Ymgynghoriad

Cyllido Addysg Uwch

Diben yr ymgynghoriad

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad

 

Diben yr ymchwiliad hwn yw rhoi ystyriaeth i gyllido Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, i effaith ariannol polisi grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr yng Nghymru, a gofyn, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru’n darparu gwerth am arian yn y maes hwn.

 

 Nid yw’r polisi cyllido Addysg Uwch rhan-amser yn dod i rym tan 2014, ac felly mae’r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar gyllido Addysg Uwch amser llawn.

 

Mae ein cylch gorchwyl yn cynnwys, yn fras, dair ffrwd incwm ar gyfer cyllido sefydliadau addysg uwch, a rôl cyllid yn y dewisiadau a wneir gan fyfyrwyr:

 

·         Ymchwil – Pa mor effeithiol yw sefydliadau addysg uwch o ran sicrhau incwm ar gyfer gwaith ymchwil, gan gynnwys cyllid ar gyfer gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

·         Incwm a chymorth ar gyfer ffioedd dysgu - Pa effaith ariannol a gaiff y polisi ffioedd dysgu newydd, a gyflwynwyd yn 2012, sy’n caniatáu i sefydliadau addysg uwch godi hyd at £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr am gyrsiau addysg uwch, a beth yw goblygiadau ariannol grant ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru?

 

·         Cyfleoedd am incwm arall, neu fygythiadau eraill i incwm - Pa mor bwysig  i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw’r ffrwd o incwm o ffioedd dysgu a geir gan fyfyrwyr sy’n hanu o’r tu allan i Gymru, gan gynnwys myfyrwyr tramor, a beth yw canlyniadau ariannol newidiadau eraill yn y farchnad addysg uwch, yn awr neu yn y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno darparwyr preifat?

 

·         Dewisiadau i fyfyrwyr - Pa ystyriaethau ariannol sydd gan fyfyrwyr pan fyddant yn penderfynu a ydynt am gael addysg uwch, a beth yw effaith grantiau ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar ddewis yr unigolyn?

 

Mae dwy gyfres o gwestiynau yn yr ymgynghoriad – un sydd wedi’i hanelu at sefydliadau ac un sydd wedi’i hanelu at fyfyrwyr a / neu eu rhieni/warcheidwaid.

 

Bydd hefyd arolwg manwl i fyfyrwyr, y gellir ei lenwi gan fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sydd ym mlynyddoedd 12 a 13, a myfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n astudio mewn sefydliadau addysg uwch ar hyn o bryd.

 

Atebwch y gyfres o gwestiynau sy’n fwyaf perthnasol i chi.

 

Dogfennau ategol