gweithio tuag at gynnwys gwybodaeth ar labeli ynghylch ôl troed dŵr cynhyrchion a gwasanaethau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

12

44

Derbyniwyd y cynnig.

 


06/11/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5608 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Triniaethau Canser i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

40

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa technolegau iechyd i gynnwys meddyginiaethau ar gyfer canser a chlefydau eraill.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

44

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu popeth ar ôl "sefydlu" a rhoi "dull gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at driniaethau canser" yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

10

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5608 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dull gweithredu Cymru gyfan er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch o ran mynediad at driniaethau canser.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

10

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


23/10/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.36

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5603 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd porthladdoedd i economi Cymru.

 

2. Yn nodi y gallai cynnydd mewn morgludiant byr ym mhorthladdoedd Cymru sicrhau manteision yn y tymor hir.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith gyda WEFO ar ddatblygiadau isadeiledd a rôl porthladdoedd yn y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

13

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


23/10/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.46

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi, er gwaethaf y cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau yn y ddau gytundeb diwethaf ar y gyllideb, fod toriadau yn ystod y flwyddyn o £10.7 miliwn wedi gadael darparwyr dysgu yn nhir neb.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

19

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod yr effaith sylweddol a chadarnhaol a gafodd y cytundeb ar gyllideb 2013/14 rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar bobl ifanc ac yn gresynu at benderfyniad y Llywodraeth i gymryd cam yn ôl a thorri'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5604 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu cyhoeddiad cyllidebol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru o £10 miliwn ychwanegol i ddarparu tua 5,000 o brentisiaethau newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi nifer y prentisiaethau a grëwyd ers 2011.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr astudiaeth derfynol o gylch gorchwyl Twf Swyddi Cymru yn cynnwys gwerthusiad o'r sgiliau a ddatblygodd cyfranogwyr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

19

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


02/10/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.15

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5584 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd;

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei gyrraedd erbyn 2030;

 

3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol, treulio anaerobig ac ynni dŵr;

 

5. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru; a

 

6.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa fach o dan 50MW.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gyrraedd ei thargedau Newid Hinsawdd ar gyfer 2020;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid cymysg.

 

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw.

 

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu bod adnoddau naturiol Cymru yn asedau gwerthfawr y gellid eu defnyddio i dorri allyriadau carbon, ac yn galw am ddatganoli'r holl bwerau dros ynni yn llawn, gan gynnwys pob agwedd ar drwyddedu, caniatâd cynllunio ac Ystad y Goron.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed i Gymru fod yn hunangynhaliol o ran trydan adnewyddadwy.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5584 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd;

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei gyrraedd erbyn 2030;

 

3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol, treulio anaerobig ac ynni dŵr;

 

5. Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar LywodraethCymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw.

 

6. Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid cymysg.

 

7. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru.

 

8.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa fach o dan 50MW.

 

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


02/10/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.23

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5585 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod angen mwy o eglurder o ran dangosyddion perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a

 

3. Yn nodi'r angen i ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter eraill, fel Eryri.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

30

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu "mwy o eglurder o ran dangosyddion" a rhoi "adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion" yn ei le

 

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

20

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

gan gynnwys datgrynhoi cyllid cyhoeddus a phreifat o fewn y DPA buddsoddi,

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:

"ac y dylai'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny gynnwys mesurau o gynhyrchiant ym mhob ardal; a"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3, dileu "Yn nodi'r" a rhoi "Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i archwilio i'r"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl "Yn nodi" a rhoi yn ei le "y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb Llywodraeth y DU".

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5585 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod angen adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a

 

3. Yn nodi y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb Llywodraeth y DU.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


25/09/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:10

NDM5570 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

31

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd  gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:


NDM5570 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.

2.Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


18/09/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:53

NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

37

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu popeth ar ôl 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru' a rhoi yn ei le:

1. Yn credu bod dyfodol yr Alban yn fater i bobl yr Alban.

2. Yn credu ymhellach mai'r ffordd orau o wasanaethu'r cysylltiadau cryf rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn yw drwy ysbryd o gydweithredu a chydraddoldeb.

3. Yn nodi y byddai ymwreiddio'r Fformiwla Barnett, fel yr addawyd gan bleidiau'r DU yn yr ymgyrch 'Na' ar gyfer y refferendwm ar 18 Medi 2014, yn niweidiol i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

37

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

9

0

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5565 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn well gyda’i gilydd ac y dylai’r Alban ddewis aros yn y DU ar 18 Medi 2014.

2. Yn credu y dylai Cymru, beth bynnag fo'r canlyniad, siarad ag un llais, ac yn galw am weithredu'n gyflym yr argymhellion yn Rhannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac am sefydlu confensiwn cyfansoddiadau ledled y DU i greu cynllun drafft am undeb newydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

9

9

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


10/07/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NNDM5555

 

Paul Davies (Preseli Penfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r Cod Gweinidogol: Cod Moeseg a Chanllawiau Gweithdrefnol i Weinidogion.

 

2. Yn nodi disgwyliad y Prif Weinidog bod yr holl Weinidogion, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol yn cydymffurfio â'r Cod

 

3. Yn nodi'r adroddiad i'r Prif Weinidog ar gydymffurfiaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd â'r Cod Gweinidogol mewn perthynas â Cylchffordd Cymru, sy'n cadarnhau bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd wedi torri'r Cod Gweinidogol

 

4. Yn galw am benodi Dyfarnwr Annibynnol y Cod Gweinidogol er mwyn gwella tryloywder a, thrwy hynny, cynyddu hyder yn y rhai a gaiff eu hethol i swyddi cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig.


03/07/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.13

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru;

 

2. Yn gresynu at:

 

a) diffyg cyllid Llywodraeth Cymru i Croeso Cymru;

 

b) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol;

 

c) uchelgais cul Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella nifer yr ymwelwyr tramor â Chymru;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar sut y mae'n ymgynghori â darparwyr twristiaeth yng Nghymru ac yn cael ei harwain ganddynt.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

15

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i economi Cymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y gall y diwydiant twristiaeth wneud y mwyaf o botensial ein treftadaeth gyfoethog a'n hamgylchedd amrywiol, yn ogystal â manteisio ar ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu a monitro data sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a gwybodaeth am y farchnad i lywio blaenoriaethau strategol ar gyfer twristiaeth yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/06/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.13

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5535 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod aelwydydd a busnesau yng Nghymru yn cael llawer o bost heb gyfeiriad nad yw byth yn cael ei agor ac sydd naill ai'n mynd yn syth i'w dirlenwi neu'n cael ei ailgylchu;

 

2. Yn credu bod hwn yn straen ychwanegol ar:

 

a) busnesau, sy'n gorfod talu am waredu gwastraff; a

 

b) awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb am gasglu’r gwastraff.

 

3. Yn pryderu am yr effaith amgylcheddol sy'n niweidiol i'n hadnoddau naturiol, gyda phob tunnell o bost heb gyfeiriad arno yn defnyddio 17 o goed a 7000 galwyn o ddŵr i'w gynhyrchu;

 

4. Yn nodi ymhellach Ymgyrch Age Cymru ‘Sgamiau a Thwyll’.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyhoeddusrwydd i gynlluniau eithrio fel y Gwasanaeth Dewis Derbyn Post.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

13

46

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


26/06/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.15

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5534 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf;

 

2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i fywyd sifil;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i Gymru i alluogi:

 

a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys cyn-filwyr

 

b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i gyn-filwyr

 

c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr

 

d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG

 

e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt.

 

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford, i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

14

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer milwyr.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

9

0

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Ym mhwynt 3, dileu ‘sefydlu’ a rhoi ‘ystyried’ yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

10

46

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag Anhwylder Straen wedi Trawma.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5534 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r digwyddiadau diweddar i goffáu D-Day, Diwrnod Lluoedd Arfog y DU a chanmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf;

 

2. Yn gwerthfawrogi cyfraniadau milwyr o Gymru, yn ddynion a menywod, ac yn cydnabod yr anawsterau y gallant eu hwynebu ar ôl dychwelyd i fywyd sifil;

 

3. Yn croesawu’r cyhoeddiad yn Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU am gynigion ar gyfer Bil Cwynion am Wasanaethau, er mwyn gwella’r system gwynion yn y Lluoedd Arfog drwy sefydlu Ombwdsmon ar gyfer milwyr.

 

4. Yn gresynu at y ffaith bod toriadau i fudd-daliadau ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y dreth ystafell wely, yn effeithio ar gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’r rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i Gymru i alluogi:

 

a) ehangu'r cynllun prisiau consesiynol presennol i gynnwys cyn-filwyr

 

b) mynediad am ddim i byllau nofio awdurdodau lleol i gyn-filwyr

 

c) mynediad am ddim i safleoedd Cadw i gyn-filwyr

 

d) blaenoriaeth o ran triniaeth ar gyfer cyflyrau/anafiadau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol ar y GIG

 

e) blaenoriaeth o ran darparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i gyn-filwyr y mae angen addasiadau i'r cartref arnynt.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn darparu cefnogaeth ddigonol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd ag Anhwylder Straen wedi Trawma.

 

7. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r potensial i godi cofeb Gymreig yn yr Ardd Goed Genedlaethol yn Swydd Stafford, i gofio ac anrhydeddu'r holl ddynion a menywod dewr o Gymru a ymladdodd ac a gollodd eu bywydau yn gwasanaethu'r genedl.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

4

10

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


19/06/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5527 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn gresynu bod gormod o bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion diagnostig a thriniaeth y GIG.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at yr anawsterau y mae cleifion yn eu hwynebu wrth drefnu apwyntiadau gyda meddyg teulu er mwyn cael triniaeth yn brydlon.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y cynnydd o 20% rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2014 yn nifer y cleifion sy’n disgwyl 36 wythnos i gael dechrau triniaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fyrder i fynd i'r afael â rhestrau aros hirdymor.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros o’r fath yn sylweddol hirach yn GIG Cymru nag yn yr Alban a Lloegr.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 

26

0

27

53

 

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


05/06/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5520 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd yr economi ddigidol, a datblygu seilwaith i'w chynnal.

 

2. Yn gresynu bod ardaloedd yng Nghymru o hyd lle nad oes fawr ddim darpariaeth band eang neu 3G, os o gwbl, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar fusnesau ac unigolion.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion ynghylch sut y bydd y £12 miliwn o’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cyflymu Cymru yn cael ei ddyrannu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

14

51

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


22/05/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd mewn llywodraeth yng Nghymru;

 

2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn:

 

a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach ar 72.3% o gyfartaledd y DU;

 

b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio ym mhob cyfnod asesu;

 

c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

28

43

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

15

22

43

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


15/05/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.30

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5504 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod stryd fawr defnydd cymysg ac economi briodol gyda'r nos yn allweddol i sicrhau goroesiad y stryd fawr yng Nghymru;

 

2. Yn nodi'r cysylltiad rhwng twristiaeth, treftadaeth ac adfywio;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol, ardaloedd gwella busnes a phrosiectau datblygu ddull cydgysylltiedig o ran adfywio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

5

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


08/05/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.22

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5497 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod nifer y busnesau bach a chanddynt werth ardrethol o hyd at £12,000 yng Nghymru bellach yn 73% o bob busnes;

 

2. Yn cydnabod y bydd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb llawn am ardrethi busnes pan fydd Bil Cymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol;

 

3. Yn cydnabod bod cydbwysedd rhwng manwerthwyr y trydydd sector a manwerthwyr annibynnol yn hanfodol i gynnal y stryd fawr;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Ystyried manteision rhannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr i sicrhau bod Cymru yn unol â'r Alban a Lloegr;

 

b) Adfywio rhyddhad caledi, sy'n hanfodol i fusnesau bach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

12

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


01/05/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

 

2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy rheolaidd drwy WEFO.

 

4. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod 2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys am bedwaredd rownd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

35

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

10

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl Pwyllgor y Rhanbarthau; a

 

b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5493 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi argymhellion adroddiad diweddar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.

 

2. Yn nodi ymhellach bod Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn cael eu dyfarnu i ranbarthau â chynnyrch mewnwladol crynswth o lai na 75% o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd ac yn gresynu bod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymwys am drydedd rownd o gyllid.

 

3. Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y DU yn parhau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd i wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus, cynaliadwy a diogel.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau a gyllidir gan yr UE yn cael eu diweddaru yn fwy cynhwysfawr ac yn fwy rheolaidd drwy WEFO.

 

5. Yn gresynu at fethiant dramatig prosiectau proffil uchel gan gynnwys Genesis 2 Cymru.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y cyfnod 2014-2020 yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i sicrhau nad yw Cymru yn gymwys am bedwaredd rownd.

 

7. Yn nodi pe byddai’r DU yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, mai dyna fyddai diwedd rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE ac y byddai'n niweidiol i'r economi.

 

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gweithio ar lefel Ewropeaidd i gryfhau rôl Pwyllgor y Rhanbarthau; a

 

b) ceisio cael llais cryfach i Gymru yn y Sefydliadau Ewropeaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

33

45

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


01/05/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.02

 

NDM5494 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r effaith economaidd a chymdeithasol gadarnhaol y mae'r dafarn yn ei chael ar gymunedau lleol.

 

2. Yn nodi ymhellach y gwaith nodedig sy'n cael ei wneud gan gynlluniau fel Pub is the Hub, ledled Cymru a Lloegr, o ran sicrhau y gall tafarnau ganolbwyntio mwy ar y gymuned.

 

3. Yn cydnabod bod yr astudiaethau achos gan grwpiau ymgyrchu, fel Pub is the Hub a'r Campaign for Real Ale, yn astudiaethau pwysig i ddysgu ohonynt.

