Ymgynghoriad

Gradd-brentisiaethau

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â hwy yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

·         A ddaeth unrhyw broblemau i'r amlwg wrth i radd-brentisiaethau cael eu cyflwyno, a pha bethau y gellir eu dysgu o’u cyflwyno?

·         A oedd y  broses a'r meini prawf a ddefnyddiwyd i gymeradwyo cynigion gan ddarparwyr i ddarparu gradd-brentisiaethau yn foddhaol?

·         Beth yw eich barn am y galw am radd-brentisiaethau, a sut y dylid rheoli'r galw hwnnw, o ran amrediad y fframweithiau ac o ran y galw ymysg cyflogwyr a dysgwyr?

·         I ba raddau y dylai gweithgaredd sydd â’r nod o ehangu mynediad fod yn rhan o broses recriwtio prentisiaid gradd, a sut y gellir defnyddio hyn i sicrhau bod carfannau'n gynrychioliadol?

·         A oes gennych unrhyw sylwadau ar gost gradd-brentisiaethau, sut mae gradd-brentisiaethau yn cael eu hariannu a lefel y cyllid a ddyrennir iddynt?

·         Sut mae'r cynllun peilot gradd-brentisiaeth wedi effeithio ar lefel eraill brentisiaethau, os o gwbl?

·         A ddylid newyd unrhyw agwedd ar y dull o ddarparu gradd-brentisiaethau, ac os felly, beth ddylai’r cyfeiriad fod ar gyfer y dyfodol?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn 23 Ionawr 2020.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565