Penderfyniadau
Deddfu yng Nghymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
21/01/2016 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Deddfu yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.25
NDM5922 David Melding (Canol
De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.