 

4. Yn gresynu bod ystadegau diweddar y Campaign for Real Ale yn awgrymu bod tair tafarn yr wythnos yn cau yng Nghymru.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n fwy effeithiol gyda’r diwydiant tafarnau yng Nghymru i sicrhau llwyddiant parhaus tafarnau Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


03/04/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;

 

2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn;

 

3. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau ochr yn ochr â holl strategaethau a pholisïau’r Llywodraeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5484 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;

 

2. Yn nodi canfyddiadau adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o ran dangosyddion y Rhaglen Lywodraethu;

 

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r rôl y mae Uned Gyflawni'r Prif Weinidog yn ei chwarae o ran cyflawni’r dangosyddion hyn;

 

4. Yn gresynu at fethiant ymddangosiadol yr Uned Gyflawni i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru yn well yn achos cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


27/03/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.16

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5477 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr i rewi'r dreth gyngor am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

 

2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban i rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2014/15; a bod rhewi o'r fath wedi bod ar waith ers 2008/09.

 

3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel â phosibl i drigolion.

 

4. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod gweithredu cynllun tebyg i un Lloegr, sy'n creu trothwy refferendwm o 2% o ran cynnydd y dreth gyngor.

 

5. Yn gresynu ymhellach at y cynnydd cyfartalog o 4.2% yn y dreth gyngor o ran awdurdodau lleol Cymru ar gyfer 2014/15, a bod biliau'r dreth gyngor wedi cynyddu dros 150% yng Nghymru ers 1997/98, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd dan bwysau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu llywodraeth leol a’r tebygolrwydd o bwysau parhaol ar gyllidebau awdurdodau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod swyddogaeth y dreth gyngor o ran darparu ffrwd refeniw i gynnal swyddi a gwasanaethau lleol ac yn credu bod lefelau’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol fel rhan o’u proses cyllideb.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

10

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu eu lefelau treth gyngor eu hunain, a’u bod yn atebol i’w hetholwyr am hynny, y dylent wrth wneud hynny ystyried amgylchiadau economaidd talwyr y dreth gyngor yn eu hardal.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

11

0

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i ddiogelu’r cartrefi tlotaf yng Nghymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i gymorth y dreth gyngor.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

15

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

15

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r cynnig yn y Bil Tai (Cymru) i gynyddu’r dreth gyngor ar dai gwag, a oedd yn argymhelliad allweddol yn nadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ym mis Chwefror 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5477 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr i rewi'r dreth gyngor am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

 

2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban i rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2014/15; a bod rhewi o'r fath wedi bod ar waith ers 2008/09.

 

3. Yn cydnabod swyddogaeth y dreth gyngor o ran darparu ffrwd refeniw i gynnal swyddi a gwasanaethau lleol ac yn credu bod lefelau’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol fel rhan o’u proses cyllideb.

 

4. Yn nodi’r sefyllfa ariannol anodd sy’n wynebu llywodraeth leol a’r tebygolrwydd o bwysau parhaol ar gyllidebau awdurdodau lleol.

 

5. Yn credu er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu eu lefelau treth gyngor eu hunain, a’u bod yn atebol i’w hetholwyr am hynny, y dylent wrth wneud hynny ystyried amgylchiadau economaidd talwyr y dreth gyngor yn eu hardal.

 

6. Yn croesawu’r camau sydd wedi cael eu cymryd i ddiogelu’r cartrefi tlotaf yng Nghymru rhag toriadau Llywodraeth y DU i gymorth y dreth gyngor.

 

7. Yn croesawu’r cynnig yn y Bil Tai (Cymru) i gynyddu’r dreth gyngor ar dai gwag, a oedd yn argymhelliad allweddol yn nadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar dai gwag ym mis Chwefror 2013.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


20/03/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.04

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y gwelliant diweddar yn economi'r DU yn sgîl camau gweithredu Llywodraeth y DU.

 

2. Yn cydnabod mai 0.7% oedd twf cyffredinol cynnyrch mewnwladol crynswth y DU ym mhedwerydd chwarter 2013.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu pwynt 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

17

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

3

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn penderfynu bod angen cymryd camau ar frys i wella ffyniant economaidd Cymru, yn cynnwys mabwysiadu strategaeth wedi’i seilio ar sgiliau ac sy’n cael ei harwain gan allforio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r effaith gadarnhaol y bydd creu mwy na miliwn o brentisiaethau yn Lloegr ers 2010 wedi’i chael ar economi’r DU ac yn gresynu at y ffaith bod nifer y bobl ar brentisiaethau yng Nghymru wedi gostwng dros 26% rhwng 2006 a 2012.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5469 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu bod y data CMC diweddaraf yn dangos dirywiad yn CMC Cymru o’i gymharu â’r cyfartaledd yn yr UE.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i sicrhau twf economaidd hirdymor.

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dangosyddion economaidd allweddol, fel ystadegau CMC a GYC, yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd er mwyn cyfrannu at bolisïau yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


20/03/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.04

 

NDM5468 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn mynegi pryder y dyfarnwyd graddau annisgwyl o isel i rai myfyrwyr a safodd fodiwlau Saesneg TGAU ym mis Ionawr 2014;

 

2. Yn croesawu adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru o'r sefyllfa;

 

3. Yn nodi pwysigrwydd ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i'r adolygiad; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rannu natur y broses adolygu a'r dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad mewn modd agored a didwyll.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


12/03/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i bobl Cymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant bysiau a theithwyr.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i Lywodraeth Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

13

0

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig penodol i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

13

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Ym mhwynt 3, ar ôl ‘Lywodraeth Cymru’ cynnwys ‘i gydweithio â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5448 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau i bobl Cymru.

 

2. Yn cydnabod bod angen Comisiynydd Traffig penodol i Gymru.

 

3. Yn croesawu argymhelliad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i ddatganoli pŵer rheoleiddio dros fysiau i Lywodraeth Cymru.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â’r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill i sicrhau sefydlogrwydd ar gyfer y diwydiant bysiau a theithwyr.

 

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwasanaethau bysiau yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

13

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/03/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.55

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

31

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu cylch gwaith a swyddogaethau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5444 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pryderon a fynegwyd gan Syr Bruce Keogh ynglyn ag amseroedd aros a chyfraddau marwolaeth yn GIG Cymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ar unwaith adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru sydd â chyfraddau marwolaeth sy'n uwch na'r cyfartaledd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu pa gamau y mae wedi’u cymryd i adolygu perfformiad ysbytai gyda data Mynegai Marwolaethau wedi'i Addasu yn ôl Risg (RAMI) sy’n uwch na’r disgwyl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


12/02/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5430 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen frys i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus o ran cyflenwad tai yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

11

44

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


06/02/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.20

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5421 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwella cysylltedd ledled Cymru wledig i sicrhau mynediad effeithiol i wasanaethau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

11

48

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


30/01/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5416 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Cyrchfan Cymru’.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi ansawdd gwael y data a gasglwyd ar lefel genedlaethol (Cymru) ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddarparu data cynhwysfawr ar Fuddsoddi Uniongyrchol Tramor gan gynnwys sectorau, tarddiad a gwerth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf a bod yn rhaid i strategaeth Llywodraeth Cymru newid hefyd yn unol â hynny.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad oes gan UK Trade & Investment ganolfan yng Nghymru na strategaeth ar gyfer Cymru er bod ganddynt un ar gyfer Lloegr a’r Alban.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi sylwadau Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i’r Pwyllgor Menter a Busnes ar 14 Mawrth 2012 nad yw Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gael y brand yn gywir ar gyfer Cymru, ac yn gresynu nad oes dim strategaeth brandio wedi’i chyflwyno ers hynny.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5416 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi'r cynigion ar gyfer mewnfuddsoddi a amlinellwyd yn nogfen Ceidwadwyr Cymru ‘Cyrchfan Cymru’.

 

Yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor Menter a Busnes i ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

5

27

54

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


23/01/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.44

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5407 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny.

 

3. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd;

 

b) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn 2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd;

 

c) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

31

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Dileu is-bwyntiau 4a a 4b a rhoi yn eu lle:

 

parhau â’i dull a ddisgrifir yn y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru a’r buddsoddiad o £240 miliwn i ddelio â llifogydd yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl gwaith atgyweirio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at ddibenion gwella mesurau atal llifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 4a newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i helpu i ysgwyddo'r baich ariannol’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5407 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi llifogydd a difrod mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 sydd wedi effeithio ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn cydnabod gwaith rhagorol y gwasanaethau a’r sefydliadau brys o ran darparu cefnogaeth a chymorth i'r cymunedau hynny.

 

3. Yn canmol gwirfoddolwyr lleol ar hyd a lled Cymru am eu hymroddiad yn ystod y broses lanhau ac adfer.

 

4. Yn credu y dylai'r defnydd deuol posibl o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol gael ei ystyried o ran darparu amddiffynfeydd môr pellach.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) annog adolygiad o’r polisi clirio afonydd yng Nghymru cyn gynted â phosibl, er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd.

 

b) amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i ddefnyddio gwybodaeth leol a thechnegau rheoli tir arloesol i wneud mwy o ddefnydd o adnoddau naturiol i leihau effaith llifogydd, a chymryd camau i sicrhau bod cynrychiolwyr yn gwella eu sgiliau’n briodol er mwyn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd.

 

c) ymgysylltu’n gadarnhaol â phartneriaid perthnasol i sicrhau agwedd bragmatig tuag at geisiadau gan fusnesau a thai i ôl-ffitio eiddo at ddibenion gwella mesurau atal llifogydd.

 

d) cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau y mae wedi'u cymryd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd i gynorthwyo gyda’r costau yn sgîl gwaith atgyweirio.

 

e) mynd ati ar unwaith i adolygu Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd;

 

f) datblygu ac ail-lansio'r cynllun grant a dreialwyd yn 2010/11 i ddarparu cyllid i'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd i wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag llifogydd;

 

g) cyhoeddi adroddiadau ymchwiliad Cyfoeth Naturiol Cymru i’r llifogydd diweddar, ar ôl eu cwblhau;

 

h) sefydlu Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i Gymru;

 

i) cyfrifo'r gost ychwanegol i lywodraeth leol a sefydliadau cyhoeddus eraill yn sgîl y stormydd diweddar, ac ystyried ar unwaith yr angen i wneud cais am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU neu'r Undeb Ewropeaidd i helpu i ysgwyddo'r baich ariannol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig fel y’i diwygiwyd. Felly, gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.


16/01/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5398  William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gryfach gyda’i gilydd fel rhan o’r Deyrnas Unedig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

44

57

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

1. Yn credu y bydd y berthynas rhwng gwledydd Prydain yn cael ei chryfhau drwy barchu hawl pobloedd Prydain i benderfynu ar eu dyfodol cenedlaethol eu hunain.

 

2. Yn credu hefyd mai setliad cymdeithasol ac economaidd newydd o bartneriaid cyfartal fyddai’r ffordd orau o ddarparu cyd-destun teg a pharhaol ar gyfer cydweithredu yn yr ynysoedd hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

47

58

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

 

‘gyda mwy o bwerau wedi’u datganoli i bob un o’r pedair gwlad’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

13

0

58

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r hyn y mae datganoli wedi’i wneud i wella democratiaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i gyfraniad at y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.  Yn credu bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn gryfach gyda’i gilydd fel rhan o’r Deyrnas Unedig gyda mwy o bwerau wedi’u datganoli i bob un o’r pedair gwlad.

 

2. Yn croesawu’r hyn y mae datganoli wedi’i wneud i wella democratiaeth yng Nghymru a’r Alban, a’i gyfraniad at y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

11

58

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


16/01/2014 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM5397 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi llwyddiannau rygbi rhyngwladol Cymru yn ddiweddar a phwysigrwydd rygbi i ddiwylliant ac i economi Cymru.

 

2. Yn nodi’r trafodaethau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd rhwng Undeb Rygbi Cymru a Rygbi Rhanbarthol Cymru ynghylch dyfodol rygbi Cymru ac yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynnal strwythur cryf ar lawr gwlad ac yn rhanbarthol er mwyn i’r gamp allu datblygu a ffynnu ledled Cymru.

 

3. Yn credu er mwyn cael llwyfan cryf ar gyfer rygbi Cymru ei bod yn rhaid i gyrff a chlybiau cenedlaethol a rhanbarthol gydweithio’n adeiladol er mwyn creu sylfaen ariannol gref er lles y gamp yn y dyfodol ac yn gobeithio y bydd y trafodaethau cyfredol yn arwain at benderfyniad yn gyflym.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


12/12/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5385 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod y Cynulliad hwn.

2. Yn nodi:

a) pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles personol ei dinasyddion;

b) adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru” ar rôl y celfyddydau o ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a

c) bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr tramor yn mynd i'r theatr, sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad chwaraeon byw, pan fyddant yn ymweld â Phrydain.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a llywodraeth leol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

pwysigrwydd y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys is-bwynt 2c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

bod adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio dewisiadau cyllido gyda’r nod o sicrhau bod yna ddarpariaeth gyfartal ar gael i bobl ifanc ym mhob math o gelf, a bod pobl ifanc eithriadol o dalentog yn gallu dilyn a meithrin eu talent;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau busnes cynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

12

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5385 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod y Cynulliad hwn.

2. Yn nodi:

a) pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles personol ei dinasyddion;

b) pwysigrwydd y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;

c) adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru” ar rôl y celfyddydau o ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a

d) bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr tramor yn mynd i'r theatr, sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad chwaraeon byw, pan fyddant yn ymweld â Phrydain.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a llywodraeth leol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau busnes cynaliadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


05/12/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5380 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod:

a) pwysigrwydd y BBC ym mywyd Cymru fel rhan o’r cyfryngau amrywiol;

b) yr angen i adnewyddu'r siarter sy'n adlewyrchu'r setliad datganoli presennol a'r setliad datganoli sy'n datblygu; a

c) y cyfraniad arloesol y mae'r BBC a darlledwyr cyhoeddus eraill yn ei wneud i ddiwylliant Cymru, y Gymraeg a'r economi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

15

56

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


28/11/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5371 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn mynegi pryder ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Llwynhelyg.

 

2. Yn nodi'r effaith y byddai absenoldeb gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn ei chael ar wasanaethau craidd eraill yn yr ysbyty, megis gofal pediatrig a gofal brys.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

(a) cymryd camau gweithredu brys i sicrhau dyfodol gwasanaethau craidd yn Llwynhelyg; a

 

(b) sicrhau bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfathrebu ei gynlluniau ar gyfer cyfeiriad strategol y gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg mewn modd effeithiol a diamwys.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.


