Ymgynghoriad

Atal Hunanladdiad

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Croesawodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich barn ar faint o broblem yw hunanladdiad yng Nghymru.

Cylch gorchwyl

Roedd y Pwyllgor yn galw am dystiolaeth ar y canlynol:

  • Faint o broblem yw hunanladdiad yng Nghymru a thystiolaeth am ei achosion - gan gynnwys nifer y bobl sy'n marw trwy hunanladdiad, tueddiadau a phatrymau yn yr achosion o hunanladdiad, bregusrwydd grwpiau penodol, a ffactorau risg sy'n dylanwadu ar ymddygiad hunanladdol.
  • Effeithiau cymdeithasol ac economaidd hunanladdiad.
  • Effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru at gyfer atal hunanladdiad - gan gynnwys y cynllun cyflawni i atal hunanladdiad Siarad â fi 2 a'i effaith yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol; effeithiolrwydd dulliau amlasiantaeth o ran atal hunanladdiad; ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd; a lleihau mynediad at foddau o gyflawni hunanladdiad.
  • Cyfraniad y gwasanaethau cyhoeddus o ran atal hunanladdiad, a gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig.
  • Cyfraniad cymunedau lleol a'r gymdeithas sifil i atal hunanladdiad.
  • Strategaethau a mentrau perthnasol eraill Llywodraeth Cymru - er enghraifft Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, casglu data, polisïau yn ymwneud â gwytnwch a diogelwch cymunedol.
  • Dulliau arloesol o ran atal hunanladdiad.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565