Ymgynghoriad

Bil Bwyd (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig waith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Bwyd (Cymru) (y Bil). Er mwyn helpu i lywio ei waith craffu, mae'r Pwyllgor yn gofyn am farn ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi datganedig.

 

Diben datganedig y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

>>>> 

>>>sefydlu 'Nodau Bwyd' i helpu i gyflawni prif amcan polisi'r Bil;

>>>ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hyrwyddo’r nodau bwyd;

>>>sefydlu Comisiwn Bwyd Cymru sydd â'r nod o hyrwyddo a hwyluso datblygiad y nodau bwyd gan gyrff cyhoeddus, ac i sicrhau y cyflawnir hwy;

>>>ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol;

>>>ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru) wneud a chyhoeddi cynllun bwyd lleol

<<< 

 

Cylch gorchwyl

Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig ar y materion a ganlyn:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol Bil Bwyd (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i wireddu'r bwriad polisi datganedig. Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried agweddau unigol ar y Bil:

>*>*>*

***Nodau bwyd a thargedau

***Comisiwn Bwyd Cymru

***Y strategaeth fwyd genedlaethol

***Cynlluniau bwyd lleol

***Materion cyffredinol gan gynnwys ystyr termau, rheoliadau, dehongliad, a chychwyn

<*<*<*

>>>Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

>>>goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

<<< 

 

Sut i roi eich barn

Croesawodd y Pwyllgor eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl uchod.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Gwener 27 Ionawr 2023.

 

Er eglurder, nid oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565