28/11/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5370 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi ei bod yn adeg o newid o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio systemau.

 

2. Yn cydnabod:

 

a) y potensial i gydgynhyrchu wella cyflenwad gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol.

 

b) ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gan asedau sy'n eiddo cyhoeddus y potensial i aros mewn perchnogaeth gymunedol yng Nghymru.

 

3. Yn gresynu:

 

a) nad oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod cymunedau'n ymwybodol o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol neu'r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.

 

b) bod Cymru yn methu â rhannu llwyddiant yr Agenda Anghenion Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) hyrwyddo cydgynhyrchu fel ffordd hyfyw o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

b) archwilio dichonoldeb mabwysiadu agweddau pellach ar y Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

42

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o gynlluniau megis Trosglwyddo Asedau Cymunedol a’r Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol.

 

b) datblygu polisi asedau cymunedol cynhwysfawr sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

41

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 4b) a rhoi yn ei le:

 

sicrhau bod yr agendâu lleoliaeth a throsglwyddo asedau cymunedol yn ddiamau yn grymuso cymunedau ac nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o breifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

41

56

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


21/11/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.07

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi polisi Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymru’;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y degawdau o fethiannau gan lywodraethau Llafur a Cheidwadol sydd wedi arwain at ein hargyfwng tai ac mae hynny wedi gwthio rhenti yn uwch ac yn uwch, wedi gadael miloedd o bobl heb obaith o gael eu troed ar yr ysgol eiddo, ac wedi golygu bod 1.5 miliwn yn llai o gartrefi cymdeithasol ar gael i’w rhentu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymruyn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod oddeutu 21,551 o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru a bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chreu strategaeth cartrefi gwag ar gyfer Cymru gyfan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

10

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pryder adeiladwyr tai bod biwrocratiaeth yn y system gynllunio yn un o’r prif rwystrau i ddatblygu cartrefi newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Bil Diwygio Cynllunio arfaethedig i gael gwared ar y prif rwystrau rhag darparu trefn gynllunio effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

26

48

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r gwaith o adeiladu tai newydd drwy fenthyciadau ecwiti a chynllun gwarant morgais, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i bennu dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cynllun hirddisgwyliedig Cymorth i Brynu Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllunHawl i Brynuyng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5363 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw polisi’r Ceidwadwyr CymreigGweledigaeth ar gyfer Tai Cymruyn cydnabod mai’r broblem tai mwyaf brys yw’r effaith enbyd y mae’r Dreth Ystafell Wely yn ei chael ar nifer o denantiaid tai cymdeithasol, gan effeithio ar allu landlordiaid cymdeithasol i gynyddu’r cyflenwad tai, ac felly’n annog Llywodraeth y DU i ddiddymu’r Dreth Ystafell Wely.

2. Yn nodi mai dim ond un ar ddeg o gynghorau lleol yng Nghymru sy’n dal i fod â stoc tai cyngor yn eu meddiant ac mae hynny’n llesteirio gweledigaeth Ceidwadwyr Cymreig i adfer cynllunHawl i Brynuyng Nghymru, a bod y pwer i atal yr Hawl i Brynu tai cyngor mewn ardaloedd lle mae llawer o alw yn arf pwysig i helpu i leihau lefelau digartrefedd a phrinder tai cymdeithasol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r farchnad gyfan i sicrhau y ceir ateb i'r argyfwng cyflenwad tai.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

36

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


14/11/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM5353 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar yr argymhellion a geir yn Rhan 1 Silk 'Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru';

2. Yn nodi y dylai cyflwyno Pwerau Benthyca i Lywodraeth Cymru gynorthwyo yn y broses o ddarparu prosiectau seilwaith allweddol ledled Cymru;

3. Yn croesawu ymhellach y datganiad y bydd uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor yn 2014 ac yn nodi'r manteision economaidd uchel a ddylai ddod i economi Cymru yn sgîl cynnal digwyddiad o'r fath;

4. Yn edrych ymlaen at glywed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfleoedd hyn yn y ffordd orau i Gymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


07/11/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5346 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn GIG Cymru yn allweddol i ddileu marwolaethau y gellir eu hosgoi.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru a chanddynt gyfraddau marwolaethau uwch na'r cyfartaledd i benderfynu a yw methiannau o ran ansawdd gofal a thriniaeth yn ffactor.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfraddau marwolaeth ar gyfer pob safle ysbyty ar wefan 'Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael â’r gwaith sydd wedi pentyrru ym maes codio clinigol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i sefydlu dull o ymchwilio i ysbytai neu Fyrddau Iechyd Lleol sy’n mynd dros drothwy penodol RAMI yn gyson dros gyfnod o amser.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod data tebyg ar gael ar farwolaethau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5346 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod gofal a thriniaeth o ansawdd uchel yn GIG Cymru yn allweddol i ddileu marwolaethau y gellir eu hosgoi.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad annibynnol o ysbytai Cymru a chanddynt gyfraddau marwolaethau uwch na'r cyfartaledd i benderfynu a yw methiannau o ran ansawdd gofal a thriniaeth yn ffactor.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfraddau marwolaeth ar gyfer pob safle ysbyty ar wefan 'Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol'.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Byrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael â’r gwaith sydd wedi pentyrru ym maes codio clinigol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i sefydlu dull o ymchwilio i ysbytai neu Fyrddau Iechyd Lleol sy’n mynd dros drothwy penodol RAMI yn gyson dros gyfnod o amser.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i sicrhau bod data tebyg ar gael ar farwolaethau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


24/10/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.11

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5341 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod bylchau cyrhaeddiad mewn addysg yng Nghymru, sy'n dal grwpiau gwahanol o blant yn ôl;

2. Yn credu y gall y rhai hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn yn aml deimlo wedi'u difreinio, a gall hyn arwain at broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd;

3. Yn cydnabod ymhellach bod symud rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn newid mawr ar gyfnod sydd eisoes yn anodd o ran datblygiad plentyn; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes tarfu ar ddysgu yn ystod y cyfnod hwn drwy weithredu strategaeth addysg 8-14 oed gadarn a phenodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

43

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘, yn arbennig y bwlch rhwng cyrhaeddiad ac amddifadedd

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

5

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

ac yn croesawu’r cynnydd yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2014-15, a fydd yn helpu i dorri’r cyswllt rhwng tlodi a thangyflawni addysgol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

12

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod gofalwyr ifanc yn benodol mewn perygl yn aml o dangyflawni’n addysgol oherwydd yr heriau ychwanegol y maen yn eu wynebu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o wella sut y mae adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial addysgol a’u cefnogi wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ffurfioli partneriaethau rhwng ysgolion a sicrhau bod yr addysg blynyddoedd cynnar yn cynnig cydbwysedd gwell o addysgu bugeiliol ac academaidd, i helpu i wella’r broses pontio disgyblion o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 4 dileu ‘a phenodol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

ac i gefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn drwy ddiwygio’r system bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol yng nghyd-destun perfformiad disgyblion unigol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

10

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5341 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod bylchau cyrhaeddiad mewn addysg yng Nghymru, sy'n dal grwpiau gwahanol o blant yn ôl, yn arbennig y bwlch rhwng cyrhaeddiad ac amddifadedd ac yn croesawu’r cynnydd yn y Grant Amddifadedd Disgyblion a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Ddrafft 2014-15, a fydd yn helpu i dorri’r cyswllt rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;

2. Yn credu y gall y rhai hynny nad ydynt yn cyrraedd eu potensial llawn yn aml deimlo wedi'u difreinio, a gall hyn arwain at broblemau yn ddiweddarach mewn bywyd;

3. Yn cydnabod bod gofalwyr ifanc yn benodol mewn perygl yn aml o dangyflawni’n addysgol oherwydd yr heriau ychwanegol y maen yn eu wynebu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd o wella sut y mae adnabod gofalwyr ifanc a’u cefnogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu potensial addysgol a’u cefnogi wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ffurfioli partneriaethau rhwng ysgolion a sicrhau bod yr addysg blynyddoedd cynnar yn cynnig cydbwysedd gwell o addysgu bugeiliol ac academaidd, i helpu i wella’r broses pontio disgyblion o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd;

4. Yn cydnabod ymhellach bod symud rhwng addysg gynradd ac uwchradd yn newid mawr ar gyfnod sydd eisoes yn anodd o ran datblygiad plentyn; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oes tarfu ar ddysgu yn ystod y cyfnod hwn drwy weithredu strategaeth addysg 8-14 oed gadarn ac i gefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn drwy ddiwygio’r system bandio ysgolion i sicrhau ei bod yn mesur perfformiad ysgol yng nghyd-destun perfformiad disgyblion unigol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


10/10/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5323 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth cyfartal addysg alwedigaethol ac academaidd;

2. Yn credu bod economi ffyniannus yn cael budd o fyfyrwyr â sgiliau cynhwysfawr; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â rhanddeiliaid a gweithio gyda hwy i gynllunio cwricwlwm galwedigaethol sy'n annog cydraddoldeb ag addysg academaidd yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

14

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


03/10/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5312 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y dylai mynd ar drywydd rhagoriaeth fod yn ganolog i unrhyw strategaeth addysg yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


26/09/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5302 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd neu eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol anghenion dysgu ychwanegol neu arbennig, eu bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol am ddim, eu bod yn blant sy’n derbyn gofal, neu y cânt eu dysgu’n aml mewn uned cyfeirio disgyblion;

2. Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan i leoliad ysgol;

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a

4. Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol, er mwyn monitro a gwella eu cyfleoedd a’u canlyniadau addysgol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

32

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 1, cynnwys ar ôl ‘blant sy’n derbyn gofal’:

‘eu bod o gefndiroedd difreintiedig, eu bod o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu bod mewn ysgolion neu ddosbarthiadau mawr,’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran helpu plant sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol ers yr adroddiad ymchwil yn 2011 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau anghyfreithlon o’r ysgol yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi’r canlynol yn eu lle:

Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau cyfredol mewn perthynas â darparu addysg i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; a

b) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod polisïau ac arferion da yn cael eu gweithredu’n drylwyr i ofalu bod plant a addysgir y tu allan i leoliad ysgol yn cael gwell canlyniadau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘wedi’u gwahardd’ a chynnwys:

‘ac i adrodd ar y camau y mae’n eu cymryd i helpu’r plant hynny sydd wedi’u gwahardd neu’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol i gael eu hailintegreiddio cyn gynted â phosibl;’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i ba raddau y mae cyrsiau hyfforddi athrawon yn arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i gefnogi myfyrwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd neu sy’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

‘a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i weithredu argymhellion adroddiad 2013 ar werthuso’r ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu y tu allan i’r ysgol.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5302 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd neu eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol anghenion dysgu ychwanegol neu arbennig, eu bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol am ddim, eu bod yn blant sy’n derbyn gofal, neu y cânt eu dysgu’n aml mewn uned cyfeirio disgyblion;

2. Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan i leoliad ysgol;

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a

4. Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol, er mwyn monitro a gwella eu cyfleoedd a’u canlyniadau addysgol a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i weithredu argymhellion adroddiad 2013 ar werthuso’r ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu y tu allan i’r ysgol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


04/07/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5282 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y potensial enfawr i dwristiaeth yng Nghymru wledig ac yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phryderon y diwydiant ynglyn â sut y bydd y strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth yn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog cynghorau lleol i weithredu canllawiau cynllunio Tan 6 i gynorthwyo'r economi wledig gynaliadwy ac annog arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig drwy alluogi troi adeiladau fferm gwag yn eiddo busnes neu lety yn awtomatig.

3. Yn cydnabod yr amodau amgylcheddol anodd sy'n wynebu ffermwyr sy'n gweithio mewn Ardaloedd Llai Ffafriol (LFA) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu pecyn cymorth LFA i fynd i'r afael â'r heriau unigryw hyn.

4. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau bysiau cynaliadwy fel llinell fywyd i gymunedau gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu digon o gyllid i wasanaethau bysiau gwledig.

5. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol o ran cynorthwyo'r economi wledig a hyrwyddo diwylliant Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd banc ar y stryd fawr i’r economi leol, ac yn gresynu at y ffaith, yn ôl dadansoddiad diweddar ‘The Last Bank in Town’ gan yr Ymgyrch Dros Wasanaethau Bancio Cymunedol, bod tri deg wyth o gymunedau yng nghefn gwlad Cymru ble mae dim ond un banc bellach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘ac yn annog Llywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘weithio gyda’r diwydiant er mwyn datblygu’r potensial hwnnw drwy fwrw ymlaen â’r strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

22

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 2

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

22

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod yr amodau economaidd a’r amodau amgylcheddol anodd y mae ffermwyr sy’n gweithio yn yr Ardal Lai Ffafriol (LFA) bresennol

yn eu hwynebu, yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r dynodiad newydd ar gyfer Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol cyn y dyddiad terfynol yn 2018 ac yn nodi hefyd ymrwymiad y Llywodraeth i ddefnyddio’r dynodiad newydd hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau unigryw hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

17

48

Derbyniwyd gwelliant 5.                   

Gan fod gwelliant 5 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 6 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod rôl hanfodol cyllid yr Undeb Ewropeaidd o ran cefnogi economi cefn gwlad Cymru, ac felly’n credu’n gryf mai’r ffordd orau o ofalu am fuddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn rhan ymroddedig o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

13

5

48

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau rheilffordd sydd ar gael yn rhwydd i ddarparu system drafnidiaeth integredig mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ailagor gorsafoedd rheilffyrdd addas ledled cefn gwlad Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5282 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd banc ar y stryd fawr i’r economi leol, ac yn gresynu at y ffaith, yn ôl dadansoddiad diweddar ‘The Last Bank in Town’ gan yr Ymgyrch Dros Wasanaethau Bancio Cymunedol, bod tri deg wyth o gymunedau yng nghefn gwlad Cymru ble mae dim ond un banc bellach.

