Ymgynghoriad

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Os caiff ei basio, bydd y Bil yn galluogi newidiadau i’r ffordd y mae GIG Cymru yn caffael gwasanaethau gofal iechyd. Nid yw’r Bil ei hun yn cyflwyno trefn gaffael newydd; mae’n cynnwys pwerau  i wneud rheoliadau a chanllawiau i Weinidogion Cymru osod trefn newydd mewn is-ddeddfwriaeth. Y bwriad a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yw galluogi cyrff iechyd ac awdurdodau lleol i fanteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio prosesau caffael i gefnogi’r sector yng Nghymru yn well, a mynd i’r afael ag anghysondebau â newidiadau yn nhrefniadau caffael y gwasanaeth iechyd sy’n cael eu cynnig yn Lloegr.

Mae’r Pwyllgor yn ceisio barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodir;

Yn benodol, mae’r Pwyllgor am geisio barn ar y materion a ganlyn:

>>>> 

>>> Egwyddorion cyffredinol Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), gan gynnwys yr angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd.

>>> Y pŵer yn y Bil i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatgymhwyso darpariaethau Bil Caffael Llywodraeth y DU (ar ôl ei basio) a fyddai fel arall yn gymwys ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

>>> Y pŵer yn y Bil i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i ddatblygu a gweithredu trefn gaffael newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghymru drwy is-ddeddfwriaeth.

>>> Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>> A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.

>>> Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.

>>> Y dull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynigion polisi a deddfwriaethol a adlewyrchir yn y Bil, gan gynnwys y dull o ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid.

<<<< 

 

Hoffem i chi gyflwyno eich safbwyntiau gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon.

 

Mae templed ar gael i’w lawrlwytho er mwyn i chi ddrafftio eich ymateb cyn ei gyflwyno. Fodd bynnag, gofynnwn i chi beidio â chyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylid cyflwyno pob ymateb drwy'r ffurflen ar-lein.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r ffurflen yw 17:00, ddydd Mercher 15 Mawrth 2023.

 

Rydym yn cydnabod bod yr amserlenni’n dynn. Mae’r terfyn amser hwn wedi’i bennu er mwyn gallu ystyried cyflwyniadau ysgrifenedig pan fydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth lafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Byddem yn eich annog i gadw eich ymateb yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr hoffech dynnu sylw'r Pwyllgor atynt.

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565