Ymgynghoriad
Rheoli’r amgylchedd morol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 18 Tachwedd 2021 a Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2021
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- ME01 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 513 KB
- ME02 Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro (Saesneg yn unig) PDF 182 KB
- ME03 Dr Richard Unsworth, Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr - Project Seagrass (Saesneg yn unig) PDF 200 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) wedi cytuno i wneud darn byr o waith ar reoli’r
amgylchedd morol.
Bydd y
dystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd mewn ymateb i ymgynghoriad
diweddar y Pwyllgor ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd yn cael ei
defnyddio i lywio’r gwaith hwn. Gwahoddwyd rhanddeiliaid i gyflwyno tystiolaeth
ysgrifenedig ychwanegol os dymunant.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565