2. Yn cydnabod y potensial enfawr i dwristiaeth yng Nghymru wledig ac yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r diwydiant er mwyn datblygu’r potensial hwnnw drwy fwrw ymlaen â’r strategaeth newydd ar gyfer twristiaeth.

3. Yn cydnabod yr amodau economaidd a’r amodau amgylcheddol anodd y mae ffermwyr sy’n gweithio yn yr Ardal Lai Ffafriol (LFA) bresennol yn eu hwynebu, yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu’r dynodiad newydd ar gyfer Ardaloedd â Chyfyngiadau Naturiol cyn y dyddiad terfynol yn 2018 ac yn nodi hefyd ymrwymiad y Llywodraeth i ddefnyddio’r dynodiad newydd hwn er mwyn mynd i’r afael â’r heriau unigryw hyn.

4. Yn cydnabod rôl hanfodol cyllid yr Undeb Ewropeaidd o ran cefnogi economi cefn gwlad Cymru, ac felly’n credu’n gryf mai’r ffordd orau o ofalu am fuddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn rhan ymroddedig o’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

5. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau bysiau cynaliadwy fel llinell fywyd i gymunedau gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu digon o gyllid i wasanaethau bysiau gwledig.

6. Yn nodi pwysigrwydd gwasanaethau rheilffordd sydd ar gael yn rhwydd i ddarparu system drafnidiaeth integredig mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ailagor gorsafoedd rheilffyrdd addas ledled cefn gwlad Cymru.

7. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol o ran cynorthwyo'r economi wledig a hyrwyddo diwylliant Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

13

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


27/06/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5276 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod angen cymorth brys ar fusnesau bach ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn toriad yr haf;

2. Yn gresynu mai'r gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru yw'r uchaf ar dir mawr Prydain;

3. Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;

4. Yn nodi'r cynigion a amlinellwyd yn nogfennau Ceidwadwyr Cymru ‘A Vision for the Welsh High Street’ ac ‘Invest Wales’ a'u cefnogaeth i fusnesau bach ledled Cymru; a

5. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn annog adleoli ac adfywio canol trefi

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

8

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau amgen o gyllido busnesau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi’r cynigion a amlinellir ynCynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig Ymlaengan Blaid Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chanol trefi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

5

11

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach i gynnwys mwy o fusnesau ar y stryd fawr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5276 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod angen cymorth brys ar fusnesau bach ledled Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion am ymgyrch stryd fawr cyn toriad yr haf;

2. Yn gresynu mai'r gyfradd siopau gwag ar y stryd fawr yng Nghymru yw'r uchaf ar dir mawr Prydain ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i leihau ardrethi busnes ar gyfer tenantiaid sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, er mwyn annog adleoli ac adfywio canol trefi

3. Yn cydnabod pwysigrwydd bancio lleol i dwf economaidd llwyddiannus a chynaliadwy busnesau mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o ehangu’r ddarpariaeth bancio cymunedol ac undebau credyd mewn cymunedau gwledig.

4. Yn nodi bod Cyllid Cymru wedi’i gyfyngu yn ei allu i gynnig cyllid am gyfraddau cystadleuol, ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ddulliau amgen o gyllido busnesau.

5. Yn nodi’r cynigion a amlinellir ynCynllun C: Cynllun i Symud yr Economi Cymreig Ymlaengan Blaid Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig a chanol trefi.

6. Yn cydnabod y potensial i brentisiaethau gynyddu elw a chynhyrchiant busnesau bach, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd o wella mynediad at brentisiaethau ar gyfer busnesau bach.

7. Yn cydnabod y cynnydd mewn benthyca gan Gyllid Cymru. Fodd bynnag, yn credu bod angen dull mwy lleol o ran cael gafael ar gyllid, ac felly'n galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i weithio gyda Chyllid Cymru i asesu a yw'r pecyn ariannol a gynigir i fusnesau yn gystadleuol yn y tymor hir;

8. Yn nodi ymhellach bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth i gynorthwyo'r economi genedlaethol a lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

38

52

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


20/06/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.

2. Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

4

12

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5268 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr angen am strategaeth hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru.

2. Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus.

3. Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar.

5. Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

12

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


13/06/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddechrau’r Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5264 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser wedi bod yn weithredol am flwyddyn.

2. Yn gresynu nad yw'r amseroedd aros targed o ran atgyfeirio i driniaeth ar gyfer cleifion canser sy'n cael diagnosis drwy’r llwybr achosion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi eu cyrraedd ers 2008.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod Byrddau Iechyd Lleol yn cyhoeddi eu cynlluniau cyflawni ar gyfer canser a'u hadroddiadau blynyddol ar eu gwefannau i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu craffu ar eu cynlluniau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod gwasanaethau canser yn amserol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn a bod anghenion clinigol ac anghenion ehangach pobl, gan gynnwys cael gafael ar gyngor a chymorth ariannol, yn cael eu diwallu.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


06/06/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5257 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu'r cyfle a roddir gan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd a'r cymorth a roddwyd iddynt gan bobl Cymru.

2. Yn cydnabod cyfraniad gweithwyr nad ydynt yn rhai milwrol i ymdrechion rhyfel olynol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio at gyn-filwyr ac ystyried cyflwyno Cynllun Cerdyn y Lluoedd Arfog, i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau coffaol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gweithio gyda’r lluoedd arfog a phartneriaid eraill i sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i goffáu'r dreftadaeth gyfoethog o aberth, dewrder a gwasanaeth personél milwrol a sifiliaid o Gymru, a phawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad ar adegau o wrthdaro arfog.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


16/05/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5240 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau allweddol ar draws pob portffolio, yn enwedig amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros damweiniau ac achosion brys;

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi enghreifftiau sy'n dangos sut y mae'r Uned Gyflawni wedi gwella cyflawni mewn portffolios penodol, gan sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei addo yn cael ei gyflawni; a

3. Yn annog y Prif Weinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rheolaidd am gynnydd ym mhob maes polisi y gellir ei briodoli'n uniongyrchol i'r Uned Gyflawni.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

37

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion ystadegol a thargedau penodedig ochr yn ochr â holl strategaethau’r llywodraeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i ddarparu manylion am strwythur a chost yr Uned Gyflawni a sut mae'n gweithredu i gyflawni'r rôl a gafodd ei diffinio gan y Prif Weinidog yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 13 Gorffennaf 2011.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3 dileu’r cyfan ar ôl "Weinidog i” a rhoi yn ei le “gynnal dadl flynyddol ar gynnydd yr Uned Gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


09/05/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.26

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5233 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig; a

2. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau dyfodol Cymru o fewn Teyrnas Unedig gref sy'n datblygu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


02/05/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5216 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gwneud hynny'n gyfrifol.

2. Yn gresynu at effaith andwyol ymddygiad anghyfrifol ymhlith cleifion gan leiafrif o bobl sy'n defnyddio GIG Cymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i annog cleifion i beidio ag ymddwyn yn anghyfrifol a hyrwyddo mwy o gyfrifoldeb ymhlith y rhai sy'n defnyddio’r GIG.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

12

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


25/04/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5212 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod potensial Ynys Môn fel canolfan i ynni a thwf economaidd;

2. Yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd Hitachi'n datblygu Horizon Nuclear Power ar safle Wylfa ar Ynys Môn;

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun clir i gefnogi datblygiad Ynys Môn fel canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni; a

4. Yn credu bod yn rhaid i ddatblygiad ynni niwclear ar Ynys Môn gael ei ategu gan gymorth pellach i gymysgedd cadarn o ynni ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

6

5

50

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


25/04/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.08

NDM5211 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod effaith y tywydd garw diweddar ar gymunedau gwledig a busnesau yng Nghymru;

2. Yn nodi'r effaith y mae trafnidiaeth wledig a seilwaith cyfathrebu gwael wedi'u cael ar ymdrechion i fynd i'r afael ag amodau tywydd garw;

3. Yn credu bod yn rhaid i strategaeth ymateb i argyfwng Llywodraeth Cymru fod yn effeithiol wrth ymdrin â'r heriau unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig; a

4. Yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried cronfa galedi i gynorthwyo busnesau yr effeithiwyd arnynt gan dywydd garw.

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


18/04/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5205 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol.

2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2013/2014; a bod y rhewi hwnnw wedi bod ar waith ers 2008/2009.

3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel â phosibl i breswylwyr.

4. Yn gresynu at wrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cyllid canlyniadol i gynorthwyo awdurdodau lleol i rewi'r dreth gyngor ledled Cymru; gan roi cymunedau o dan anfantais o'u cymharu â'r rhai yn Lloegr a'r Alban.

5. Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd o dan bwysau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw'r dreth gyngor yn system drethiant gynyddol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio a allai pwerau newydd sydd wedi’u cynnig gan Gomisiwn Silk ei galluogi i ddatblygu system drethiant decach i gyllido gwariant awdurdodau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5205 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn Lloegr rewi'r dreth gyngor am y drydedd flwyddyn yn olynol.

2. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth yr Alban wedi sicrhau bod cymorth ar gael i awdurdodau lleol yn yr Alban rewi'r dreth gyngor ar gyfer 2013/2014; a bod y rhewi hwnnw wedi bod ar waith ers 2008/2009.

3. Yn credu bod rheidrwydd moesol ar awdurdodau lleol i wario arian cyhoeddus gyda gofal a doethineb; gan sicrhau bod cyfraddau'r dreth gyngor mor isel â phosibl i breswylwyr.

4. Yn credu mai awdurdodau lleol ddylai benderfynu ar lefelau gwariant awdurdodau lleol a'r dreth gyngor, fel rhan o agenda lleoliaeth gynhwysfawr.

5. Yn gresynu ymhellach bod biliau'r dreth gyngor yng Nghymru wedi cynyddu 148 y cant ers 1997/1998, ac yn credu bod cynnydd andwyol o'r fath wedi rhoi pwysau diangen ar aelwydydd sydd o dan bwysau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


20/03/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 13.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5195 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth uwch i agenda lleoliaeth yng Nghymru; gan sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn elwa o fwy o benderfyniadau a grymuso lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

5

16

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


20/03/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5194 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi methiant llwyr a chyson Llywodraeth Cymru i sicrhau gwelliannau ym mywydau pobl Cymru, yn benodol ei:

a) anallu i ddatblygu economi Cymru;

b) methiant i gau bylchau cyrhaeddiad allweddol mewn addysg;

c) perfformiad gwael o ran cyrraedd targedau amseroedd aros ac ymateb y GIG; a

d) aneffeithiolrwydd wrth fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

5

16

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


07/03/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.50

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod yr ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru.

 

2. Yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith gwledydd y DU.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.

 

4. Yn credu bod yn rhaid i’r Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1 dileuyrcynysgogiadau economaidd’ a chynnwys ar ddiwedd y pwynt: ‘er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y DU’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

16

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 2:

 

Yn croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi yn ddiweddar o’r degfed safle i'r wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

8

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘ond yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5180 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod ysgogiadau economaidd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth sylweddol i economi Cymru er gwaethaf y ffaith bod nifer yn parhau i fod o dan reolaeth Llywodraeth y DU.

 

2. Yn croesawu’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gynyddu cystadleurwydd ar draws y DU ar ôl i’r DU godi yn ddiweddar o’r degfed safle i'r wythfed safle ym Mynegai Cystadleurwydd Byd-Eang Fforwm Economaidd y Byd 2012-2013, ond yn gresynu mai Gwerth Ychwanegol Crynswth Cymru yw’r isaf o blith gwledydd y DU ac yn gwrthod derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r gefnogaeth a gynigir ar gyfer masnacheiddio eiddo deallusol academaidd o bob Prifysgol yng Nghymru, i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid yn cael y cyfle gorau i ddatblygu busnesau ffyniannus a chynhenid yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth ar gyfer datblygu economaidd yng ngoleuni’r pryderon a godwyd yn adroddiad Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd 'Small Businesses in Priority Sectors’ ynghylch y dull gweithredu ar sail sectorau.

 

5. Yn credu bod yn rhaid i’r Gweinidog sefydlu targedau clir a mesuradwy ar gyfer dangosyddion economaidd allweddol i hybu cynnydd economaidd a chaniatáu monitro’r cyflenwi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

11

24

48

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


28/02/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys ei chael ar iechyd a lles cleifion;

 

2.Yn nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09;

 

3.Yn mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;

 

4.Yn gresynu bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf;

 

5.Yn gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar hyn o bryd.

 

6.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru;

 

b) sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac

 

c) rhoi sicrwydd y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar hyn o bryd yn cyflawni amseroedd ymateb gwell.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

36

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

a bod rhai cleifion nad ydynt yn cael eu cyfrif fel galwadau brys categori A yn aros am oriau mewn poen nes bod ambiwlans ar gael

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 6c), dileucyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

‘:

 

i) cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac

 

ii) archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

13

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru )

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:

 

buddsoddi i uwchsgilio a hyfforddi staff presennol y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

38

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys ei chael ar iechyd a lles cleifion;

 

2.Yn nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09;

 

3.Yn mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;

 

4.Yn gresynu bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf;

 

5.Yn gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar hyn o bryd.

 

6.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru;

 

b) sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac

 

c) rhoi sicrwydd y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar hyn o bryd yn:

 i) cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac

 

ii) archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


28/02/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.30

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5171 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn nodi pwysigrwydd cydnabod a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig;

 

2.Yn credu y dylid ystyried cyflwyno System Anrhydeddau Cymreig i gydnabod a gwobrwyo’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i fywyd Cymru; a

 

3.Yn croesawu’r gefnogaeth gyhoeddus eang sy’n bodoli dros ddynodi Dydd Gwyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau priodol i gyflawni’r nod hwnnw.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

5

49

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


31/01/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli 99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig.

 

2. Yn mynegi pryder nad oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

 

3. Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid.

