Ymgynghoriad
Wrth eich gwaith:rhianta a chyflogaeth yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 6 Chwefror 2018 a Dydd Gwener, 23 Mawrth 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- PMW 01 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 433 KB Gweld fel HTML (2) 24 KB
- PMW 02 - Gwasanaethau eich setliad cyflogaeth (YESS) (Saesneg yn unig) PDF 420 KB
- PMW 03 - UNISON (Saesneg yn unig) PDF 519 KB
- PMW 04 - Sarah Rees (Saesneg yn unig) PDF 307 KB Gweld fel HTML (5) 27 KB
- PMW 05 - Plaid Cydraddoldeb i fenywod (Saesneg yn unig) PDF 219 KB Gweld fel HTML (6) 35 KB
- PMW 06 - FSB Wales (Saesneg yn unig) PDF 534 KB
- PMW 07 - Slate Legal (Saesneg yn unig) PDF 309 KB Gweld fel HTML (8) 66 KB
- PMW 08 - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) PDF 409 KB
- PMW 09 - Chwarae Teg (Saesneg yn unig) PDF 121 KB Gweld fel HTML (10) 42 KB
- PMW 10 - Comisiwn Cydraddoldeb a hawliau dynol (Saesneg yn unig) PDF 210 KB Gweld fel HTML (11) 34 KB
- PMW 11 - Dienw (Saesneg yn unig) PDF 247 KB
- PMW 12 - CIPD Cymru (Saesneg yn unig) PDF 438 KB
- PMW 13 - TUC Cymru (Saesneg yn unig) PDF 464 KB Gweld fel HTML (14) 27 KB
- PMW 14 - Maternity Action (Saesneg yn unig) PDF 140 KB Gweld fel HTML (15) 31 KB
Diben yr ymgynghoriad
Roedd y cylch gorchwyl
yn cynnwys ystyried y canlynol:
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar
ganfyddiadau adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wahaniaethu
mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ei
hamcan cydraddoldeb strategol, sef nodi a lleihau’r achosion o
anghydraddoldeb o ran cyflogaeth, sgiliau a thâl sy’n ymwneud â rhyw, yn
enwedig mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
- Y graddau y mae Cynllun Gweithredu Economaidd a
rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion a
wynebir gan famau;
- A yw’r cynnig gofal plant newydd yn cyd-fynd â
chymorth wedi’i dargedu i famau ddechrau gweithio neu ddychwelyd i’r
gwaith, a
- Graddau’r gwahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd
a mamolaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (ac amrywiannau rhwng
gwahanol grwpiau o fenywod), ac enghreifftiau o arfer da.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i
sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod
wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth
i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565