Ymgynghoriad

Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu eich barn am effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr.

Cylch gorchwyl:

Mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ar y canlynol:

  • Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys:
    • Asesu angen;
    • Darparu cymorth, gan gynnwys gofal seibiant;
    • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth;
    • Gwybodaeth a gesglir gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol am ofalwyr a'u hanghenion.
  • Polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ofalwyr.

Bydd yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn yn ymwneud â gofalwyr o bob oed:

  • Nifer yr asesiadau o anghenion gofalwyr a gafodd eu cynnal yng Nghymru ac a yw’r nifer wedi newid ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddod i rym, ac a oes amrywiaeth rhwng awdurdodau lleol.
  • Nifer y gofalwyr sy’n cael cymorth yn dilyn asesiad gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys gofal seibiant, sut y mae hyn wedi newid ers i’r Ddeddf ddod i rym, ac a oes amrywiaeth rhwng awdurdodau lleol.  
  • I ba raddau y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr.
  • A oes gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ddigon o wybodaeth am nifer y gofalwyr yn eu hardaloedd, a’u hanghenion. 
  • Newidiadau eraill ers i’r Ddeddf ddod i rym a allai effeithio ar ofalwyr, er enghraifft, newidiadau yn y gwasanaethau a gaiff y rhai y maent yn gofalu amdanynt.
  • Polisi ehangach Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gofalwyr, a sut y dylid ei ddatblygu.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 20 Medi 2018.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565