 

4. Yn cydnabod gwerth creu partneriaethau rhwng Llywodraeth Cymru a banciau’r stryd fawr, neu sefydliadau ariannol eraill, er mwyn darparu cyllid cyhoeddus i fusnesau lleol yn effeithiol ac yn effeithlon.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau’r cynigion sydd wedi’u hamlinellu ynGweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ a, phan fo’n briodol, ystyried eu hymgorffori yng nghymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

41

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:

 

a deall anghenion ariannol busnesau lleol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

1

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg arian i fusnesau bach a chanolig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:

 

Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o argaeledd cyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru ac yn gresynu wrth y diffyg cynrychiolwyr o fusnesau bach a chanolig ar y panel cynghori.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo i’r cyhoedd fel rhan o’i hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

5

13

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5157 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach a chanolig yn cynrychioli 99.2% o stoc busnesau Cymru a bod mynediad at gyllid yn hollbwysig i hirhoedledd busnesau bach a chanolig.

 

2. Yn mynegi pryder nad oedd 64% o fusnesau erioed wedi clywed am Cyllid Cymru yn ôl arolwg gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru.

 

3. Yn cydnabod y sialensiau economaidd gwahanol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru a phwysigrwydd sicrhau mynediad lleol at gyllid a deall anghenion ariannol busnesau lleol.

 

4. Yn gresynu wrth ddiffyg cynnydd Llywodraeth y DU i annog banciau’r stryd fawr i fenthyg arian i fusnesau bach a chanolig.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau banc busnes sy’n eiddo i’r cyhoedd fel rhan o’i hadolygiad i fynediad busnesau bach a chanolig at gyllid.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r defnydd o Funding Circle ac ystyried rhinweddau cynnig cyllid drwy farchnad Funding Circle, fel rhan o’i hadolygiad o gyllid ar gyfer busnesau bach a chanolig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


24/01/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.31

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.

 

2. Yn nodi pryderon eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd yn y broses o newid y GIG.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y broses o newid gwasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

30

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb unrhyw alw ychwanegol a allai godi yn sgîl ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gwneud.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5144 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith negyddol bosibl y cynigion i ad-drefnu GIG Cymru ar gleifion.

 

2. Yn nodi pryderon eang ynghylch y ffordd anghyson y mae byrddau iechyd lleol yn cynnwys y cyhoedd o ran newid y GIG.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’i harweiniad ar gynnwys y cyhoedd yn y newidiadau i wasanaethau’r GIG i sicrhau na ellir anwybyddu barn y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch dyfodol gwasanaethau’r GIG.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gallu ateb unrhyw alw ychwanegol a allai godi yn sgîl ad-drefnu GIG Cymru cyn y caiff unrhyw newidiadau eu gwneud.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


17/01/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.51

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5134 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r llifogydd difrifol a effeithiodd ar Gymru gyfan yn 2012 a’r distryw a achoswyd mewn cymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn cydnabod gwaith ardderchog y gwasanaethau brys a chryfder yr ysbryd cymunedol wrth fynd i’r afael ag effeithiau llifogydd difrifol.

 

3. Yn cydnabod pwysigrwydd dull gweithredu ar draws portffolios i reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygu ar orlifdiroedd yn cael ei adolygu fel elfen ganolog o’r Bil Cynllunio.

 

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd y bydd y corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi ac yn rheoli’n effeithiol bob ymdrech i fynd i’r afael â llifogydd yng Nghymru.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

39

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘ac yn mynegi gofid y bydd graddfa ac amlder digwyddiadau o’r fath yn siwr o gynyddu wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i lefelau’r môr godi’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

‘a manteision gwybodaeth leol wrth lunio arferion rheoli tir effeithiol, i leihau nifer yr achosion o lifogydd’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o sefydlu Fforwm Llifogydd ar gyfer Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôlyn cael ei adolygu’ a rhoi yn ei le ‘fel rhan o’i pholisi cynllunio

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

5

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

 

a bod Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 yn cael ei ddiwygio ar frys er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth gyfredol'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i drafod telerau Datganiad Egwyddorion diwygiedig ar lifogydd gyda chwmnïau yswiriant, gan fod y Datganiad Egwyddorion presennol yn dod i ben ar 30 Mehefin 2013.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiystyru cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r llifogydd diweddar yn Sir Ddinbych.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â’r ymchwiliad annibynnol sy’n cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych i’r llifogydd diweddar a chyflwyno tystiolaeth iddo.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5134 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r llifogydd difrifol a effeithiodd ar Gymru gyfan yn 2012 a’r distryw a achoswyd mewn cymunedau ledled Cymru ac yn mynegi gofid y bydd graddfa ac amlder digwyddiadau o’r fath yn siwr o gynyddu wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i lefelau’r môr godi.

 

2. Yn cydnabod gwaith ardderchog y gwasanaethau brys a chryfder yr ysbryd cymunedol wrth fynd i’r afael ag effeithiau llifogydd difrifol.

 

3. Yn cydnabod pwysigrwydd dull gweithredu ar draws portffolios i reoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru a manteision gwybodaeth leol wrth lunio arferion rheoli tir effeithiol, i leihau nifer yr achosion o lifogydd.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod datblygu ar orlifdiroedd yn cael ei adolygu fel rhan o’i pholisi cynllunio.

 

5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd y bydd y corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cefnogi ac yn rheoli’n effeithiol bob ymdrech i fynd i’r afael â llifogydd yng Nghymru.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i drafod telerau Datganiad Egwyddorion diwygiedig ar lifogydd gyda chwmnïau yswiriant, gan fod y Datganiad Egwyddorion presennol yn dod i ben ar 30 Mehefin 2013.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


10/01/2013 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.00

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi nad yw prynu maes awyr yn flaenoriaeth fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn nodi ymhellach nad yw’n flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

9

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion mesuradwy ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau busnes llwyddiannus yno.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio, a chan na dderbyniwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


06/12/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16:22

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5114 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu bod Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn aneffeithiol, o ystyried methiant parhaus Llywodraeth Cymru i wella bywydau pobl Cymru.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar y Prif Weinidog i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn amlinellu cynnydd yr Uned Gyflawni o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Rhoi pwyntiau newydd ar ddechrau’r cynnig:

 

Yn gresynu wrth y ffaith, ers sefydlu’r Uned Gyflawni:

 

a) bod nifer y cleifion sy’n cael eu trin o fewn 26 wythnos ac o fewn 36 wythnos wedi gostwng, yn ôl ffigurau mis Medi 2011 a mis Medi 2012 gan StatsCymru;

b) roedd nifer y myfyrwyr a gafodd 5 TGAU A*-C yng Nghymru yn sylweddol is nag yn Lloegr;

c) bod diweithdra tymor hir ymysg pobl ifanc wedi codi 400%, yn ôl ffigurau mis Awst 2011 a mis Awst 2012  gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol;

 

Yn gresynu ymhellach, er gwaethaf yr Uned Gyflawni, bod y Llywodraeth yn dal yn annhebygol o gyrraedd ei tharged o ddileu tlodi tanwydd ymysg pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol erbyn 2012.

 

Gellir gweld yr ystadegau ar amseroedd aros drwy fynd i:

 

http://wales.gov.uk/docs/statistics/2012/121108sdr1942012en.pdf (Saesneg yn unig)

 

Gellir gweld yr ystadegau ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc drwy fynd i:

 

http://www.nomisweb.co.uk/reports/lmp/gor/2013265930/subreports/gor_ccadr_time_series/report.aspx (Saesneg yn unig)

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan nad yw’r Cynulliad wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, na derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.


29/11/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.20

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5106 William Graham (Dwyrain De Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU;

 

b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac

 

c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;

 

b) gweithio i sefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau; ac

 

c) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

37

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

0

41

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

5

12

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2a dileu ‘i adlewyrchu model yr Alban o gymorth hunangyfeiriedig,’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2b, dileusefydlu cofrestr genedlaethol wirfoddol o gynorthwywyr personol i sicrhau bod ganddynt’ a rhoi yn ei le ‘sicrhau bod gan gynorthwywyr personol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

17

49

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

sicrhau bod pobl anabl yn cael gwybodaeth a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu i weithio.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5106 William Graham (Dwyrain De Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) nifer y bobl anabl sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu eu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn isel o’i chymharu â gwledydd eraill y DU;

 

b) diffyg cefnogaeth a gwybodaeth ar gael ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gwasanaeth ynghylch yr ystod o ddewisiadau sydd ar gael iddynt; ac

 

c) nid oes digon o ddewis o Daliadau Uniongyrchol mewn gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru na rheolaeth drostynt.

 

2. Yn cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn briodol ar gyfer pob person anabl.

 

3. Yn cydnabod na fyddai rhagor o ddefnydd o Daliadau Unigol yn digolledu pobl anabl am golli’r lwfans byw i’r anabl.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynnal gofal cymdeithasol a gyllidir yn uniongyrchol ochr yn ochr â Thaliadau Uniongyrchol;

 

b) defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i sicrhau bod defnyddwyr gofal cymdeithasol yn gallu rheoli eu pecynnau gofal a chymorth drwy daliadau uniongyrchol a chyfrifon a reolir gan drydydd partïon;

 

c) gweithio i sicrhau bod gan gynorthwywyr personol y gefnogaeth a’r hyfforddiant priodol i’w harfogi â’r sgiliau i ymdrin ag ystod o gyflyrau;

 

d) annog cynorthwywyr personol i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth os bydd amgylchiadau’n codi nad oedd modd eu rhagweld;

 

e) cydnabod nad yw Taliadau Uniongyrchol yn addas i bawb, ac i gynnal darpariaeth addas ar gyfer y rheini y bydd angen darparu gofal cymdeithasol ar eu rhan o hyd; a

 

f) sicrhau bod pobl anabl yn cael gwybodaeth a chyngor am eu hawliau, a bod gwasanaethau cynghori'n gymwys i gynorthwyo pobl anabl i lywio eu ffordd drwy system annheg a diffygiol yr asesiadau gallu i weithio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

12

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


29/11/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.20

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5105 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth fethiannau hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli grantiau yng Nghymru.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a

 

b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

30

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dweud yn ei hadroddiadRheoli Grantiau yng Nghymru’ y ‘caiff llawer o gynlluniau grant eu rheoli’n wael, anaml mae gwersi yn cael eu dysgu ac anaml mae cyllidwyr yn llwyddo i ddelio â pherfformiad gwael y derbynwyr grantiau’, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y mae'n mynd i'r afael â hyn.

 

Gellir gweld copi o’r adroddiadRheoli Grantiau yng Nghymruyn:

http://www.wao.gov.uk/assets/welshdocuments/Grants_Management_Welsh.pdf

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu bod trefniadau rheoli grantiau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn ariannol, ac nad ydynt yn canolbwyntio digon ar ganlyniadau.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5105 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cyhoeddi datganiadau rheolaidd yn amlinellu’r camau a gymerir i reoli grantiau yn well yng Nghymru; a

 

b) gweithredu mesurau sy’n gwella’r tryloywder sydd ynghlwm wrth wario arian cyhoeddus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


22/11/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.04

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5098 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r effaith negyddol y gall pwysau’r gaeaf ei chael ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac ar fywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

 

2. Yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth liniaru unrhyw faich a roddir ar bobl ledled Cymru oherwydd pwysau’r gaeaf.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Pwysau’r Gaeaf ar draws portffolios i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i fynd i’r afael â’r effaith a gaiff pwysau’r gaeaf ar fywydau yng Nghymru.

4. Yn credu y dylai fod gan un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb cyffredinol dros ymateb i ddigwyddiadau a allai godi oherwydd tywydd difrifol y gaeaf yng Nghymru.

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


15/11/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5092 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro;

 

2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi.

 

3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r cynigion a amlinellir yn ‘A Vision for the Welsh High Street’ a chyhoeddi ymateb yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd yn ymgorffori’r cynigion hyn yn ei hadolygiad adfywio parhaus.

 

Mae linc i ‘A Vision for the Welsh High Street’ ar gael yma (Saesneg yn unig):
http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/a_vision_for_the_welsh_high_street.pdf

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy’n dilyn:

 

Yn gresynu nad yw TAN 4: Manwerthu a Chanol Trefi wedi’i ddiweddaru ers datganoli.

 

Gellir gweld TAN 4 drwy fynd i:

 

http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan4/?skip=1&lang=cy

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

24

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 4, a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’

 

Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i:

 

http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

22

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i gynnig gostyngiadau mewn ardrethi busnes i denantiaid sydd naill ai’n newydd i’r ardal neu sy’n ehangu busnes presennol, ac sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, fel ffordd o ddenu busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'r Stryd Fawr yng Nghymru er mwyn annog adfywio.  

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

41

46

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5092 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro;

 

2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi.

 

3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a

 

4. Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’

 

Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i:

 

http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy

 

5. Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

10

5

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


08/11/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5084 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog;

 

2. Yn mynegi pryder am ddiffyg cydlyniant a chapasiti gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma ac yn nodi’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr;

 

3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac

 

4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

21

41

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 2, dileu popeth cynrôl’ a rhoi yn ei le: ‘Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r

                     

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

20

41

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5084 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn talu teyrnged i aberth ac ymrwymiad aruthrol y rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog;

 

2. Yn nodi’r buddsoddiad diweddar a wnaed mewn gwasanaethau yng Nghymru i gynorthwyo cyn-filwyr sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma, ac yn derbyn pa mor bwysig yw’r rôl y gall y trydydd sector ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau wedi’u cydlynu i gyn-filwyr;

 

3. Yn nodi canfyddiadau Adroddiad Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried yn fanwl sefydlu canolfan breswyl yng Nghymru ar gyfer cyn-filwyr gydag anhwylder straen wedi trawma; ac

 

4. Yn cydnabod y rôl hanfodol y mae cofebion rhyfel yn ei chwarae wrth sicrhau nad yw aberth y bobl hynny sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog byth yn mynd yn angof, ac yn nodi pwysigrwydd gwarchod cofebion rhyfel yn rhan allweddol o dreftadaeth Cymru ac fel canolbwynt ar gyfer cofio.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

1

41

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


18/10/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17:01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5068 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol holl blant Cymru.

 

2. Yn nodi:

 

a) bod lefel y tlodi plant yng Nghymru yn uwch na holl wledydd eraill y DU;

 

b) bod cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU, a bod bylchau cyrhaeddiad allweddol wedi tyfu; a

 

c) bod nifer o anghydraddoldebau iechyd yn bodoli rhwng plant yng Nghymru a gweddill y DU.

