Ymgynghoriad

Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (PDF, 161KB). Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol (PDF, 1MB) sy’n cyd-fynd ag ef i’w gweld ar dudalen y Bil ar y we.

 

Cylch gorchwyl

Trafod:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir; Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried adrannau unigol o’r Bil;
  • unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil ac a yw'r Bil yn eu hystyried,
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Arolwg

Yn ychwanegol at yr ymgynghoriad, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar y Bil wedi’i anelu at landlordiaid.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565