Ymgynghoriad
Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru: brandio a phrosesu bwyd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 8 Chwefror 2019 a Dydd Iau, 21 Chwefror 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Hybu Cig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 315 KB
- Puffin Produce (Saesneg yn unig) PDF 377 KB Gweld fel HTML (2) 21 KB
- Sgema Cyf PDF 352 KB Gweld fel HTML (3) 23 KB
- Prifysgol Abertawe (Saesneg yn unig) PDF 248 KB Gweld fel HTML (4) 28 KB
- UK HospitalityCymru (Saesneg yn unig) PDF 153 KB Gweld fel HTML (5) 20 KB
- UK Protected Food Names Association (Saesneg yn unig) PDF 328 KB Gweld fel HTML (6) 120 KB
- Danteithion Wright’s (Saesneg yn unig) PDF 94 KB Gweld fel HTML (7) 13 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd,
Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i
ymchwiliad ynghylch ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Bydd yr elfen ddiweddaraf yn
ei ymchwiliad yn canolbwyntio ar frandio a phrosesu bwyd.
Bydd y Pwyllgor yn ystyried:
- Gweithgarwch i hyrwyddo cynhyrchion bwyd o Gymru yn
y DU ac yn rhyngwladol
- Gweithgarwch i gefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru
i ddatblygu eu brandio
- Gweithgarwch gan Lywodraeth y DU i hyrwyddo cynhyrchion bwyd o
Gymru yn rhyngwladol
- Gwerth brandio bwyd yn fwyd lleol, bwyd o Gymru, bwyd o Brydain neu
fel arall
- Gwerth Enwau Bwyd Gwarchodedig (Dangosyddion Daearyddol), gan
gynnwys cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer creu cynllun newydd i'r DU yn
dilyn Brexit
- Gwerth brandio bwyd yn y sector twristiaeth a lletygarwch
- Strategaeth
Llywodraeth Cymru a'r cymorth a roddir i broseswyr bwyd
- Tueddiadau o ran capasiti prosesu yng Nghymru a sut y gallai Brexit
effeithio ar hyn
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad,
mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau
y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol
gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a
gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.