 

3. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu â chyflenwi’r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae eu hangen i helpu plant i gyflawni eu potensial llawn.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

34

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

Yn nodi’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant a phobl ifanc a’r buddsoddiad sylweddol y mae wedi ei wneud er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er enghraifft ehangu Dechrau’n Deg, a’i chymorth i helpu plant i gyflawni eu potensial.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

21

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

15

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

17

0

45

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y bydd ffocws newydd ar wella tai ac iechyd y cyhoedd mewn ardaloedd o amddifadedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Estyn yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl i leddfu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5068 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd uchel yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion amrywiol holl blant Cymru.

 

2. Yn nodi’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i hawliau plant a phobl ifanc a’r buddsoddiad sylweddol y mae wedi ei wneud er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er enghraifft ehangu Dechrau’n Deg, a’i chymorth i helpu plant i gyflawni eu potensial.

 

3. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU yn ei chael ar blant sydd eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

 

4. Yn croesawu cyflwyno'r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru.

 

5. Yn credu y bydd ffocws newydd ar wella tai ac iechyd y cyhoedd mewn ardaloedd o amddifadedd yn lleihau anghydraddoldebau iechyd rhwng plant yng Nghymru a phlant yng ngweddill y DU.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Estyn yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso’r Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl i leddfu effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol plant.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

15

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


11/10/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:32

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5058 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru.

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â defnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i dyfu economi Cymru.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

31

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

8

17

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

8

17

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn annog Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich, nad yw’n talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

12

5

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band eang ar gyfer busnesau fel mater o frys, er mwyn helpu i ysgogi’r economi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5058 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ysgogi’r economi, uwchraddio’r seilwaith a chreu swyddi yng Nghymru.

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant i bobl Cymru.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca gwirioneddol ac i greu cwmni hyd braich, nad yw’n talu difidend, i ariannu prosiectau cyfalaf newydd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar Ardaloedd Menter, diwygio ardrethi busnes, strategaeth weithgynhyrchu a band eang ar gyfer busnesau fel mater o frys, er mwyn helpu i ysgogi’r economi.

5. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd, fel ffordd o helpu i ysgogi’r economi.

6. Yn nodi pa mor bwysig i Gymru yw uwchraddio’r seilwaith rheilffyrdd drwy drydaneiddio, yn ogystal â’r manteision yn sgîl hyn i’r economi, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

12

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


04/10/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 17:09

 

NDM5054 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r pryderon a fynegwyd ledled Cymru ynghylch cynigion byrddau iechyd lleol ar gyfer dyfodol gofal newyddenedigol; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau y bydd gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn dal ar gael yng Ngogledd Cymru;

 

b) sicrhau na fydd dim o’r gwasanaethau gofal newyddenedigol presennol yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hisraddio; a

 

c) sicrhau bod capasiti gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn Ne Cymru yn gallu ateb y gofyn.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Dileu is-bwynt 2b a rhoi yn ei le:

sicrhau bod strategaeth ar waith er mwyn gweld gwasanaethau newyddenedigol yn gwella yng Ngorllewin Cymru

 

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5054 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r pryderon a fynegwyd ledled Cymru ynghylch cynigion byrddau iechyd lleol ar gyfer dyfodol gofal newyddenedigol; ac

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) sicrhau y bydd gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn dal ar gael yng Ngogledd Cymru;

 

b) sicrhau na fydd dim o’r gwasanaethau gofal newyddenedigol presennol yng Ngorllewin Cymru yn cael eu hisraddio; a

 

c) sicrhau bod capasiti gwasanaethau gofal newyddenedigol lefel 3 yn Ne Cymru yn gallu ateb y gofyn.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

0

27

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

 


27/09/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14:16

 

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu nad ywRhaglen LywodraethuLlywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.

 

 O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

32

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

 

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu ywlleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu nad ywRhaglen LywodraethuLlywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.

 

Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu ywlleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

27

51

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


05/07/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.15

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5030 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod:

 

a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd;

 

b) hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig yn cael ei danseilio gan seilwaith cyfathrebu a thrafnidiaeth wael; ac

 

c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy;

 

b) sicrhau nad oes oedi pellach wrth gyflwyno Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf;

 

c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy ryddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a

 

d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

33

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 1b a newid i:

 

seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig; ac’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

23

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig.'

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Yn is-bwynt 2a, dileurhoi rhagor o gydnabyddiaeth’ a newid i ‘parhau i roi cydnabyddaieth

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

24

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2b a newid i:

 

sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser;’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

23

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

adolygu’r Grant Cynnal Refeniw i ystyried gwledigrwydd yn well.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5030 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod:

 

a) cymunedau gwledig yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys poblogaethau sy’n heneiddio, mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn ogystal ag arwahanrwydd cymdeithasol ac economaidd;

 

b) seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu yn allweddol wrth gynnal hyfywedd busnesau a chymunedau gwledig;

 

c) diwydiant ffermio Cymru yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys diogelu’r cyflenwad bwyd, y newid yn yr hinsawdd ac iechyd anifeiliaid; a

 

d) y £56.9 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf yn hwb i’w groesawu mewn ardal wledig

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) parhau i roi cydnabyddiaeth i amddifadedd gwledig, gan gynnwys tlodi trafnidiaeth a mynediad cyfyngedig at wasanaethau a thai fforddiadwy;

 

b) sicrhau bod Prosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf yn parhau i gyflawni ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu ar amser;

 

c) cydnabod manteision ysgogi’r economi wledig drwy ryddhad ardrethi busnes a gwell cymorth i fusnesau bach a chanolig gwledig; a

 

d) gweithio mewn partneriaeth ag undebau ffermio a rhanddeiliaid gwledig fel bod cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


28/06/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.45.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5025 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cryfder y teimlad yn erbyn cynigion i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Sir Benfro ac yn mynegi pryder ynghylch yr ymgysylltiad â chlinigwyr a’r cyhoedd;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r Colegau Brenhinol i adolygu perthnasedd y canllawiau diogelwch clinigol a sicrhau bod y canllawiau hyn wedi’u teilwra ar gyfer amodau lleol, ac yn adlewyrchu amodau lleol, gan gynnal arfer gorau; a

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

23

43

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

20

43

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

 

‘gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

20

43

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 3 ar ôl ‘adlewyrchu amodau lleol’ cynnwys ‘, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ymylol,’

 

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5025 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Deoniaeth Cymru ac i adolygu’r arferion a ddefnyddir wrth gadw a hyfforddi meddygon iau gyda’r nod o sicrhau bod yna lefelau staffio digonol ym mhob rhan o Gymru.

 

2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i egluro sefyllfa gyllido bresennol y Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


21/06/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.25.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5015 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau Cymru a’r Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd cymoedd De Cymru;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd wedi’i thrydaneiddio; a

 

4. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan arweiniad Llafur wedi methu â chysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

34

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn gresynu nad oedd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU unrhyw gynlluniau i drydaneiddio Rheilffordd y Cymoedd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 2:

 

Yn nodi na wnaeth Llywodraeth Lafur flaenorol y DU drydaneiddio’r un filltir o Brif Lein y Great Western ac’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 2, dylid dileuASau Cymru’ a rhoiASauyn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

11

45

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

11

0

45

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 4, dileu popeth cyncymunedau’ a rhoiYn croesawu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltuyn ei le

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

15

45

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 4, dileu: ‘Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yng Nghymru o dan arweiniad Llafur’ a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu bod Llywodraethau olynol yn y DU o dan arweiniad Llafur a’r Ceidwadwyr

 

Gan fod gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

1

45

Derbyniwyd gwelliant 9.

 

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi’r ddadl dros ailagor gorsafoedd yn Bow Street ac yng Ngharno.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

23

45

Gwrthodwyd gwelliant 10.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5015 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer twf economaidd yng Nghymru;

 

2. Yn nodi nad yw’r gwariant ar seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, a bod gwariant Network Rail wedi’i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2006;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio datganoli cyllideb Network Rail a’r holl gyfrifoldebau eraill yn ymwneud â seilwaith rheilffyrdd;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod pa mor ymarferol yw cyflwyno cerdyn Oyster ar gyfer Cymru gyfan, gan weithio gyda chwmnïau trên a chwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn gallu teithio o amgylch Cymru yn rhwydd;

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, ASau a’r Adran Drafnidiaeth i drydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a thrydaneiddio rheilffyrdd cymoedd De Cymru;

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu strategaeth integredig i gysylltu De a Gorllewin Cymru i’r brif reilffordd wedi’i thrydaneiddio;

 

7. Yn croesawu’r gwaith sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru’n Un a’r Llywodraeth Lafur bresennol i gysylltu cymunedau ar draws Cymru drwy rwydwaith trafnidiaeth integredig; ac

 

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu manteisio ar HS2, ac i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn cael effaith anffafriol ar wasanaethau prif lein West Coast i Gaergybi.

 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

15

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


14/06/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:30.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5007 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu bod Llywodraethau olynol Cymru wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial cronfeydd yr UE;

 

2. Yn mynegi pryder nad oes gwersi wedi cael eu dysgu yn sgîl methiant cylchoedd gwariant blaenorol arian Ewropeaidd ac nad yw Llywodraeth Cymru erioed wedi comisiynu adolygiad llawn o brosiectau blaenorol; ac

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu achos busnes i sicrhau y ceir yr effaith fwyaf bosibl o brosiectau Gwariant Ewropeaidd yn y dyfodol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

34

43

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

13

43

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

13

43

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ar ôlbrosiectau blaenorolrhoi ‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r fath

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl y gairddatblygu’, gan roistrategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf’, yn ei le.

 

Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

13

43

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5007 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r modd y mae Llywodraethau olynol Cymru, awdurdodau lleol, y sector preifat, Addysg Uwch a’r trydydd sector wedi defnyddio cronfeydd yr UE.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrifysgolion Cymru a sefydliadau yn y sector gwirfoddol a’r sector preifat i ddatblygu strategaeth arloesi a fydd yn sail i raglen Horizon 2020 yr UE ar gyfer y cylch cyllido nesaf.

 

Gellir cael gwybodaeth am raglen Horizon 2020 yr UE drwy fynd i: http://ec.europa.eu/research/horizon2020/index_en.cfm?pg=home&video=none

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

13

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


31/05/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:01

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4998 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011;

 

b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU;

 

c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch;

 

d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac

 

e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban.

 

2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru.

 

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail flaenoriaethu gwariant addysg yn effeithiol er mwyn darparu gwelliannau mewn cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru yn y ffordd orau.

 

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/11 drwy fynd i: http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011/

 

Gellir gweld rhestr y Times o’r 200 o’r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd drwy fynd i: http://www.timeshighereducation.co.uk/world-university-rankings/2011-2012/top-400.html

 

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

44

57

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

18

57

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

10

13

57

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau i gynyddu’r grant amddifadedd disgyblion mewn blynyddoedd i ddod i helpu i ddatblygu gwelliannau pellach mewn cyrhaeddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

39

57

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4998 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod:

 

a) 40% o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol uwchradd ag oed darllen sydd o leiaf chwe mis yn is na’u hoed cronolegol, yn ôl Adroddiad Blynyddol Estyn 2010/2011;

 

b) perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2009 yn is o lawer na gwledydd eraill y DU;

 

c) dirywiad wedi bod yn nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau Safon Uwch;

 

d) perfformiad mewn arholiadau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru yn waeth nag yn Lloegr; ac

 

e) ar hyn o bryd nad oes dim Prifysgolion o Gymru yn rhestr y Times o’r 200 o'r sefydliadau addysg uwch gorau yn y byd er bod 27 o Loegr a 5 o’r Alban.

 

2. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ei chyllidebau addysg yn effeithiol i godi safonau yn system addysg Cymru.

 

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i amlinellu sut y caiff gwariant addysg ei fonitro i sicrhau bod adnoddau, pan fo’n bosibl, yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cyflenwi gwasanaethau’n uniongyrchol i ddysgwyr.

 

4. Yn croesawu’r grant amddifadedd disgyblion sydd wedi’i anelu at wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion difreintiedig.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwario’r grant amddifadedd disgyblion yn cael ei fonitro’n effeithiol er mwyn iddo gyflawni gwelliannau mewn cyrhaeddiad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

13

29

56

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


17/05/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16:41.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;

 

2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;

 

b) gwella tryloywder ei pholisïau; ac

 

c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

32

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

 

sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad yw gweithredu’r cynllun Glastir wedi adlewyrchu pryderon y sector coedwigaeth yn ddigonol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

10

27

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4986 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod y sialensiau sy’n wynebu’r sectorau amaethyddiaeth a choedwigaeth a’u gwerth i economi Cymru;

 

2. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflawni polisïau costeffeithiol i gefnogi’r diwydiannau gwledig hyn; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ymgysylltu’n adeiladol â rhanddeiliaid y diwydiant;

 

b) gwella tryloywder ei pholisïau;

 

c) sicrhau bod ei pholisïau’n cyflawni gwerth am arian ac nad ydynt yn tanseilio swyddi gwledig yn y sector preifat; a

 

d) sicrhau bod y sector coedwigaeth yn cael ei gynrychioli'n ddigonol ar y lefel uchaf mewn unrhyw un corff amgylcheddol newydd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


10/05/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4977 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnwys y papur ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newid’ a gyflwynwyd i gabinet Llywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2012.

 

2. Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â rhannu ei bwriad â phobl Cymru tan nawr ynghylch dyfodol y GIG yng Nghymru.

