Ymgynghoriad

Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Diben yr ymgynghoriad

Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r pandemig Covid-19 yng Nghymru.

 

Fe ystyriodd yr ymchwiliad effaith y coronafeirws, a'r ymateb iddo, ar y meysydd canlynol:

 

  • Llywodraeth Leol;
  • Tai;
  • Cydraddoldeb;
  • Trechu tlodi; 
  • Hawliau dynol; ac
  • Unrhyw faterion eraill o fewn portffolio'r Pwyllgor. 

 

Ym mis Hydref 2020 cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio’n benodol ar effaith y pandemig COVID-19 ar y sector gwirfoddol. Cyhoeddwyd llythyr ymgynghori newydd ar gyfer y gwaith hwn.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565