Ymgynghoriad

Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Peter Black AC yw Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru). Roedd Peter Black AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 29 Tachwedd 2011. Cafodd ganiatâd gan y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Fil ar 1 Chwefror 2012. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi ailgyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.


Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 13 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ddiwygio enw byr y Bil. Yr hen enw oedd Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) a’r enw newydd yw Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (gwelliannau 65 a 99).

Gwybodaeth am y Bil

Diben y Bil yw sefydlu cyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru a gwneud rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â rheoli’r safleoedd hyn a’r cytundebau ar gyfer y cartrefi symudol sydd arnynt.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Helen Finlayson