Ymgynghoriad
Rheoli Asedau
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 3 Rhagfyr 2012 a Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i’r broses
o Reoli Asedau. Yn benodol, edrychodd y Pwyllgor ar:
- y prosesau o ran rheoli ystâd
Llywodraeth Cymru ei hun; a
- y canllawiau a’r gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru
o ran rheoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, a’i
gwaith yn hyrwyddo arferion da yn hyn o beth.
Yn ystod yr ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor ystyried:
- a yw rheoli asedau
yn gysylltiedig ag amcanion polisi ac amcanion strategol ehangach,
yn Llywodraeth Cymru, a thrwy’r sector cyhoeddus yn ehangach?
- pa wersi a ellir eu dysgu, neu sydd wedi’u dysgu, o
arferion da yng Nghymru, neu yn rhywle arall, ar hyn o bryd, o ran y modd
y gellir gwella dulliau rheoli asedau yn y sector cyhoeddus.
- pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i reoli
asedau mewn modd strategol, a chyflwyno mentrau ar gyfer gwella
effeithiolrwydd y dulliau o reoli asedau drwy’r sector cyhoeddus yng
Nghymru?
- yn 2010, gwnaed yr argymhellion a ganlyn gan Swyddfa
Archwilio Cymru, ac o’ch profiad chi, i ba raddau y gwnaed cynnydd yn
dilyn yr argymhellion hyn?
·
- dylai Llywodraeth Cymru hwyluso rheolaeth fwy effeithiol
o dir ac adeiladau ar draws Cymru drwy ymgynghori â chyrff cyhoeddus i
ddarganfod pa ganllawiau, gwybodaeth, cymorth neu gymhellion pellach sy’n
angenrheidiol i annog dull gweithredu gwell sydd wedi’i gydgysylltu’n
well ar gyfer rheoli tir ac adeiladau;
- sicrhau bod strategaethau tir ac
adeiladau wedi’u diweddaru a’u bod yn cysylltu’n glir ag amcanion corfforaethol
ac amcanion y gwasanaeth;
- cynnwys yr holl randdeiliaid yn y
gwaith o ddatblygu strategaethau datblygu tir ac adeiladau, gyda
pherchnogaeth o’r strategaethau ar y lefel uchaf;
- datblygu cynlluniau gwasanaeth tir
ac adeiladau sy’n cysylltu â’r strategaeth tir ac adeiladau
corfforaethol;
- integreiddio’r gwaith o reoli tir
ac adeiladu â’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, cynllunio gweithluoedd a
strategaethau TGCh, gan wneud rhagor i wella defnydd ohonynt drwy
ddulliau gweithio hyblyg a rhesymoli tir ac adeiladau;
- sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau
dros reoli tir ac adeiladau wedi’u diffinio, eu deall a’u cyfathrebu’n
glir.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Gareth Price