Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y Cod Ymddygiad a Gweithdrefnau Cysylltiedig

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Ymgynghoriad ar y Cod Ymddygiad a Gweithdrefnau Cysylltiedig

 

Dogfen sy’n nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Aelodau o’r Senedd yw’r Cod Ymddygiad. Mae ganddo awdurdod statudol o dan y ddeddfwriaeth a sefydlodd y Comisiynydd Safonau annibynnol. Gall Aelodau y cafwyd nad ydynt wedi cadw at y Cod fod yn destun adroddiad i’r Comisiynydd Safonau annibynnol. Bydd y Comisiynydd yn ystyried cwynion o’r fath, a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad os ystyrir bod y Cod wedi cael ei dorri.

 

Ar sail ein gwaith hyd yma, rydym wedi drafftio Cod diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ehangach.

 

Wrth ail-ddrafftio’r Cod, rydym wedi ceisio:

 

-       darparu mwy o eglurder o ran y safonau a ddisgwylir gan yr Aelodau;

 

-       alinio’n well â’r Polisi Urddas a Pharch a fabwysiadwyd gan y Senedd ym mis Mai 2018.

 

Derbyniwyd ymatebion hyd at ddydd Gwener 22 Ionawr 2021.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddSafonau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565