Ymgynghoriad

Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol.

 

Dros y degawd diwethaf, mae gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd wedi lleihau yn sylweddol. Mae sawl awdurdod wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal rhai o'i gwasanaethau i gynghorau cymuned, grwpiau gwirfoddol a mentrau cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae rhai cyfleusterau wedi cau, tra bod eraill wedi cael eu cydgrynhoi i ffurfio siopau un stop mwy o faint, sy’n darparu gwasanaethau ychwanegol fel cymorth tai neu gyngor ariannol.

 

Mae awdurdodau lleol yn defnyddio nifer o fodelau i ddarparu eu gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: darparu gwasanaethau yn fewnol yn unig, darparu gwasanaethau drwy drefniadau partneriaeth, darparu gwasanaethau drwy gwmnïau masnachu awdurdodau lleol (LATCs), contractio trefniadau rheoli i sefydliadau dielw, neu drosglwyddo asedau i grwpiau cymunedol.

 

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar gyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol, ac yn archwilio’r heriau y mae cynghorau yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau hyn. Bydd yr ymchwiliad hefyd yn archwilio’r modelau darparu amrywiol sy’n cael eu defnyddio, a’r manteision sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny.

 

Yn benodol, bydd yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn:

 

Cyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;

>>>> 

>>>    Cyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;

>>>    Yr heriau ariannol a gweithredol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol hyn;

>>>    Trefniadau a strategaethau ymadael awdurdodau lleol ar gyfer achosion lle nad yw’r modelau darparu amgen a ddefnyddir yn llwyddiannus;

>>>    Sut mae’r broses o ddarparu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn rhyngweithio â gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd;

>>>    Sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn defnyddio modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau, a’r manteision canfyddedig sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny;

>>>    Arfer da o ran sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau lleol hamdden a llyfrgelloedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

<<< 

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565