Ymgynghoriad

Mynediad at Fancio

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • Y sefyllfa bresennol o ran mynediad at wasanaethau bancio yng Nghymru, gan gynnwys materion yn ymwneud â chynhwysiant ariannol a chynhwysiant digidol.
  • yr amryfal ffyrdd y mae cau canghennau a mynediad at beiriannau codi arian sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio yn gallu effeithio ar gymunedau lleol (er enghraifft yr effeithiau ar fusnes, twristiaeth, y gymdeithas, demograffeg ac adfywio).
  • Deall y broses, y manteision a’r heriau posibl sy’n gysylltiedig â sefydlu banc cymunedol sydd â nifer o ganghennau yng Nghymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn ddydd Gwener, 17 Mai 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565