Ymgynghoriad

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - Ionawr 2022

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Consultation results

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor yn gyfrifol am sefydlu, a gosod gerbron y Senedd, weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion o dan Reol Sefydlog 22.2(i). Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y weithdrefn bresennol (PDF 239KB) yn ogystal ag ystyried a oedd yn parhau i fod yn addas at y diben. Hwn oedd y darn sylweddol cyntaf o’i waith yn y Chweched Senedd.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn amlinellu’r modd y mae’r Pwyllgor yn ystyried y weithdrefn bresennol a'r cynigion ar gyfer newid. Mae'r Pwyllgor wedi llunio gweithdrefn wedi’i hailddrafftio (PDF 6MB) (Gweld fel HTML 6 MB) yn sgil profiadau'r Bumed Senedd. Diben y weithdrefn wedi’i hailddrafftio yw rhoi syniad o sut y gall y weithdrefn edrych, yn hytrach na bod yn ddiffiniol.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565