Ymgynghoriad

Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol eu hadroddiadau statudol, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Mae'r adroddiadau'n crynhoi'r gwaith a wnaethant o dan y Ddeddf rhwng mis Mai 2017 a mis Mai 2020.

 

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn cynnal ymchwiliad i'r adroddiadau hyn.

 

Mae'r ymchwiliad hwn yn annibynnol ar unrhyw ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol neu eraill.

 

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd wedi cymryd tystiolaeth ysgrifenedig gan randdeiliaid ar:

 

1. Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r Ddeddf a'i goblygiadau.

 

2. Yr adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus roi'r Ddeddf ar waith a pha mor effeithiol y maent wedi cael eu defnyddio.

 

3. Y cymorth y mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei roi i gyrff cyhoeddus.

 

4. Rôl arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.

 

5. Unrhyw rwystrau eraill rhag gweithredu'r Ddeddf yn llwyddiannus (e.e. Brexit, COVID, ac ati).

 

6. Sut mae sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

 

Ymgysylltu â phobl ifanc

I helpu i lywio ei ymchwiliad, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am glywed barn pobl ifanc am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rydym wedi datblygu gweithgaredd ymgysylltu ‘cyfarfod mewn blwch’. Dyma becyn o adnoddau i alluogi pobl ifanc i rannu eu barn am:

1. Ymwybyddiaeth o, a gwybodaeth am, y Ddeddf a’i gweithrediad;

2. Profiadau o sut mae’r Ddeddf wedi cael ei gweithredu;

3. Safbwyntiau ynghylch y rhwystrau i’w gweithredu.

 

Mae’r pecyn yn cynnwys taflenni gwaith ar gyfer adborth, a fydd yn cyfrannu i’r ymchwiliad ehangach.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddArchwilio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565