Ymgynghoriad

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (PDF, 835KB). Mae rhagor o wybodaeth am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol (PDF, 5MB) sy’n cyd-fynd ag ef i’w gweld ar dudalen y Bil ar y we.

Cylch gorchwyl

Y cylch gorchwyl oedd i ystyried:

·         egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a ddatganwyd. Wrth ffurfio barn ar hyn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o’r Bil:

o   Rhan 1 - Etholiadau

o   Rhan 2 – Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol

o   Rhan 3 – Hybu mynediad at Lywodraeth Leol

o   Rhan 4 – Gweithrediaethau, aelodau, swyddogion a phwyllgorau awdurdodau lleol

o   Rhan 5 – Cydweithio gan brif gynghorau

o   Rhan 6 – Perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu

o   Rhan 7 – Uno ac ailstrwythuro prif ardaloedd

o   Rhan 8 – Cyllid llywodraeth leol

o   Rhan 9 – Darpariaethau amrywiol

·         unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

·         priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

·         a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,

·         goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Yn ychwanegol at yr ymgynghoriad, lansiodd y Pwyllgor arolwg o Ran 3 o’r Bil hefyd. Cyhoeddwyd dadansoddiad o’r arolwg hwn. Gellir gweld fideo byr, yn seiliedig ar yr arolwg, yma.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ddydd Gwener, 3 Ionawr 2020.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565