Ymgynghoriad

Cymru Sero Net

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ('y Pwyllgor') yn cynnal sesiwn graffu ar y Cynllun gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei gyfarfod ddydd Iau 25 Tachwedd 2021. Bydd y sesiwn hon yn cael ei defnyddio i helpu i lywio blaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer tymor y Senedd hon, a pharatoi'r ffordd ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon.

 

Er mwyn llywio’r sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, fe wnaeth y Pwyllgor wahodd rhanddeiliaid i gynnig eu safbwyntiau cychwynnol ar y Cynllun

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565