Ymgynghoriad

Ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r Fframwaith Cyllidol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i weithredu Deddf Cymru 2014 a’r Fframwaith Cyllidol. Edrychodd yr ymchwiliad hefyd ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o ddatganoli cyllidol a threthi yng Nghymru.


Cylch Gorchwyl

 

Threthiant

  • Egwyddorion treth Llywodraeth Cymru, p'un a yw'r rhain wedi'u cyflawni ac a yw'r drefn dreth bresennol a threthi newydd arfaethedig yn cyd-fynd â'r egwyddorion hyn
  • Pa mor llwyddiannus fu gweinyddiaeth trethi Cymru a chyfraddau treth incwm Cymru
  • Pa newidiadau i dreth y gellid eu cyflwyno yn y dyfodol ac a oes cwmpas ar gyfer dull gwahanol o drethu yng Nghymru
  • Sut mae'r mecanwaith ar gyfer datganoli pwerau ar gyfer trethi newydd Cymru wedi bod yn perfformio

 

Y Fframwaith Cyllidol

  • Ystyried prosesau'r fframwaith cyllidol a sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu i grant bloc Cymru
  • Archwilio sut y caiff Fformiwla Barnett ei gymhwyso a’r meini prawf ar gyfer eithrio cyllid penodol o'r fformiwla
  • Ystyried y mecanwaith ar gyfer addasu’r grant bloc ac effeithiolrwydd y model addasu
  • Adolygu addasrwydd y dulliau o reoli’r gyllideb, fel Cronfa Wrth Gefn Cymru, a'r gallu i fenthyca
  • Gwerthuso sut caiff effeithiau goferu eu trin, a'r mecanwaith ar gyfer cytuno ar yr effeithiau hyn.
  • Gwneud cymariaethau rhwng Cymru a fframweithiau cyllidol rhyngwladol eraill. 

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565