 

Gellir gweld ‘Law yn Llaw at Iechyd – Pam fod angen newiddrwy fynd i:

http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetmeetings/4thassembly/13mar12/?skip=1&lang=cy

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

27

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 – Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y newidiadau arfaethedig ar y cyfle cyntaf er mwyn hwyluso dadleuon ar sail gwybodaeth ar lefel leol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

24

47

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

 


03/05/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:57.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4972 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) y manteision i economi Cymru a fyddai’n dod yn sgîl rhewi’r dreth gyngor;

 

b) yr arian canlyniadol gwerth £38.9m gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyllido rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr;

 

c) y byddai cost rhewi’r dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol 2012-13 yn sylweddol is na’r £38.9m;

 

d) y manteision y gellid eu gwireddu gyda gweddill yr arian i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru

 

2. Yn galw am dryloywder, atebolrwydd ac effeithlonrwydd llwyr mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileurhewi’r dreth gyngor’ a rhoi yn ei le ‘rhagor o wariant ar seilwaith

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

10

46

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôlyn ’ a rhoi yn ei le ‘Lloegr ac yn credu y dylid defnyddio’r arian hwn i ysgogi economi Cymru, gan gynnwys helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

15

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ar ddiwedd pwynt 1b, ychwanegu:

 

“ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd a gyllidwyd ganddo.”

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 1c ac 1d.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘yn cynnwys gwneud gwell defnydd o wariant ar seilwaith

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod 16 Cyngor Ceidwadol yn Lloegr ac un yng Nghymru wedi methu  â dilyn polisi’r blaid Geidwadol wrth iddynt gynyddu’r dreth gyngor eleni.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

17

46

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd y gwelliant hwn.

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

"Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf."

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4972 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi:

 

a) y manteision i economi Cymru a fyddai’n dod yn sgîl rhagor o wariant ar seilwaith;

 

b) yr arian canlyniadol gwerth £38.9m gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gyllido rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr ac yn credu y dylid defnyddio’r arian hwn i ysgogi economi Cymru, gan gynnwys helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

 

2. Yn galw am dryloywder, atebolrwydd ac effeithlonrwydd llwyr mewn gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys gwneud gwell defnydd o wariant ar seilwaith.

 

3. Yn nodi bod 16 Cyngor Ceidwadol yn Lloegr ac un yng Nghymru wedi methu  â dilyn polisi’r blaid Geidwadol wrth iddynt gynyddu’r dreth gyngor eleni.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

10

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/04/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.19.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4963 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian.

 

2. Yn cymeradwyo unrhyw ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu gwerth am arian y trethdalwyr;

 

3. Yn nodi ymhellach fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth Leol; a

 

4. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i arwain drwy esiampl wrth yrru’r agenda gwerth am arian yn ei blaen.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

38

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r gwerth am arian sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau a arweinir gan y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi’u galluogi i sicrhau codiadau isel yn y dreth gyngor dros y pedair blynedd diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

9

38

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4963 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod yr hinsawdd economaidd anodd yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian.

 

2. Yn cymeradwyo unrhyw ymdrechion gan awdurdodau lleol i wneud arbedion er mwyn darparu gwerth am arian y trethdalwyr; a

 

3. Yn nodi ymhellach fod gormod o wastraff o hyd ar lefel Llywodraeth Leol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

13

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


29/03/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15:58.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4954 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rymuso cymunedau lleol;

 

2. Yn cydnabod y rhan y byddai rhewi’r Dreth Gyngor ledled Cymru wedi’i chwarae o ran grymuso aelwydydd yn ariannol;

 

3. Yn nodi’r rhan y byddai gwella rhyddhad ardrethi busnesau bach yn ei chwarae o ran grymuso busnesau ledled Cymru, gan ganiatáu iddynt ehangu a chyflogi staff newydd;

 

4. Yn annog llywodraeth leol i weithredu mewn ffordd sy’n dryloyw, yn agored ac yn atebol, a fydd yn annog cymunedau lleol i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol;

 

5. Yn nodi y bydd ariannu ysgolion yn uniongyrchol yn eu grymuso i osod eu blaenoriaethau eu hunain; a

 

6. Yn nodi ymhellach y rhan y gall polisi cynllunio datganoledig ei chwarae o ran grymuso cymunedau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

ac yn galw am ystyried cyflwyno Bil Hawliau Cymunedol mewn unrhyw adolygiad er mwyn rhoi pwerau ychwanegol i gymunedau lleol yn y system gynllunio, datblygu tai ac amgylchedd lleol

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

9

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4, rhoi’r pwyntiau canlynol yn eu lle, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi 1.3 y cant yn fwy o gyllid i awdurdodau lleol nag a wnaed yn Lloegr, ac y bydd hynny’n grymuso cynghorau Cymru i rewi’r dreth gyngor, os dymunant

 

Yn nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ceisio cryfhau atebolrwydd ac ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu y byddai agwedd gynaliadwy at gadw’r dreth gyngor yn isel, a ellid ei chyflawni drwy drefniadau llywodraethu cyfrifol gan gynghorau lleol yn hytrach na ffrydiau cyllido o’r brig i lawr, yn helpu i rymuso aelwydydd ledled Cymru yn ariannol’.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:

 

ond yn credu fel sail i hyn bod yn rhaid diwygio ardrethi busnes yn ehangach, gan gynnwys rhoi terfyn ar godiadau bob blwyddyn sy’n rhy uchel.’

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 5 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4, ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn credu y byddai cymunedau lleol yn cymryd mwy o ran mewn democratiaeth leol petai llywodraeth leol yn cael ei chryfhau drwy:

 

a) cyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau lleol;

 

b) cyflwyno pwer cymhwysedd cyffredinol i rymuso cynghorau lleol;

 

c) lleihau nifer y rheolaethau o’r brig i lawr ar awdurdodau lleol, fel dyletswyddau statudol; a

 

d) archwilio’r enghreifftiau gorau a gwaethaf o lywodraeth agored a thryloyw ledled Cymru er mwyn rhannu’r arfer gorau hwn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 5

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

12

53

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 5:

 

ac yn galw am adolygiad cyflawn o atebolrwydd ysgolion, gan archwilio’n benodol atebolrwydd lleol ac arweinyddiaeth briodol i gyrff llywodraethu

 

Gan fod gwelliant 7 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 8 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 9 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 6

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd gwelliant 9.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4954 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau i sicrhau bod mwy o bwyslais yn cael ei roi ar rymuso cymunedau lleol.

 

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi 1.3 y cant yn fwy o gyllid i awdurdodau lleol nag a wnaed yn Lloegr, ac y bydd hynny’n grymuso cynghorau Cymru i rewi’r dreth gyngor, os dymunant.

 

3. Yn nodi darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sy’n ceisio cryfhau atebolrwydd ac ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

17

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


22/03/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.47.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4946 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli;

 

2. Yn credu y byddai cyflwyno refferenda ar gynnydd arfaethedig uwch na 3.5 y cant yn y dreth gyngor flynyddol yn gwella tryloywder, atebolrwydd a democratiaeth yng Nghymru; a

 

3. Yn croesawu camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyhoeddi pob gwariant dros £500.00, ac yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

35

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:

 

Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2 dileu popeth cynyn gwella’ a rhoi yn ei le ‘Yn credu y byddai cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar lefel llywodraeth leol

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2 ‘ond yn credu, wrth i deuluoedd cyffredin wynebu cyfnod anodd, nad yw cost uwch cynnal refferenda lleol yn flaenoriaeth’.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi:

 

Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

17

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4946 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli;

 

2. Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd; a

 

3. Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


15/03/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.00.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4937 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru;

 

2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 y flwyddyn, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol hyd at £15,000, er mwyn hybu creu cyfoeth a hybu cyflogaeth.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

44

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion sy’n ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

4

23

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4937 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru;

 

2. Yn nodi’r rhan effeithiol y gall rhyddhad ardrethi busnes ei chwarae i ysgogi economïau lleol a gwella cyfleoedd cyflogaeth; a

 

3. Yn nodi bod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes yn ystyried materion syn ymwneud â pholisi Ardrethi Busnes yng Nghymru. Bydd y Grŵp yn rhoi adroddiad yn fuan.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


08/03/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.05

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4930 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. 

 

2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.

 

3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor.

 

4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2 y cant ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf.

 

5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

21

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.

 

Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.

 

Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gan fod gwelliant 4 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 5 a 6 eu dad-ddethol.

 

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

21

53

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4930 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad. 

 

2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.

 

3. Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.

 

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.

 

5. Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.

 

6. Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.

 

7. Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

26

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


29/02/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.11.

 

NDM4925 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth adroddiadau diweddar am oedi mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn ac yn cydnabod yr effaith negyddol y gall y rhain eu cael ar ansawdd bywyd y rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn;

 

2. Yn croesawu’r ‘ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru’ sydd i’w gynnal gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i’r afael ag oedi o ran uwchraddio ac atgyweirio, ynghyd â darparu cadair olwyn yn y lle cyntaf, yn enwedig i blant; a

 

b) darparu diweddariad cynhwysfawr am y cynnydd at wella gwasanaethau cadeiriau olwyn ers Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2010.

 

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


29/02/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.04.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4924 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd mewnfuddsoddiad i economi Cymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â'r materion a amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru; a

 

3. Yn cymeradwyo sylwadau’r Athro Brian Morgan a ddywedodd ei bod yn debyg y bydd cau’r WDA a diddymu ‘brand WDA’ yn cael ei gofio fel y penderfyniad polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru mewn cof.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

37

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 1, rhoi "cymharol" ar ôl "Yn nodi pwysigrwydd…"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

 

2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru yn well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4924 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi pwysigrwydd cymharol mewnfuddsoddiad i economi Cymru;

 

2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi;

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol; a

 

4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru yn well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


22/02/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.52

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4919 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod:

 

a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; a

 

b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cydnabod pa mor annigonol yw’r gwasanaethau presennol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma; a

 

b) cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

32

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ychwanegu is-bwynt 1c newydd: “pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma”

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 1.


Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 2a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

1

27

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4919 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod:

 

a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad;

 

b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; ac

 

c) pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011.

 

3. Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

13

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


09/02/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.58.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4912 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

34

57

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

DileuYn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau cyflawni wedi’u costio’n briodol ar gyfer” a rhoi yn ei le “Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu”.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

28

57

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ar ôlpobl dros 50 oedrhoi ‘, cynyddu nifer yr ymwelwyr iechyd’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

52

57

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r diffyg cynllunio manwl yng nghyswllt cyflawni polisïau iechyd allweddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau manwl am gwmpas, cost, cyflawni a chanlyniadau disgwyliedig polisïau iechyd allweddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4912 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cydnabod y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran datblygu cynlluniau ar gyfer gweithredu polisïau iechyd allweddol, fel archwiliadau iechyd blynyddol ar gyfer pobl dros 50 oed a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar benwythnosau a gyda’r nos.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

28

57

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


02/02/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.33.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4905 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

32

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu "y bydd adnoddau digonol ar gael ym mhob adran Damweiniau ac Achosion Brys, ac na fydd yr un ohonynt yn cael ei hisraddio na’i chau" a rhoi yn ei le "bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth"

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4905 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y Byrddau Iechyd Lleol yn ateb y gofyn clinigol ac yn cwrdd ag anghenion y boblogaeth yn ystod gweddill y Pedwerydd Cynulliad.

 

Yn nodi’r rhan allweddol mae unedau mân anafiadau yn ei chwarae o ran lleihau’r pwysau ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

 

Yn cydnabod mai dim ond â staff priodol y gall adrannau Damweiniau ac Achosion Brys weithredu, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i recriwtio a chadw staff nyrsio a chlinigol Damweiniau ac Achosion Brys.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

0

22

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


26/01/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4899 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru;

 

2. Yn gresynu nad yw gallu nifer o ddisgyblion galluog a thalentog yn cael ei herio ddigon yn ysgolion Cymru; a

 

3: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau gorau yng Nghymru, fel mater o frys.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

18

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

8

13

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegryn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4899 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod yn rhaid canolbwyntio ar gefnogi ac ymestyn disgyblion o bob gallu er mwyn gwella cyrhaeddiad a safonau addysgol ar draws Cymru, gan ddechrau yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

 

2. Yn croesawu’r cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cyflawni’r graddau uchaf mewn arholiadau TGAU yng Nghymru er 1999.

 

3. Yn croesawu’r £20 miliwn ychwanegol o fuddsoddiad ar gyfer y Gronfa Amddifadedd Disgyblion y cytunwyd arno yng nghyllideb derfynol mis Rhagfyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd yn monitro’r gronfa i sicrhau y bydd yn cael ei defnyddio i wella safonau addysgol.

 

4. Yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod data am ‘Wariant a Gyllidebwyd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer Ysgolion: Cymhariaeth Cymru/Lloegryn parhau i fod ar gael er mwyn sicrhau bod modd monitro gwariant i wella safonau addysgol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


18/01/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.58

 

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


12/01/2012 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 15.56

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4886 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi â phryder sylwadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, wrth ymateb i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010, fod gan Gymru gymysgedd wael o sgiliau.   

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cydnabod pwysigrwydd darpariaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y galw, yn unol ag argymhellion Adolygiad Leitch; a

 

b) cynnal asesiad llawn o’r angen am sgiliau arbenigol yng Nghymru yn y dyfodol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

34

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileuphryder" o bwynt 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

0

26

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ar ddiwedd pwynt 1 mewnosod "ac felly’n cydnabod pwysigrwydd y ffaith bod Sgiliau Twf Cymru ar fin ailagor a’r Adolygiad o Gymwysterau sy’n parhau fel rhan o’r ymrwymiad sylweddol i sgiliau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu".

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

16

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r £4.88 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd a'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Sgiliau Twf Cymru a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr 2011.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

12

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4886 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1. Yn nodi sylwadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, wrth ymateb i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010, fod gan Gymru gymysgedd wael o sgiliau ac felly’n cydnabod pwysigrwydd y ffaith bod Sgiliau Twf Cymru ar fin ailagor a’r Adolygiad o Gymwysterau sy’n parhau fel rhan o’r ymrwymiad sylweddol i sgiliau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu.   

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cydnabod pwysigrwydd darpariaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y galw, yn unol ag argymhellion Adolygiad Leitch; a

 

b) cynnal asesiad llawn o’r angen am sgiliau arbenigol yng Nghymru yn y dyfodol.

 

3. Yn croesawu'r £4.88 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd a'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Sgiliau Twf Cymru a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr 2011.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


08/12/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4876 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn un Corff Amgylcheddol.

