Ymgynghoriad
Absenoldeb Disgyblion
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Absenoldeb Disgyblion.
Nodwyd materion yn ymwneud ag absenoldebau disgyblion o’r ysgol a’r effaith ar
ddysgu a llesiant ehangach plant a phobl ifanc gyda’r Pwyllgor yn ystod gwaith
craffu blynyddol ar Estyn ym mis Rhagfyr 2021.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn rhanddeiliaid ac
aelodau'r cyhoedd. Bydd yr ymatebion a gawn yn llywio'r cwestiynau y byddwn yn
eu gofyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru a byddant yn cyfrannu i'n hadroddiad
terfynol.
Cyflwyno eich barn
Hoffem ichi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen
- mae'n gofyn am eich barn yn erbyn cylch
gorchwyl yr ymchwiliad. Mae lle hefyd ichi gyflwyno unrhyw safbwyntiau
eraill nad ydynt yn cyfateb yn daclus i'n cylch gorchwyl.
Ar ôl ei llenwi, anfonwch eich ffurflen drwy e-bost at SeneddPlant@senedd.cymru
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad yw dydd Llun 20 Mehefin 2022.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a
Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddChildren@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565