 

2. Yn credu na fu digon o graffu ar achos busnes Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r uno arfaethedig.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Gohirio’r uno arfaethedig nes ei fod wedi bod yn destun craffu cyhoeddus llawn; a

 

b) Rhoi sylw i bryderon difrifol y sector coedwigaeth ynglyn â chynnwys Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn yr uno.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio::

 

NDM4876 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad trwyadl i achos busnes Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig i uno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru yn Un Corff Amgylcheddol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


08/12/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


24/11/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4858 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod:

 

a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru;

 

b) Maes Awyr Caerdydd, ein porth rhyngwladol, yn methu marchnata Cymru yn effeithiol nac ymestyn ei lwybrau hedfan a bod angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth arno ar frys gan Lywodraeth Cymru; ac

 

c) nad oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth nac uchelgais ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth sydd gyda’r gorau yn y byd.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd;

 

b) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac

 

c) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

43

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 1b) a rhoi yn ei le:

 

bod pryderon fod angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

16

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwynt 1c).

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

26

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ym mhwynt 2a) cynluniorhoi:

 

Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i’

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru;

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

12

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cymhorthdal i’r cyswllt hedfan rhwng y De a’r Gogledd ar y cyfle cyntaf ac i ddiystyru rhoi cymhorthdal i gwmnïau hedfan ychwanegol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

51

55

Gwrthodwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn deialog gyda Network Rail a gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cefnogi gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4858 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod:

 

a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru;

 

b) bod pryderon fod angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd;

 

b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru;

 

c) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac

 

d) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn deialog gyda Network Rail a gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl.

 

5. Yn cefnogi gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


17/11/2011 - Welsh Conservatives Debate

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4852 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu’r sector preifat yng Nghymru i dyfu;

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i wella’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru drwy:

 

a. gwella seilwaith a sgiliau;

 

b. darparu eglurder ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r economi;

 

c. hybu mewnfuddsoddiad i Gymru a chefnogi allforion Cymru; a

 

3. Yn nodi y bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael arian Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd am y trydydd tro.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

13

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


09/11/2011 - Welsh Conservatives Debate

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4845 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gwneud economi wledig Cymru yn fwy cystadleuol drwy wneud gwelliannau mewn seilwaith;

 

b) diogelu dyfodol Cymru wledig drwy helpu busnesau gwledig i gynyddu nifer y swyddi a chynorthwyo pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig; ac

 

c) ymrwymo i adolygu’r holl reoliadau a’r fiwrocratiaeth sy’n effeithio ar yr economi wledig.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


09/11/2011 - Welsh Conservatives Debate

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4844 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014;

 

b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â hwy; ac

 

c) datblygu a gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

37

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 2a):

 

drwy, ymysg pethau eraill, archwilio’r posibilrwydd o sefydlu Sefydliad Heddwch yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

15

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt c, dileudatblygu a gweithredu” ac yn ei le rhoiystyried gweithredu

 

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4844 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod cyfraniad ac ymrwymiad anferth holl aelodau’r Lluoedd Arfog Cymreig; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cydnabod yn ffurfiol canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn 2014;

 

b) gwneud popeth posibl i roi sylw i anghenion ein lluoedd arfog a chyn-filwyr gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma, gan gydnabod y bydd hyn yn golygu ymgysylltu’n uniongyrchol â hwy; ac

 

c) ystyried gweithredu Cerdyn penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


02/11/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


19/10/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4834 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr;

 

2. Yn gresynu’n fawr nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi strategaeth ar waith i geisio codi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol, rhagweithiol a thryloyw wrth geisio denu’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i Gymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

36

52

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

 

Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

10

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn gresynu’n fawr bod cyflwr cyllid cyhoeddus ar hyn o bryd yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag cyllido strategaeth sydd â’r nod o godi proffil Cymru yn ystod Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

42

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol.

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4834 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi’r manteision pellgyrhaeddol posibl i Gymru drwy gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr;

 

2. Yn llongyfarch y gwaith a wnaed gan gynghorau Caerdydd a Chasnewydd wrth ddenu a chefnogi Cyfres y Lludw a Chwpan Ryder yn eu tro.

 

3. Yn nodi’r ffaith y caiff proffil Cymru dramor ei wella yn sgil profiadau cadarnhaol unigolion a thimau y gwledydd hynny sydd wedi dewis hyfforddi yng Nghymru cyn Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012; ac

 

4. Yn cydnabod llwyddiant Cymru gyfan yn cynnal Cwpan Ryder 2010 a’r manteision economaidd sydd wedi dod yn ei sgil.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

16

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


13/10/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4821 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) SefydluCynllun Canser Cenedlaethol’; a

 

b) Penodi cydlynydd canser annibynnol i oruchwylio gweithredu’rCynllun Canser Cenedlaetholhwnnw a chodi ymwybyddiaeth o ganser, cydlynu gwasanaethau a hyrwyddo mesurau ataliol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

38

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddechrau pwynt 1:

 

Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly’.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

13

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt b) a rhoi yn ei le:

 

Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

17

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4821 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cymeradwyaeth unfrydol y Cynulliad ar 5 Hydref 2011 i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol ac felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) SefydluCynllun Canser Cenedlaethol’; a

 

b) Adolygu pa gymorth sydd angen ei roi ar lefel Cymru gyfan i gynorthwyo GIG Cymru i fynd i’r afael â chanser.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


06/10/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4817 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol ar gyfer economi gref, amgylchedd deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Cyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodir yn y Datganiad Deddfwriaethol;

 

b) Cynyddu hyblygrwydd system gynllunio Cymru;

 

c) Symleiddio canllawiau cynllunio presennol Cymru;

 

d) Cynyddu cyfraniad cymunedau lleol at y system gynllunio.

 

Gellir gweld copi o’r Datganiad Deddfwriaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-chamber-fourth-assembly-rop.htm?act=dis&id=219617&ds=7%2F2011#dat2

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur dilynol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai adolygiad Llywodraeth Cymru o’r system gynllunio hefyd ystyried Cynllun Gofodol Cymru a’r system cynlluniau datblygu lleol.

 

Gellir gweld Cynllun Gofodol Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

 

http://wales.gov.uk/location/strategy/spatial/documents/?skip=1&lang=cy

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

27

54

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4817 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod y system gynllunio yn hanfodol ar gyfer economi gref, amgylchedd deniadol a chynaliadwy a democratiaeth lwyddiannus; a

 

2. Yn nodi Datganiad Ysgrifenedig Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i’r Cabinet, a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad ar 30 Medi, yn sefydlu panel cynghori annibynnol i roi cyngor ar sut y dylid cynnal gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol, a fydd yn llywio’r Papur Gwyn Cynllunio a’r Mesur dilynol.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 

 


06/10/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4816 William Graham (Dwyrain De Cymru):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser;

 

2. Yn mynegi pryder bod amseroedd aros targed ar gyfer cleifion canser yn cael eu methu; a

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Cyffuriau Canser Cymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, ar ôl “ganser”, rhoi “, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn.”

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

11

1

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le: “Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn.”

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Ni chafodd gwelliant 4 ei ddewis gan fod gwelliant 3 wedi’i dderbyn.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM4816 William Graham (Dwyrain De Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, i raddau helaeth oherwydd bod y boblogaeth hŷn yn tyfu a bod ein technegau diagnosis yn llawer gwell erbyn hyn;

2. Yn nodi bod angen sicrhau bod amseroedd aros i rai cleifion canser yn fyrrach, ac yn cydnabod y gwaith sy’n parhau i fynd i’r afael â hyn; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu Cynllun Canser Cenedlaethol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 


29/09/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4810 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i

 

a) Cydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru;

 

b) Creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer mwy o weithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru; ac

 

c) Cynnig cymorth sy’n diwallu anghenion busnesau.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

5

57

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


22/09/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4799 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch dyfodol llywodraeth leol;

 

2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru; a

 

3. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

34

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le

Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011.

Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011.

http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy

Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011

http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth leol o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

17

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 3, ar ôlgwasanaethau cyhoeddusrhoisy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol’. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

12

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn dal yn bryderus am y pwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru i uno awdurdodau lleol drwy is-ddeddfwriaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am y posibilrwydd o sefydlu chwe grŵp rhanbarthol o awdurdodau lleol yn ogystal â phedwar grŵp addysg rhanbarthol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

39

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfarwyddyd clir a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i lywodraeth leol, gan gynnwys yn y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf ac yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2011.

Linc i bapur “Y dull o gydweithredu’n rhanbarthol: hyrwyddo cysoni” (PC 37-04) ar gyfer cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 21 Gorffennaf 2011.

http://cymru.gov.uk/topics/localgovernment/partnership/council/agendas/37thmeeting/?skip=1&lang=cy

Linc i Ddatganiad 13 Gorffennaf 2011

http://cymru.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2011/13julypublicservices/?lang=cy

2. Yn cydnabod pwysigrwydd bod llywodraeth leol yn rhan sylfaenol o ddemocratiaeth yng Nghymru;

3. Yn cydnabod y pwysau sylweddol a roddir ar lywodraeth leol o ganlyniad i’r toriadau mewn cyllid a orfodwyd gan Lywodraeth y DU; a

4. Yn galw am ddadl lawn ac agored ynghylch cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n cynnwys trafodaeth am ad-drefnu a’r gwasanaethau y tu allan i lywodraeth leol fel iechyd, addysg uwch ac addysg bellach, trafnidiaeth a datblygu economaidd a chymunedol .

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

27

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.


 


22/09/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4798 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith;

 

b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

33

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.


Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:


Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi â phryder bod llai na hanner gorsafoedd rheilffordd Cymru yn hollol hygyrch i bobl anabl;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, drwy ddarparu gwybodaeth glyweledol ac ymestyn y Cerdyn Bws Cydymaith;

 

b) Hybu ymwybyddiaeth a hyfforddiant staff mewn perthynas â gofynion teithwyr anabl.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ymgynghori’n llawn â phobl anabl a chynrychiolwyr grwpiau anabledd wrth ddatblygu unrhyw gynlluniau ar gyfer gwella hygyrchedd i drafnidiaeth gyhoeddus

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd y cynnig wedi’I ddiwygio

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant I’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi gymeradwyo.

 

 


14/07/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4786  Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Gydnabod rôl allweddol twristiaeth yn economi Cymru;

 

b) Hyrwyddo Cymru dramor yn gyfan gwbl;

 

c) Cynyddu nifer y cwmnïau sy’n allforio o Gymru a gwerth allforion o Gymru;

 

d) Sicrhau bod rhagor o fewnfuddsoddi i Gymru yn cael ei annog.

 

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


07/07/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4779 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Sicrhau bod y system gynllunio yn rhoi cyfran i gymunedau mewn datblygu economaidd a chymdeithasol;

b) Diogelu gwasanaethau cyhoeddus mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol gwledig;

c) Diogelu dyfodol ffermydd teulu; a

d) Rhoi'r cyfle i gymunedau reoli asedau cymunedol. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 


07/07/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio .

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd y cynnig.

 

 


29/06/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

NDM4770 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfnod canol (8-13 oed) er mwyn integreiddio’r system ysgol ac i bontio’r gagendor rhwng y Cyfnod Sylfaen a’r Llwybrau Dysgu 14-19.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

38

51

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer plant 8-13 oed gyda’r nod o sicrhau bod y cyfraddau presennol ar gyfer anllythrennedd ac anrhifogrwydd ymhlith plant sy’n gadael ysgol gynradd yn cael eu haneru erbyn 2016.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

40

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu y dylai’r cyfnod canol hwn wella’r trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd drwy ffurfioli partneriaethau rhwng yr ysgolion hyn, cyflogi mwy o athrawon pontio, a sicrhau bod y blynyddoedd cynnar mewn ysgolion uwchradd yn cynnig gwell cydbwysedd rhwng addysgu academaidd a bugeiliol.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

3

11

37

51

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

 

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwgio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i’r cynnig, nid yw’r cynnig wedi ei gymeradwyo.


23/06/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM4743 Nick Ramsay (Mynwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr (2011);

2. Yn nodi â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedicostio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Brosiectau Trafnidiaeth Mawr (2011);

2. Yn nodi â phryder fod llawer o brosiectau trafnidiaeth wedicostio cryn dipyn yn fwy ac wedi cymryd mwy o amser i'w cwblhau na'r disgwyl’;

3. Yn croesawu’r rheolaeth ariannol well dros brosiectau trafnidiaeth a reolwyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gyfer prosiectau trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol.

5. Yn credu ei bod yn hanfodol i gadw prosiectau trafnidiaeth o fewn y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosiectau eraill sydd mawr eu hangen yn gallu bwrw ymlaen.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


23/06/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

NDM4742 Nick Ramsay (Mynwy)

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Cynnal adolygiad cyhoeddus o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005) a ddylai gynnwys y goblygiadau o ran cludo, yr amgylchedd, iechyd ac adeiladu wrth roi’r arweiniad ar waith;

b) Cefnogi moratoriwm ar adeiladau pob datblygiad fferm wynt, ac eithrio cynlluniau microgynhyrchu a phrosiectau sydd â chefnogaeth glir gan y gymuned, yn yr Ardaloedd Chwilio Strategol tan i’r adolygiad o TAN 8 ddod i ben; ac

c) Hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn gwahodd y pwyllgor cyfrifol i gynnal ymchwiliad i faterion effeithiolrwydd ynni ac amgylcheddol polisi Cynllunio ac Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac i adrodd cyn pen tri mis o ddechrau tymor yr Hydref.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1a

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu pwynt 1b

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

 

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oedd datganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 17 Mehefin yn cynnwys ymrwymiad i ddiwygio TAN 8.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod eang o ffynonellau adnewyddadwy er mwyn lleihau effaith cynlluniau trydan adnewyddadwy unigol gymaint ag sy’n bosibl.

Yn credu y byddai mwy o gymysgedd o ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn cynnwys gwynt ar y môr, ynni’r llanw, a microgynhyrchu, yn lleihau’r angen yng Nghymru am y cynnydd sylweddol mewn capasiti gwynt ar y tir.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

3

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 


16/06/2011 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.